Mae’r prosiect yn ymchwilio’n helaeth i agweddau dysgwyr tuag at ddysgu ieithoedd. Mae hyn yn helpu i siapio’r prosiect a datblygu cwricwlwm fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. At ddibenion y dangosfwrdd yma, mae’r term Ieithoedd Rhyngwladol (IRh) yn cyfeirio at Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, sef y 3 prif iaith sy’n cael eu haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae’r data a welwch ar y dangosfwrdd isod yn cynrychioli barn dysgwyr 12-14 oed ym Mlynyddoedd 8 a 9, cyn iddyn nhw ddewis eu pynciau TGAU. Dysgwyr sy’n mynd i ysgolion sydd wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y Prosiect Mentora ITM yw’r rhain. Gallwch weld data ar gyfer 5 mlynedd: 2019, 2021, 2022, 2023 a 2024, ac mae rhagor wrthi’n cael ei gasglu. Ni chafodd data ei gasglu ar gyfer 2020 oherwydd pandemig Covid-19. Cafodd y data ei gasglu gan y Prosiect Mentora ITM, gyda chymeradwyaeth foesegol Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.
Mae 8 tudalen o ddata ar gael i’w ddarllen ac mae’n rhyngweithiol – gallwch edrych ar y data yn ôl blynyddoedd unigol, yn ôl rhywedd, neu yn ôl iaith yr ysgol, drwy glicio ar y botymau ar bob tudalen. Fe welwch ddisgrifiad cryno o’r data a’r prif ganfyddiadau ar bob tudalen. Defnyddiwch y saethau ar ochr dde isaf y dangosfwrdd i weld y data’n llawn – dyma’r ffordd orau o edrych ar y wybodaeth.
Os hoffech ddyfynnu data o’r dangosfwrdd yma, cofiwch gadw at y fformat canlynol: MFL Mentoring, 2025, International Languages in Wales: Learner Perspectives. Available at: www.mflmentoring.co.uk/understanding-learners-data-dashboard