Mae Mentora ITM yn darparu adnoddau amlieithog rhad ac am ddim y gall dysgwyr eu defnyddio gartref ar gyfer astudio’n annibynnol. Mae’r rhain i gyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg!
Mae’r gyfres gyntaf o adnoddau – Deunyddiau dysgu ar gyfer Blynyddoedd 10/11 -wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg. Mae’r adnoddau’n seiliedig ar gwisiau rhyngweithiol ym mhob un o’r ieithoedd yma.
Sesiynau Blasu Ieithoedd yw’r ail gyfres o adnoddau. Rydym wedi llunio sesiynau blasu ar gyfer ystod eang o ieithoedd rhyngwladol, o Fasgeg i Thai.


