Mae Mentora ITM yn darparu adnoddau addysgu amlieithog rhad ac am ddim i ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog, cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Caiff athrawon eu hannog i lawrlwytho’r adnoddau a’u haddasu i fod yn addas ar gyfer cyd-destun eu hysgolion eu hunain a’r ieithoedd sy’n cael eu siarad yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.
Mae’r adnoddau’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddeall a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ieithoedd drwy roi amrywiaeth o wybodaeth iddyn nhw am ddiwylliant, pobl a hanes Cymru ond hefyd am y byd yn gyffredinol.
Alebrijes
Alebrijes
Dewch i ddarganfod traddodiad newydd a chreu eich anifail chwedlonol eich hun. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.
Bisgedi
Bisgedi
Snac blasus sydd hefyd yn gallu mynd â chi ar daith o amgylch y byd. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.
Nadolig
Nadolig
Dewch i ddarganfod traddodiadau a chymeriadau’r Nadolig o bob rhan o'r byd. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.
Pam Dysgu Iaith - Fersiwn Fer
Pam Dysgu Iaith - Fersiwn Fer
Gweithdy sy'n dangos y sgiliau hanfodol sy'n cael eu meithrin wrth ddysgu iaith. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.
Pam Dysgu Iaith - Fersiwn Hir
Pam Dysgu Iaith - Fersiwn Hir
Gweithdy sy'n dangos y sgiliau hanfodol sy'n cael eu meithrin wrth ddysgu iaith. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.