Yn wreiddiol, roedd y prosiect Mentora Ffiseg wedi’i seilio ar y Prosiect Mentora ITM, gan addasu’r dulliau gweithredu a fu’n llwyddiannus yn y prosiect yma i gynyddu nifer y dysgwyr benywaidd sy’n dewis astudio Ffiseg ar lefel uwch.
Fel y Prosiect Mentora ITM, mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn gosod myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd wedi’u hyfforddi mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol.
Mae’r cydweithio rhwng chwe Phrifysgol yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, a Phrifysgol De Cymru) yn adeiladu ar lwyddiant sefydledig y cynllun Mentora ITM, sydd wedi ennill gwobrau. Mae Mentoriaid y cynllun yn gweithio gyda myfyrwyr Blwyddyn 9-11 ledled Cymru i hyrwyddo cymwysterau Ffiseg gan godi eu hyder a’u helpu i ddeall eu hunain yn well ar yr un pryd. Caiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a nifer o sefydliadau partner, gan gynnwys Prifysgolion yng Nghymru.
Y prosiect hwn oedd y cyntaf o sawl ‘egin-brosiect’ i ddeillio o’r cynllun Mentora ITM ond dyma’r un sydd wedi para hiraf. Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwraig Prifysgolion Cymru, fod y Prosiect Mentora ITM wedi arwain at “waith wedi’i dargedu gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhagor o bartneriaethau rhwng prifysgolion ac ysgolion, gan gefnogi cyrhaeddiad dysgwyr” ac mae’n darparu “model o gydweithio ar draws y sectorau ysgolion ac AU.” Cafodd y model gwaith hwn ei ymestyn i ddatblygu prosiectau eraill gyda Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd, ac i gefnogi meysydd eraill, megis llythrennedd a darllen.
Gallwch ddysgu mwy am y Prosiect Mentora Ffiseg trwy ymweld â’u gwefan yma: https://mentoraffiseg.co.uk/