Datganiad cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Mentora ITM wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon.

Ein nod yw hyrwyddo amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu, a sicrhau bod ein polisïau, ein gwasanaethau a’n cynnyrch yn adlewyrchiad cywir o anghenion ein cymuned. Yn rhan o’n polisïau Mentora ITM, rydyn ni wedi sefydlu amrywiaeth fel gwerth allweddol, a byddwn yn parhau i sefydlu diwylliant cynhwysol sydd ddim yn gwahaniaethu ac sy’n seiliedig ar gwrteisi, urddas a pharch.

Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect gael eu parchu bob amser. Fyddwn ni ddim yn goddef unrhyw fath o homoffobia, trawsffobia, hiliaeth, rhywiaeth, ableddiaeth nac unrhyw wahaniaethu neu ymddygiad amhriodol arall wedi’i anelu at fyfyrwyr, athrawon, dysgwyr, tîm y prosiect, nac unrhyw randdeiliad arall sy’n ymwneud â Mentora ITM.

Bydd unrhyw un sy’n gwneud i eraill deimlo’n anghyfforddus neu’n anniogel yn cael eu tynnu oddi ar y prosiect a gallant fod yn destun camau cyfreithiol yn unol â pholisi Prifysgol Caerdydd ac o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Iaith