Hysbysiad Preifatrwydd

 

  1. Pwy ydym ni

Mae Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern (Mentora ITM) yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran Llywodraeth Cymru.

 

 

  1. Sut byddwn yn defnyddio eich data

Rydym yn derbyn eich data personol am eich bod yn ymwneud â Mentora ITM. Rydym yn casglu data am gyfranogwyr i helpu’r prosiect i redeg yn esmwyth ac i gynnal ymchwil i’r sector dysgu iaith. Nid yw ein gwaith dadansoddi’n ymwneud ag unrhyw berson penodol ac felly ni fyddwch yn cael eich adnabod fel unigolyn. Bydd yr holl ddata’n ddienw mewn unrhyw adroddiadau neu allbynnau ymchwil.

 

 

  1. Natur eich data personol y byddwn yn ei ddefnyddio

Gall categorïau eich data personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y prosiect hwn gynnwys y canlynol, yn dibynnu ar natur eich rhan yn y prosiect. Os yw eich data’n cael ei gasglu, cewch wybod ymlaen llaw er mwyn i chi allu cydsynio.

 

Myfyrwyr y Brifysgol:

  • Enw llawn
  • Rhywedd sy’n well gennych
  • Dyddiad geni
  • Cenedligrwydd
  • Anabledd
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad post
  • Prifysgol
  • Rhaglen radd
  • Blwyddyn astudio

 

Athrawon:

  • Enw llawn
  • Rhywedd sy’n well gennych
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Ysgol
  • Teitl swydd

 

Rhieni/Rhai sy’n rhoi gofal:

  • Enw llawn

 

Dysgwyr Ysgol Uwchradd:

  • Enw llawn
  • Rhywedd sy’n well gennych
  • Cyfeiriad e-bost yr ysgol/Hwb
  • Ysgol
  • Grŵp blwyddyn

 

Canolwyr:

  • Enw llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Sefydliad
  • Teitl swydd

 

 

  1. Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Er mwyn i’n defnydd o’ch data personol fod yn gyfreithlon, mae angen i ni fodloni un (neu fwy) o’r amodau yn neddfwriaeth diogelu data GDPR a DPA 2018. At ddibenion y prosiect hwn, byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol ag:

 

  • 6 1 (e) “mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd i’r rheolydd”. Ystyrir bod cynnal y prosiect ar ran Llywodraeth Cymru a chynnal ymchwil ar ran Prifysgol Caerdydd yn “dasg gyhoeddus”.

 

  • 6 1 (a) “mae testun y data wedi cydsynio i’w ddata personol gael ei brosesu at un neu fwy o ddibenion penodol”. Mae hyn yn cyfeirio at y cydsyniad rydych wedi’i roi i’ch data gael ei ddarparu, er enghraifft mewn ymatebion i arolwg.

 

  • 9 1(j) “mae prosesu’n angenrheidiol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil gwyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu priodol, yn unol â’r Rheoliad hwn, ar gyfer hawliau a rhyddid testun y data”. Mae hyn ar gyfer unrhyw ddata categorïau arbennig a ddefnyddir mewn ymchwil, e.e. ar gyfer ethnigrwydd.

 

 

  1. Rhannu eich data personol

Weithiau, bydd angen i ni drefnu bod eich data personol ar gael i sefydliadau eraill. Gallai’r rhain gynnwys partneriaid o dan gontract (yr ydym wedi’u cyflogi i brosesu eich data personol ar ein rhan) a/neu sefydliadau eraill (y mae angen i ni rannu eich data personol â nhw at ddibenion penodol). Pan fydd angen i ni rannu’ch data personol ag eraill, byddwn yn sicrhau bod hyn yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Prifysgol Caerdydd yw’r prif gorff a fydd yn prosesu eich data.

 

Mae ein partneriaid yn cynnwys:

 

Os ydych chi’n fentor sy’n cwblhau un neu’r ddwy o’r unedau achredu, bydd y manylion a roddwch hefyd yn cael eu rhannu â’r partneriaid canlynol er mwyn prosesu a dyfarnu eich unedau:

 

 

  1. Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cadw eich data personol am bum mlynedd ar y mwyaf ac yn adolygu bob blwyddyn; wedi hynny, byddwn yn dileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch.

 

 

  1. Eich hawliau diogelu data

O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl:

  • i ofyn i ni am gael mynediad at wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch
  • i ofyn i’ch data personol gael ei gywiro, os yw’n anghywir neu’n anghyflawn
  • i ofyn i ddata personol gael ei ddileu lle nad oes rheswm cymhellol dros barhau i’w brosesu
  • i gyfyngu ar sut rydym yn prosesu eich data personol (h.y. caniatáu iddo gael ei storio ond nid ei brosesu ymhellach)
  • i wrthwynebu marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio) a phrosesu at ddibenion ystadegau a gwaith ymchwil gwyddonol/hanesyddol
  • i beidio â bod yn destun penderfyniadau a wneir ar sail prosesu awtomataidd yn unig lle mae hynny’n cael effaith gyfreithiol neu effaith arwyddocaol debyg arnoch

 

Os oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw un o’r uchod, gwnewch hynny drwy safle Prifysgol Caerdydd: https://www.cardiff.ac.uk/public-information/policies-and-procedures/data-protection

 

 

  1. Tynnu cydsyniad yn ôl a’r hawl i wneud cwyn

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol gyda’ch cydsyniad, mae gennych yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl. Os byddwch yn newid eich meddwl, neu’n anfodlon ar sut rydym yn defnyddio’ch data personol, rhowch wybod i ni drwy gysylltu ag inforequest@caerdydd.ac.uk a nodi enw’r prosiect hwn. Fel arall, mae gennych yr hawl i roi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am unrhyw bryderon trwy fynd ar y wefan yn https://ico.org.uk/concerns/.

 

 

  1. Diweddarwyd ddiwethaf

Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn bob hyn a hyn, felly argymhellwn eich bod yn adolygu’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 16 Mawrth 2022.

 

 

  1. Gwybodaeth gysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, cysylltwch â Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr Prosiect, Jenkinsl27@cardiff.ac.uk.