Mae Mentora ITM yn darparu adnoddau addysgu amlieithog rhad ac am ddim i ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog, cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Caiff athrawon eu hannog i lawrlwytho’r adnoddau a’u haddasu i fod yn addas ar gyfer cyd-destun eu hysgolion eu hunain a’r ieithoedd sy’n cael eu siarad yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.
Mae’r adnoddau’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddeall a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ieithoedd drwy roi amrywiaeth o wybodaeth iddyn nhw am ddiwylliant, pobl a hanes Cymru ond hefyd am y byd yn gyffredinol.
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes) yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth…. Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn anelu at alluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Mae’n anelu at annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill. Bwriedir i’r dull amlieithog a lluosieithog hwn danio chwilfrydedd a brwdfrydedd y dysgwyr a chynnig sylfaen gadarn iddyn nhw ddatblygu diddordeb gydol oes yn ieithoedd Cymru ac ieithoedd y byd, a thrwy hyn eu gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
Llywodraeth Cymru, 2021