Mentora Cynradd: Gall chwilfrydedd agor byd o bosibiliadau.

Ana Carrasco

Rydyn ni wrth ein bodd yn adrodd yn ôl ar ein Prosiect Peilot sef Mentora Cynradd Amlieithog. Daeth y prosiect â myfyrwyr prifysgol ac ysgolion cynradd ynghyd i ysbrydoli cariad at ieithoedd a diwylliannau eraill ymhlith dysgwyr ifanc. Wedi’i ariannu gan Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru roedd y prosiect yn cysylltu myfyrwyr ysgol gynradd rhwng 9 ac 11 oed o Gonsortiwm Canolbarth y De.

Bu’r mentoriaid a’r dysgwyr yn trafod themâu iaith gan gynnwys diwylliant a hunaniaeth, mewn gweithdai rhyngweithiol a sesiynau wyneb yn wyneb. Nod y sesiynau oedd dangos i ddysgwyr fod ieithoedd yn fwy na ffordd o gyfathrebu, maen nhw hefyd yn bontydd sy’n cysylltu’r byd ac yn ein helpu ni i’w ddeall.

Mae’r prosiect yn cyd-fynd â phwyslais Cwricwlwm i Gymru ar gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion cynradd. Mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltiad cynnar ag ieithoedd yn meithrin empathi, dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill, a chwilfrydedd gydol oes – rhinweddau sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer dyfodol sy’n gysylltiedig yn fyd-eang. Nod y prosiect oedd gosod sylfaen ar gyfer dysgu iaith parhaus a helpu i fynd i’r afael â’r gostyngiad parhaus yn y niferoedd sy’n astudio TGAU iaith.

Un o uchafbwyntiau’r prosiect oedd arsylwi sesiynau mewn ysgolion lle roedd dysgwyr yn trafod bwyd ac ieithoedd y byd gyda’u mentor. Roedden nhw mor gyffrous! Roedd y dysgwyr wrth eu bodd â’r adnoddau, gan gynnwys elfennau sain a ddaeth â’r gweithgareddau’n fyw, a dywedodd un dysgwr fod y sesiwn yn “cŵl iawn!”.

Bu athrawon hefyd yn myfyrio ar yr effaith ehangach, gan nodi sut y gwnaeth y prosiect eu hysbrydoli i fabwysiadu dulliau newydd sy’n integreiddio dysgu diwylliannol ochr yn ochr ag addysgu iaith.

Creodd y prosiect hefyd ymdeimlad o gymuned rhwng ysgolion cynradd a sefydliadau addysg uwch. Trwy gysylltu dysgwyr ifanc â mentoriaid prifysgol, rhoddodd y prosiect fewnwelediad gwerthfawr i arferion addysgu amlieithog a chynigodd gipolwg ar fywyd prifysgol, gan danio dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Prosiect Peilot ar gyfer Mentora Cynradd Amlieithog wedi bod yn daith ysbrydoledig, gan ddangos pŵer trawsnewidiol dysgu iaith. Mae wedi gadael argraff barhaol ar y dysgwyr, yr athrawon, a’r mentoriaid, ac wedi dangos fod modd i ychydig o chwilfrydedd agor byd o bosibiliadau.

Iaith