Tynnwyd sylw at y prosiect fel un o chwe phrosiect o Brifysgol Caerdydd a oedd yn haeddu cydnabyddiaeth briodol am ei gyfraniad at arloesi.
"Mae'r Consortiwm yn grymuso ysgolion i wella deilliannau i bob dysgwr. Mae'r Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern wedi chwarae rhan allweddol yn ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr. Mae'r cynllun mentora wedi amlygu'r sgiliau, cyfleoedd symudedd a manteision llesiant sydd ar gael i'r rheini sydd â sgiliau iaith. Mae'n helpu i godi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd modern addysg uwch ac ysgolion uwchradd partner."
Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr, Consortiwm Canolbarth y De
CWPAN COFFA THRELFORD, SEFYDLIAD SIARTREDIG IEITHYDDION (2017)

Ym mis Tachwedd 2017, dyfarnodd y Sefydliad Siartredig Ieithyddion (CIOL) a'i gorff dyfarnu Ymddiriedolaeth Addysgol y Sefydliad Siartredig Ieithyddion (IoLET) Gwpan Coffa Threlford i Brosiect Mentora Myfyrwyr ITM, a roddwyd am feithrin astudio ieithoedd.
"Mae CIOL yn falch iawn o gael wobrwyo Cwpan Coffa Threlford i'r Prosiect Mentora Myfyrwyr, sy'n gosod israddedigion o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol fel llysgenhadon ar gyfer astudio ieithoedd tramor ar lefel TGAU. Mae'r gostyngiad yn nifer y disgyblion ysgol uwchradd sy'n astudio ieithoedd yn fater o bryder cenedlaethol brys ar draws y DU, ac mae’r gostyngiad wedi bod yn ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae'r prosiect hwn yn cael effaith amlwg ar y nifer sy'n cymryd cyrsiau ieithoedd yn ysgolion Cymru, yn ogystal â bod o fudd i ddatblygiad personol y myfyrwyr dan sylw, a dyma'r union fath o fenter y mae'r wobr yn ceisio ei chydnabod."
Yr Athro Chris Pountain, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Addysgol y Sefydliad Siartredig Ieithyddion (IoLET)