Mae’r prosiect wedi bod yn destun gwerthuso allanol ers iddo ddechrau yn 2015. Mae hyn wedi helpu’r prosiect i dyfu a gwella. Mae’r gwerthusiadau hyn wedi ein helpu ni i ddeall mwy am y gwahaniaethau rhwng yr heriau amrywiol sy’n wynebu ieithoedd ledled Cymru a chefnogi’r prosiect i arallgyfeirio a chefnogi ein cymunedau iaith.
Adroddiadau Gwerthuso
Mae Prosiect Mentora ITM wedi bod yn partneru gydag ysgolion ledled Cymru ers 2015 gan greu partneriaethau rhwng ysgolion a phrifysgolion. Bu dau adroddiad gwerthuso yn olynol yn dangos bod y prosiect hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl ifanc sy’n dewis astudio ITM ar lefel TGAU (Tinsley, 2017; 2018). Mae’r prosiect wedi cynnal safonau uchel yn ystod cyfnod o dwf sylweddol ac fe’i hadlewyrchir yn yr effaith gadarnhaol gyson. Mae’r effaith gadarnhaol hon wedi parhau wrth i’r prosiect tyfu i weithio gyda dros 100 o ysgolion, gan ddangos bod seilwaith a dull gweithredu’r prosiect yn addas ac yn gynaliadwy wrth i nifer yr ysgolion a gefnogir cynyddu.
Gwerthusiad Mentora ITM 2015-2020 Evaluation, gan Dr Lizzie Rushton a Laura Thomas ar ran Ondata Research Limited 2020
Rhwng 2015 a 2024, mae’r prosiect wedi profi ei allu i oresgyn problemau systemig ym maes addysgu ieithoedd. Mae wedi cyfrannu at weledigaeth Cymru i fod yn genedl amlieithog er gwaethaf heriau strwythurol o fewn ysgolion, cyfyngiadau cyllido, a hen ganfyddiadau negyddol am werth dysgu ieithoedd. Mae wedi meithrin brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd, helpu i ddatblygu athrawon a mentoriaid, ac addasu’n effeithiol i gyd-destunau addysgol sy’n newid yn gyson.
Gwerthusiad Mentora ITM 2025, gan Joseff Howells, Katie Lloyd, Kerry KilBride, Nick Morgan a Scout Astley Jones ar ran Miller Research Limited