Nod Caru Darllen yw ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr ifanc i gofleidio grym darllen.
Yn 2024, bydd y prosiect Caru Darllen yn cyflwyno Rhaglen Dysgu Proffesiynol i rymusostaff addysgu ac ymarferwyr ysgolion cynradd i feithrin ac ysgogi cariad atddarllen ymhlith eu dysgwyr, gyda ffocws penodol ar ddysgwyr ym mlynyddoedd 4,5 a 6. Mae prosiect Caru Darllen yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan BrifysgolCaerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.
Bydd yr hyfforddiant yn annog ymarferwyr ysgol i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog ac amrywiol o helpu eu dysgwyr i ymgysylltu â darllen ar draws meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm. Bydd yr hyfforddiant ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yr hyfforddiant am ddim i’r holl staff sydd ynghlwm wrth addysg gynradd yng Nghymru. Bydd rhaglen graidd yn cael ei chynnig, gyda sesiynau dewisol pellach ar gael hefyd. Gall lleoedd fod yn gyfyngedig.
Gweld y byd trwy lens ddarllen
Bydd y gweithdy hyfforddiant craidd yma’n cael ei gynnal ar-lein. Bydd yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu’u gwybodaeth am ddarllen yn eu hysgol, ac yn cynnig strategaethau ymarferol i feithrin y cymhelliant yma i “weld y byd trwy lens darllen”. Bydd sesiwn ar gyfer athrawon ac ymarferwyr ysgol, a sesiwn wedi’i hanelu at uwch arweinwyr.
Bydd y sesiwn i athrawon yn helpu cyfranogwyr i wneud y canlynol:
- Edrych yn fanwl ar agweddau darllen eu dysgwyr a’r hyn sy’n eu cymell
- Trafod sut y gellir ymgorffori darllen mewn ffyrdd ymarferol ar draws gwahanol bynciau
- Datblygu hyder y dysgwyr i fod yn greadigol yn eu darllen bob dydd, trwy gydol eu bywydau a rhannu hynny gyda dysgwyr mewn ffyrdd hwyliog
Bydd y sesiwn ar gyfer uwch arweinwyr yn helpu cyfranogwyr i wneud y canlynol:
- Ystyried sut i ddatblygu diwylliant ysgol gyfan o “weld y byd trwy lens darllen”
- Deall y dull Caru Darllen a’r manteision i’w hysgol.
- Deall ymchwil a theori sy’n ymwneud â chymhelliant darllen, yn gefn i gynlluniau gwella ysgolion i wella sgiliau darllen.
Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y sesiwn ddysgu sy’n gweddu orau i’ch rôl yn eich ysgol. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r gweithdy craidd hwn, bydd modd i chi fanteisio ar y ddewislen ddysgu lawn ar gyfer Caru Darllen.
Cadw lle ar y sesiynau dysgu Caru Darllen
Dewislen Dysgu Caru Darllen:
Mae Dewislen Dysgu Caru Darllen yn amgylchedd dysgu cyfunol, hygyrch a fydd yn cynnwys sesiynau dysgu ar-lein, dysgu hunan-dywys a mynediad at ystod o adnoddau ymarferol i gyfranogwyr eu defnyddio a’u haddasu yn ôl cyd-destun eu hysgol eu hunain. Mae’r ddewislen ddysgu am ddim.
I gael mynediad at Ddewislen Dysgu Caru Darllen, cadwch le ar y sesiynau dysgu Caru Darllen
Mentora Caru Darllen
Yn 2023, aeth y prosiect Mentora Caru Darllen ati i rymuso ac uwchsgilio myfyrwyr prifysgol i gyflwyno 6 sesiwn fentora wreiddiol, ddifyr a hwyliog mewn 12 o ysgolion cynradd partner. Cafodd werthusiad allanol o’r prosiect ei gynnal, gan dynnu sylw at y canlynol:
- ar ôl cwblhau’r sesiynau mentora, roedd canran y dysgwyr a oedd yn teimlo’n ‘hapus’ neu’n ‘hapus iawn’ am ddarllen wedi codi 36%.
- ar ôl cwblhau’r sesiynau mentora, roedd hyder dysgwyr i ddarllen wedi codi 5%.
- ar ôl cwblhau’r sesiynau mentora, roedd cynnydd mewn amlder darllen, gyda nifer y dysgwyr a oedd bellach yn darllen ‘ychydig o weithiau’r wythnos’ yn codi 11%.
Mae’r prosiect hwn wedi ysbrydoli Rhaglen Dysgu Proffesiynol Caru Darllen.
Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni: LoveReading@caerdydd.ac.uk
Doeddwn i ddim yn arfer hoffi darllen ond mae Caru Darllen wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus wrth ddarllen ac wedi wneud i mi beidio â rhoi’r gorau i lyfr yn syth. Mae angen i chi ddarllen mwy i wybod mwy.
Dysgwr a gymrodd rhan yn Caru Darllen, 2023
Mae gwella safonau llafaredd a darllen yn hanfodol er mwyn i bob dysgwr, waeth beth fo’i gefndir economaidd-gymdeithasol, feddu ar y sgiliau, y wybodaeth, a’r profiad i gyrraedd ei botensial.
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Mawrth 2023