Penwythnosau Hyfforddi 2023

Mae cyffro’r ddau benwythnos hyfforddi mentoriaid gwych ym mis Medi i’w deimlo o hyd yn swyddfa Mentora ITM. Roedd yn bleser croesawu oddeutu 200 o fyfyrwyr gwych ac ysbrydoledig o bob cwr o Gymru i Brifysgol Caerdydd ar gyfer ein hyfforddiant hwyliog a rhyngweithiol!

Roedd cynnwys yr hyfforddiant yn llawn dop er mwyn sicrhau bod gan ein mentoriaid newydd y sgiliau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus wrth eu gwaith newydd. Ymhlith pethau eraill, trafodon ni rôl y mentor, sgiliau a rhinweddau mentor da a materion diogelu. Dyma eiriau rhai o’n myfyrwyr hyfryd am y penwythnos Hyfforddiant Mentora ITM:

“Roedd yr hyfforddiant yn wych, helpodd fi i weithio ar bethau dw i’n eu cael yn anodd a rhoddodd hyder a’r gallu imi weld pethau’n wahanol. Doeddwn i ddim yn disgwyl i’r hyfforddiant fod cystal ag oedd e, roedd e gymaint yn well nag o’n i’n ei ddisgwyl.”

“Er fy mod i wedi bod yn fentor o’r blaen, dw i wastad yn synnu pa mor angerddol a brwdfrydig mae tîm y prosiect ITM. Yn bendant mae’r hyfforddiant wedi darparu’r sgiliau sydd eu hangen arna’ i i fod yn fentor effeithiol ac wedi fy helpu i ymgyfarwyddo â’r cwricwlwm Newydd i Gymru.”

Roedden ni hefyd yn gyffrous iawn i groesawu Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd i’r hyfforddiant Caru Darllen cyntaf erioed a chael cyfle i sgwrsio gyda hi am ein prosiect peilot yma ar gyfer darllen. Nod y prosiect yw ysbrydoli dysgwyr cynradd cyndyn i fagu diddordeb mewn llyfrau a mwynhad o ddarllen. Roedd y mentoriaid wedi mwynhau’r sesiwn lle roedden nhw’n dysgu bod eu cyrff, eu lleisiau a’r gofod o’u cwmpas yn adnoddau gwych i fod yn fentor effeithiol a hyderus. Serch hynny, peidiwch â chredu’n geiriau ni’n unig, edrychwch ar yr adborth hyfryd cawson ni am ein hyfforddiant Caru Darllen:

“Roedd yr hyfforddiant llawer yn fwy trefnus nag o’n i’n ei ddisgwyl. Roedd digonedd o adnoddau ac roedd cymaint o gymorth yn ystod y dydd. Roedd hi hefyd yn braf iawn gwybod cymaint roedd yr arweinwyr yn credu ynddon ni – roedd yn eithaf ysbrydoledig!”

“Roedd [yr hyfforddiant] mor gynhwysol a chyfeillgar, roeddwn i wir yn teimlo y gallwn i ddysgu a gofyn cwestiynau mewn amgylchedd diogel. Nid yn unig dw i’n teimlo’n hyderus y bydda i’n gallu cynnal y sesiynau mentora, ond y bydda i hefyd yn gallu gofyn am gymorth ar hyd y ffordd.  Dw i wir yn gwerthfawrogi pa mor groesawgar roedd yr holl benwythnos yn teimlo a faint o ymdrech aeth mewn iddo!”

Rydyn ni wrth ein bodd bod 150 o gyn-fentoriaid yn ymuno â ni i fentora unwaith eto eleni ar gyfer y ddau brosiect. Dyma dyst bod ein myfyrwyr wedi cael profiadau calonogol iawn yn eu hysgolion yn ogystal â’r ymdeimlad o gyflawniad a hapusrwydd a ddaw law yn llaw â mentora. Hoffwn ni hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i nifer o’n cyn-fyfyrwyr am eu help yn ystod y penwythnos hyfforddi ac am rannu eu profiadau mentora hyd yn hyn, sydd wrth gwrs yn fuddiol dros ben.

Yn wir, ein mentoriaid sydd wrth wraidd ein prosiect ac mae’n amhosibl peidio â phwysleisio’r dylanwad mawr maen nhw’n cael ar ein dysgwyr ifanc. Mae’r ystadegau’n siarad cyfrolau; yn 2022 dywedodd 41.8% o ddysgwyr a gymerodd ran yn y sesiynau mentora y bydden nhw ‘yn bendant’ neu ‘siŵr o fod’ yn dewis Iaith Ryngwladol ar gyfer TGAU. Mae hynny’n cymharu â dim ond 16% o ddysgwyr a atebodd yr un cwestiwn yn yr arolwg sylfaenol i ddysgwyr. Mae mentora’n gwneud gwahaniaeth.

Rydyn ni’n gyffrous iawn i garfan 2024 ddechrau ar eu mentora a gweithdai Cysylltu Ieithoedd. Pob lwc i chi i gyd – rydyn ni gyda chi bob cam o’r ffordd!

This site is registered on wpml.org as a development site.