Cofleidio Ieithoedd a Mentora

Dw i’n berson allblyg, ac yn dwlu cwrdd â phobl newydd, yn enwedig pobl o ddiwylliannau gwahanol, sy’n siarad ieithoedd gwahanol. Dw i wrth fy modd yn dysgu am eu cefndiroedd amrywiol. Dw i wedi bod yn angerddol dros ieithoedd ers amser hir. Mae pŵer ieithoedd bob tro wedi fy syfrdanu wrth iddyn nhw ddod â chynhesrwydd i unrhyw sgwrs. Fi yw’r person sydd bob amser yn ceisio cyfarch pobl yn eu mamiaith, ac rwy’n gwneud pwynt o ddysgu ychydig o ymadroddion yn yr iaith leol pan dw i’n teithio.

Roedd hyn yn amlwg ar daith ddiweddar gyda fy mhartner (sy’n Saes), i Wlad Groeg. Roedd gofyn am y bil yn aml yn cymryd deng munud am fy mod yn mynnu gofyn mewn Groeg. Cyn magu’r dewrder i’w ddweud ar goedd, roedd rhaid i fi ymarfer y frawddeg yn fy mhen. Y wobr bob tro am fy ymdrechion trwsgl oedd gwên a golwg caredig gan y gweinydd. Yn yr eiliadau hynny, roeddwn i’n teimlo fel plentyn eto, yn cael gwneud camgymeriadau ac yn cael “seren aur” ar ffurf golwg calonogol oddi wrth fy nghyd-sgwrsiwr.  

Rwy’n diffinio fy hun yn ddysgwr gydol oes, efallai dyna pam fy mod i bob amser wedi mwynhau rhyngweithio â phlant o wahanol oedrannau. Rwy’n gadael i’r plentyn sydd ynof rhedeg yn rhydd, heb feirniadaeth. Dyna pam y penderfynais ymuno â Mentora ITM (Ieithoedd Tramor Modern). Roeddwn i’n gweld y cyfle’n ffordd o uno fy angerdd dros ieithoedd a gweithio gyda phlant, a hefyd ysbrydoli dysgwyr i ddysgu ieithoedd rhyngwladol.  

Roedd yn amlwg o’r dechrau un, bod dysgwyr ifanc yn bwysig iawn i dîm Mentora ITM (yn ogystal â choffi ac anifeiliaid anwes.😊) Maen nhw eisiau dangos i ddysgwyr y gall astudio ieithoedd rhyngwladol fod yn rhywbeth gwerth chweil. A ninnau’n fentoriaid, rydyn ni’n dysgu sut i ryngweithio’n effeithiol â dysgwyr mewn lleoliad ysgol a hefyd yn meithrin sgiliau sy’n ddefnyddiol ar gyfer bywyd yn gyffredinol.  

Mae’r sgiliau yma’n ymestyn y tu hwnt i weithio gyda grwpiau o fyfyrwyr mewn ysgol, profiad gwerthfawr ynddo’i hun i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn addysgu. Yn bersonol, dw i wedi sylweddoli bod fy sgiliau gwrando, cymedroli a threfnu wedi gwella’n sylweddol ers ymuno â’r rhaglen. Mae bod yn fentor effeithiol yn golygu bod yn gyfeillgar a chynnal ffiniau cywir yn ogystal â bod yn ystyriol o anghenion a dynameg grŵp o ddysgwyr. Mae’r rhinweddau yma’n hanfodol ar gyfer sefydlu perthynas gyda’r dysgwyr sy’n annog cynnydd.

Dw i’n defnyddio’r sgiliau yma’n aml wrth wneud fy noethuriaeth, wrth ymgysylltu â chydweithwyr neu gyflwyno fy ngwaith i gynulleidfaoedd amrywiol. Dw i hyd yn oed yn fwy empathig gyda fy mhartner a ffrindiau, gan ddeall gwahanol fframiau cyfeirio’n well. 

I gloi, mae Mentora ITM wedi bod yn brofiad trawsnewidiol i fi. Nid yn unig ydy hi wedi gwella fy sgiliau iaith ond hefyd wedi hogi fy ngalluoedd rhyngbersonol, gan fy ngwneud yn fyfyriwr, mentor a pherson gwell. Rwy’n rhagweld yn eiddgar y byddaf yn parhau â’r daith hon ac yn ysbrydoli mwy o fyfyrwyr i’r hwyl a’r hyfrydwch a ddaw o ddysgu ieithoedd.  

Gan Sara Bariselli

Iaith