1. Cyflwyniad
Mae gwefan https://mflmentoring.co.uk/cy/ yn eiddo i Brifysgol Caerdydd, a hi sy’n ei gweithredu.
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r wefan.
2. Pwrpas y Wefan
Bwriad y wefan yw darparu gwybodaeth am Brosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (Mentora ITM) a rhannu’r cynnwys sydd wedi cael ei wneud gan y prosiect ac ar ei gyfer.
Caiff cynnwys ein gwefan ei ddarparu at ddibenion addysgol yn unig ac fe’i gynlluniwyd ar gyfer cyd-destun dysgu iaith yng Nghymru. Er ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan, ni allwn sicrhau bod y cynnwys yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.
3. Hawliau Eiddo Deallusol
Mae’r wefan, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) testun, cynnwys, postiadau, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, ffotograffau, enwau, logos, nodau masnach, a deunydd arall (cynnwys) wedi’i diogelu gan hawlfreintiau, cronfeydd data, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.
Ni sydd â holl hawliau eiddo deallusol y cynnwys rydym yn ei greu. Ni ddylai eraill ddefnyddio’r cynnwys hwn heb nodi o ble y daeth a heb ein cydnabod ni. Ni ddylid dyblygu nac ailgynhyrchu’r cynnwys yn rhannol nac yn gyfan gwbl heb gael ein caniatâd ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys defnyddio logo Mentora ITM.
4. Firysau a Maleiswedd
Nid ydym yn gyfrifol am firysau a geir drwy ddefnyddio’r wefan ac nid ydym yn gwarantu nad oes bygiau na firysau ar y wefan. Rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau i’n gwefan.
5. Cysylltu â’n Gwefan
Gallwch gysylltu ag unrhyw dudalen ar ein gwefan, cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
6. Hygyrchedd y Wefan
Lle bo’n bosibl, rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod y wefan ar gael i bawb drwy ddilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.1 (WCAG 2.1). Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am hygyrchedd y wefan, cysylltwch â Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr y Prosiect, JenkinsL27@cardiff.ac.uk.
7. Dolenni Trydydd Parti
Os yw’r wefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, fe’u darperir er gwybodaeth yn unig. Nid yw’r dolenni trydydd parti hyn yn cael eu hadolygu gennym ni ac nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo nac yn ardystio eu cynnwys. Nid oes gennym reolaeth dros eu cynnwys ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.
8. Hysbysiad Preifatrwydd
Os byddwch yn cysylltu â ni, bydd eich data’n cael eu cadw’n unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd.
9. Atal neu Dynnu’r Wefan yn ôl
Er bod modd defnyddio ein wefan a’i chynnwys yn rhad ac am ddim, rydym yn cadw’r hawl i atal neu dynnu mynediad i’r wefan a’i chynnwys, heb rybudd ymlaen llaw. Gall hyn fod am resymau gweithredol neu am resymau busnes.
10. Anghydfodau Cyfreithiol
Rheolir y telerau ac amodau hyn, eu pwnc a’u lluniad gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, fel y’u rhoddir ar waith yng Nghymru. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghymru awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r telerau hyn neu sy’n gysylltiedig â hwy.
11. Diweddarwyd ddiwethaf
Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r telerau ac amodau bob hyn a hyn, felly argymhellwn eich bod yn adolygu’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 18 Mai 2024.
12. Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y telerau ac amodau hyn, cysylltwch â Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr y Prosiect, Jenkinsl27@cardiff.ac.uk.