
CEFNOGWCH EICH PLENTYN
Gyda datblygiadau enfawr mewn technoleg, mwy o globaleiddio, a byd mwy hygyrch a rhyng-gysylltiedig, mae gweddill y byd yn agosach atom nag erioed o'r blaen. Ac eto, yn rhyfedd iawn, mae’r nifer sy’n astudio ieithoedd yn y DU wedi dirywio'n sylweddol ers dechrau'r 2000au.
Ceir nifer o resymau pam y bydd dysgu ieithoedd yn helpu eich plentyn/plant i ffynnu, datblygu a rhagori wrth iddynt symud ymlaen drwy fywyd. Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch gefnogi eich plentyn/plant i ddysgu iaith yn ogystal â rhaglenni gwahanol ar-lein ac o fewn ein cymunedau sy’n gallu eich helpu i wneud hyn mewn ffyrdd hwyliog a chyffrous. Mae Cwricwlwm Cymru yn rhoi mwy a mwy o bwys ar ieithoedd, felly mae'n gyfnod cyffrous ar gyfer dysgwyr.