Amdanaf fi: Lucy

Awdur: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 4 Mehefin 2021

Ymunais â Mentora ITM ar ddiwedd 2017, ar ôl cael fy ysbrydoli gan y genhadaeth sy’n sail i’r prosiect yma ac oherwydd fy mod yn dymuno cefnogi pob person ifanc i weld pwysigrwydd canolog ieithoedd a diwylliannau i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rwy’n dal i gael fy ysbrydoli bob dydd gan ein pobl ifanc, ein myfyrwyr prifysgol, fy nghydweithwyr, a’r posibiliadau ar gyfer ieithoedd yma yng Nghymru.

Fe wnes i raddio o Brifysgol Caerdydd ar ôl gwneud BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Eidaleg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Ewropeaidd. Ar ôl cwblhau fy Ngradd Meistr, ymunais â Chwmni Buddiannau Cymunedol yn ne-orllewin Cymru a oedd yn defnyddio cerddoriaeth a thechnoleg i geisio ail-ennyn diddordeb pobl mewn dysgu, hyfforddi a gwaith. Trwy fy ngwaith, bûm yn gweithio gyda phobl ifanc ag anableddau corfforol a meddyliol, gyda throseddwyr ifanc, gyda phobl ifanc mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion, gofalwyr ifanc ac oedolion a oedd yn cael trafferth gyda diweithdra tymor hir, i grybwyll rhai yn unig. Roedd cyflwyno gweithdai, datblygu cwricwlwm ac offer newydd i ennyn diddordeb y bobl hyn, ynghyd â chyflawni achrediadau, yn gwneud i mi feddwl eto am rôl ieithoedd a diwylliannau, a’u rôl ganolog wrth ddatblygu cydlyniant cymdeithasol, hyder personol ac fel sbardun ar gyfer dyheadau. Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ‘fynd yn ôl’ at ieithoedd ac ar ôl blwyddyn neu ddwy yn mireinio fy sgiliau ymgysylltu, cyflwyno a rheoli partneriaethau, cefais fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Prosiect Mentora ITM.

Rwyf wedi arwain y gwaith o ddatblygu gweithgareddau gwahanol, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, trawsnewid y prosiect i fod yn rhaglen gwbl ddigidol. Rwyf hefyd wedi arwain y broses o ehangu’r prosiect i gynnwys gweithio gyda dros hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru, a datblygu ffrydiau prosiect sy’n targedu dysgwyr ôl-16 a chreu adnoddau athrawon. Rwyf hefyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu partneriaeth â rhanbarth Castilla y León yn Sbaen, gan addasu ein model i edrych ar sut i gefnogi ei chyd-destun ieithyddol.

Gan fy mod i wir yn credu yn y prosiect ac am fod gennyf lawer o dystiolaeth i gefnogi ei effeithiolrwydd, datblygais chwaer brosiect, Language Horizons, yn 2018 a dderbyniodd arian gan yr Adran Addysg yn Lloegr. Arweiniais y prosiect hwn nes iddo ddod i ben yn 2020, yn dilyn pandemig COVID-19. Roedd Language Horizons yn brofiad mentora cyfunol hynod lwyddiannus a oedd yn cynnwys datblygu partneriaeth rhwng Prifysgol Sheffield Hallam, Prifysgol Sheffield, Prifysgol Warwick a Phrifysgol Coventry. Trwy’r prosiect hwn, cefais brofiad helaeth mewn dylunio a chreu profiadau ar-lein yn ogystal â dod i ddeall fframweithiau profi a gwerthuso defnyddwyr yn well. Dysgais hefyd fy mod i wir yn mwynhau gweithio ar y rhyngwyneb rhwng profiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Rwyf hefyd wedi cael y pleser o gefnogi sawl grant ymchwil sy’n gysylltiedig â’r prosiect, popeth o ganfod ffynonellau cyllid posibl, i gyflawni yn unol â’n hallbynnau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi ar faterion yn ymwneud ag addysg ieithoedd, ieithoedd yng Nghymru a mentora fel dull i gynyddu cymhelliant dysgwyr. Rwyf wir yn mwynhau cyflwyno ein hymgysylltiad a’n hymchwil mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, a hynny fel siaradwr gwadd a phrif siaradwr dros y pedair blynedd diwethaf.

Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn rhan o raglen fawreddog o’r enw ASPECT sy’n cefnogi prifysgolion i ddatblygu eu hymchwil gwyddorau cymdeithasol yn gynigion busnes hyfyw. Fel rhan o’r rhaglen rwyf wedi dysgu sgiliau busnes newydd a fydd yn caniatáu i ni dyfu a datblygu’r prosiect er mwyn cyrraedd mwy a mwy o bobl ifanc. Cymerwch gip ar y blog hwn neu mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen hyfforddi yma.  Yn ein hachos ni, mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn ddal ati i gyflwyno ein prosiect a chyflwyno mwy o’r prosiect mewn mwy o leoedd, sydd ynddo’i hun yn obaith hynod gyffrous.

Y tu hwnt i’m rôl yng Nghaerdydd a Mentora ITM, yn ddiweddar cefais fy nghyflogi fel Ymgynghorydd Addysg gan Ysgol Economeg Llundain i ddatblygu rhaglen i ysgolion i gefnogi menter SHAPE yr Academi Brydeinig, sy’n ceisio cynyddu amlygrwydd y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a’r pynciau celfyddydol ar draws y gymdeithas. Mae’r prosiect hwn yn dilyn dull pedair cenedl wrth ddelio â’r anawsterau y mae pynciau SHAPE yn eu hwynebu ac mae’n bwriadu dod o hyd i ffyrdd newydd o ennyn diddordeb pobl ifanc yng ngwerth y pynciau hyn. Rydyn ni’n datblygu adnoddau i ddysgwyr a hyfforddiant i athrawon i gefnogi’r uchelgais hon.

I mi, gweithio ar draws addysg i dorri ar draws a herio safbwyntiau yw rhan orau fy swydd. Wrth i ni geisio ailffurfio ein byd wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19, does dim modd anwybyddu rôl ganolog ieithoedd a chyfathrebu. Byddwn ni yno yn atgoffa’r byd o’u pwysigrwydd – mae hynny’n sicr!

Dilynwch @2210Lucy ar Twitter.