Dyddiadur Mentor

Fy sesiwn fentora gyntaf y tymor yma! Er fy mod i bach yn nerfus, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â’r dysgwyr.

Ddechreuon ni drwy gyflwyno’n hunain a rhannu’n hoff bynciau, hobïau ac anifeiliaid anwes. Fe drafodon ni sut mae’r diddordebau hyn yn rhan o’n hunaniaeth sut mae iaith yn rhan hanfodol o bwy ydyn ni. Rhannodd y dysgwyr eu hansicrwydd ynglŷn â ieithoedd – doedden nhw ddim yn siŵr a oedd ieithoedd yn iawn iddyn nhw. Byddwn yn trafod hwn ymhellach yn nes ymlaen.

Siaradon ni am sut mae acenion yn cyfrannu at ein personoliaeth a’n cymeriad, ac yn dangos i eraill o ble rydyn ni’n dod. Gall acenion ddangos dewrder—yr hyder i siarad mewn tafodiaith neu iaith sydd ddim yn frodorol. Er bod acenion yn gwneud i ni wenu, yn anffodus maen nhw hefyd yn gallu gwahanu cymunedau. Er taw dyma’r sesiwn gyntaf, ymgysylltodd y dysgwyr yn frwd ac maen nhw’n awyddus am yr wythnos nesaf. Rwy’n gyffrous i ddysgu rhagor amdanyn nhw!

Roedd ein hail sesiwn yn rhyngweithiol ac yn lot o hwyl. Dyma ni’n parhau i drafod hunaniaeth ond o ran cyd-destun diwylliant, gan ddangos y gallwn ni fod yn perthyn i grwpiau sy’n rhannu nodweddion unigryw.

Y thema, a ddewiswyd trwy bleidlais boblogaidd, oedd gwyliau. Edrychon ni ar ychydig o draddodiadau diwylliannol anarferol a diddorol gwahanol. Ddechreuon ni trwy ddefnyddio map geiriau i ddiffinio diwylliant, gan feddwl am syniadau fel bwyd, hanes, cymuned, a chrefydd – elfennau sy’n ein clymu i’n teulu, ein cymdogaeth, ein tref neu ein cenedl.

Fe wylion ni fideo am draddodiadau byd-eang, megis y ddefod unigryw sy’n bodoli yn Madagascar o ddawnsio gyda gweddillion hynafiaid bob saith mlynedd. Fe wnaethon ni gêm gyfateb hefyd yn seiliedig ar draddodiadau Nos Galan, fel plannu coeden wedi’i haddurno yn Llyn Baikal, Rwsia. Roedd y traddodiadau yma wedi dal dychymyg y dysgwyr ac roedden nhw’n awyddus i ddysgu rhagor am sut mae ieithoedd a diwylliant yn gorgyffwrdd.

Roedd y sesiwn yma’n canolbwyntio ar sut mae iaith yn hwyluso cyfathrebu, yn enwedig yn y byd chwaraeon. Fe drafodon ni bwysigrwydd cyfathrebu ymhlith aelodau’r tîm, yn enwedig mewn chwaraeon rhyngwladol lle mae chwaraewyr yn dod o gefndiroedd ieithyddol gwahanol.

Fe wylion ni glip o raglen ddogfen yn dangos Gary Lineker yn sylwebu yn Sbaeneg a dysgon ni fod Novak Djokovic yn siarad 11 iaith. Fe wnaethon ni gymhwyso’r hyn a ddysgon ni i’r Gemau Olympaidd, gan edrych yn fwy manwl i athroniaeth y gemau, sy’n hyrwyddo undod, cynhwysiant, a’r syniad o ‘sefyll gyda’n gilydd’ trwy chwaraeon.

Fe roddais i her i’r dysgwyr i ymchwilio i gamp chwaraeon, a dod o hyd i’w tharddiad, ei rheolau, a chwaraewyr enwog. Fe ddaethon ni o hyd i chwaraeon rhyfedd fel rasio estrys a rhai mwy cyfarwydd fel pêl-fasged, sy’n tarddu o’r Unol Daleithiau.

