Ein Cenhadaeth
Cenhadaeth Mentora ITM yw cynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio Ieithoedd Rhyngwladol ar lefel TGAU yng Nghymru.
Rydyn ni’n bartner allweddol ar gyfer cyflawni strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu cwricwlwm amlieithog ar gyfer Cymru ddwyieithog. Ers 2015, mae Mentora ITM wedi bod yn gweithio i godi dyheadau pobl ifanc a gwella eu hagweddau tuag at Ieithoedd Rhyngwladol. Mae Mentora ITM yn ymrwymedig i sicrhau dyfodol amlieithog i Gymru.
Rwy’n falch iawn o weld yr effaith y mae’r rhaglen fentora hon wedi’i chael ar ennyn diddordeb dysgwyr. Mae Cymru’n genedl sy’n edrych tuag allan a gall ieithoedd rhyngwladol helpu i godi dyheadau ac ehangu gorwelion ein holl fyfyrwyr. Mae llawer o heriau yn wynebu ieithoedd rhyngwladol ledled y DU, ond mae’n galonogol gweld y gwahaniaeth y mae’r rhaglen yn ei wneud yng Nghymru, yn ogystal â chryfhau’r cysylltiad â’n hysgolion a’n prifysgolion.
Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Medi 2024.