Achlysur Dathlu Ieithoedd Rhyngwladol yn y Senedd – Myfyrdod

Roedd yr achlysur diweddar yn y Senedd i ddathlu Ieithoedd Rhyngwladol yn ddiwrnod bythgofiadwy i bawb. Roedd yn gyfle gwych i fyfyrio ar bŵer ieithoedd a phopeth rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y degawd diwethaf. 

Dechreuodd y sesiwn amser cinio gyda Lucy Jenkins, Glesni Owen, a Claire Gorrara yn cyflwyno ar y cyd â Dr Ian Collen ac Elin Arfon. Buon nhw’n rhannu ymchwil am Ieithoedd Rhyngwladol (IRh) yng Nghymru, gan amlygu tueddiadau a chyfleoedd allweddol i gryfhau addysg ieithoedd. Roedd dadorchuddio ein dangosfwrdd newydd, a grëwyd gyda Isobel Taylor a’r tîm Butterfly Data yn foment gyffrous iawn. Bydd y dangosfwrdd yma’n ein helpu i olrhain addysgu a dysgu IRh ledled Cymru ac mae potensial ganddo i chwarae rhan enfawr wrth lunio polisïau’r dyfodol. 

Roedd yr achlysur gyda’r nos yn ddathliad ym mhob ystyr o’r gair. Daeth â chydweithwyr, rhanddeiliaid, mentoriaid y gorffennol a’r presennol, a chyfeillion y prosiect ynghyd i bwysleisio effaith ieithoedd yng Nghymru. Un o’r uchafbwyntiau oedd y ‘Sgwrs Agored’ gyda’r panel. Rhannodd Elin Arfon, Sioned Harold, Maryam Awawdeh, a Geinor Cuvillier eu profiadau o weithio gyda’r prosiect. Roedd eu straeon yn ysbrydoledig ac wir wedi ein hatgoffa ni pam rydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Roedd cynnal y sesiwn holi ac ateb yn Gymraeg wir wedi ychwanegu rywbeth arbennig iawn i’r noson. 

Arweiniodd Claire Gorrara gylch trafod, gyda chyfraniadau gan yr Athro Rachael Langford, Susana Galván Hernández, Dr Laura Gurney, a’r Athro Charles Burdett. Buon nhw’n rhannu eu barn ar rôl a dyfodol ieithoedd, a sbarduno ambell i sgwrs gwych ymhlith y gwesteion. 

Anrhydedd hefyd oedd cael Lynne Neagle i ymuno â ni i gloi’r noson gyda’i sylwadau twymgalon ac wrth gwrs diolch yn fawr hefyd i Heledd Fychan am noddi’r achlysur a rhoi’r llwyfan i ni ddod â phawb at ei gilydd. Roedd y foment pan wahoddwyd mentoriaid ddoe a heddiw i sefyll a chael eu cydnabod yn un fythgofiadwy. Roedd gweld cymaint o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o daith y prosiect yn emosiynol dros ben, ac roedd y gymeradwyaeth a ddilynodd yn gydnabyddiaeth bwerus o’u cyfraniadau. 

Roedd nodi pen-blwydd y prosiect yn 10 oed yn garreg filltir pwysig, ac rydyn ni mor ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn gefn i ni ar hyd y daith. Wrth reswm mae’n amhosib enwi pawb, ond rydyn ni eisiau dweud diolch enfawr i’r holl gydweithwyr a ffrindiau ddaeth draw i ddathlu gyda ni. Mae’ch cefnogaeth werth y byd i ni. 

Ac yn olaf, dyma gydnabod cyfraniad aruthrol Lucy Jenkins. Mae ei harweinyddiaeth yn parhau i’n hysbrydoli ni i gyd. Ymlaen â ni â’r 10 mlynedd nesaf o ddathlu nerth ieithoedd a phob peth mae’r prosiect yn sefyll amdani! 

Iaith