Roeddwn i’n bryderus ond yn gyffrous i arwain fy ngweithdy cyntaf. Fe drafodon ni bwysigrwydd ieithoedd, gan ganolbwyntio ar wahanol safbwyntiau, y sgiliau mae’n nhw’n eu rhoi i ni, a’u grym hefyd.

Fe wylion ni glip o’r ffilm The Terminal, lle mae rhywun, sydd ddim yn siarad llawer o Saesneg, yn ceisio cael ei hun allan o sefyllfa ddifrifol! Mae’r problemau cyfathrebu yn gwneud yr olygfa’n un ddoniol. Tynnodd y clip sylw at anawsterau fel hyn a phwysigrwydd cefnogaeth.

Buon ni’n taflu syniadau ac yn cymharu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn iaith, a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn hyfedr mewn iaith.  Roedd y dysgwyr yn gallu gweld bod llawer o’r sgiliau yma’n gorgyffwrdd, ac roedden nhw’n gallu adnabod rhinweddau fel empathi, cydnerthedd, penderfyniad, a disgyblaeth yn y ddau faes.

Er mwyn dangos pa mor bwerus mae iaith, rhoddais gyfres o gyfarwyddiadau i’r dysgwyr gan ddefnyddio nodiadau post-its, ond doedd y cyfarwyddiadau ddim yn glir iawn.  Roedd y ffaith eu bod nhw wedi drysu ac yn chwilfrydig i wybod beth i’w wneud yn tanlinellu pwysigrwydd cyfathrebu clir a chryno.

Hon oedd fy hoff sesiwn. Roedd defnyddio bwyd fel ein thema yn golygu bod modd i mi ddod â bwyd o bedwar ban y byd i mewn, a rhoddodd hynny hwb i’r dysgwyr i ymgysylltu fwy!

Trafodon ni gyfieithu, gan bwysleisio nad yw’n ymwneud â diffiniadau geiriadur yn unig ond hefyd ystyron a chysylltiadau diwylliannol. Trafodon ni ymadroddion idiomatig, fel y Ffrangeg avoir l’esprit de l’escalier, sy’n golygu meddwl am rhywbeth ffraeth i’w ddweud yn ôl yn rhy hwyr.

Cymharon ni draddodiadau te o wahanol ddiwylliannau wrth fwynhau pice ar y maen a lebkuchens. Ddysgon ni fod te Moroco yn aml yn de mintys melys ac yn cael ei yfed o wydrau cain, tra bod te Prydeinig fel arfer yn cael ei yfed â llaeth mewn mwg. Amlygodd hyn y gwahaniaethau diwylliannol y mae offer cyfieithu yn aml yn eu methu.

Rhoddodd ein sesiwn olaf gyfle i ni fyfyrio. Edrychon ni nôl ar sut roedden ni’n meddwl am iaith ar y dechrau a sut roedd ein safbwyntiau wedi datblygu dros y chwe wythnos diwethaf. Roedd llawer o’r dysgwyr wedi meithrin agwedd fwy cadarnhaol tuag at ddysgu iaith.

Dw i mor hapus fy mod i wedi cwrdd â’r dysgwyr yma ac yn falch o’u cynnydd. Mae gweld y newid yn eu hagweddau wedi bod yn brofiad gwerth chweil. I goroni’r cyfan, rhoddodd athrawes fy ysgol gerdyn Nadolig a thryffls siocled i mi! Am ddiweddglo gwych i’r tymor. Rwy’n edrych ymlaen at y semester nesaf a gwneud hyd yn oed yn well!

Diolch yn fawr iawn i’r tîm mentora am eu cefnogaeth ac i Ysgol Cas-gwent am fod mor gymwynasgar! 😊

Gan Aleksander Ignaciuk

Iaith