Cynorthwyydd iaith yn yr Almaen

Helo bawb! Poppy ydw i, rwy’n 23 mlwydd oed ac yn dod o Plymouth. Astudiais Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn cynnwys blwyddyn dramor yn Universität Regensburg. Roeddwn yn mwynhau byw yn yr Almaen i’r fath raddau y penderfynais wneud hynny eto – y tro hwn fel Cynorthwy-ydd Iaith.

Meeting other Language Assistants

Roeddwn i’n hoffi gallu astudio amrywiaeth o bynciau yn yr ysgol ond roeddwn i’n mwynhau ieithoedd yn benodol, gan ddewis Almaeneg a Ffrangeg ar gyfer TGAU a pharhau ag Almaeneg ar gyfer Safon Uwch. Cefais fy nenu gan y dosbarthiadau llai, teithiau ysgol dramor a’r syniad o allu cyfathrebu mewn iaith arall. Er fy mod yn credu i mi wybod hyd yn oed bryd hynny nad yr iaith ei hun o reidrwydd oedd yn fy nghyffroi, ond y mynediad i ddiwylliant newydd.

Mwynheais fy amser ym Mhrifysgol Abertawe yn fawr. Almaeneg oedd fy mhwnc ond yn bendant nid oedd hynny’n golygu astudio’r iaith yn unig. Yn ystod fy ngradd cefais hefyd fynediad i fodiwlau diwylliant a ffilm amrywiol a gwnes i hyd yn oed fodiwl am sut mae dysgwyr ifanc yn dysgu ieithoedd tramor. Yn benodol, roeddwn yn mwynhau ysgrifennu adolygiadau ar gyfer ffilmiau iaith fodern yn Saesneg ac Almaeneg. Roedd astudio pwnc gyda nifer bach o fyfyrwyr yn golygu bod y darlithwyr yn dod i’n hadnabod ni’n bersonol a chael digon o amser i’n helpu y tu allan i’r dosbarthiadau.

Mae’n debyg bod y ffordd rwy’n teimlo am ddysgu Almaeneg yn amrywio’n aml. Ar adegau mae dysgu Almaeneg wedi bod yn gyffrous i mi ond ar adegau eraill, rwy’n rhwystredig gyda fy nghynnydd sy’n ymddangos yn araf ac fy niffyg cymhelliant.

Fodd bynnag, nawr fy mod yn byw ac yn gweithio yn y wlad, rwyf wedi sylwi bod fy agwedd tuag at yr iaith wedi newid. Rwy’n defnyddio Almaeneg sawl gwaith y dydd ar hyn o bryd ac er fy mod yn gwneud llawer o gamgymeriadau, rwy’n gallu cyfathrebu a dyna sy’n bwysig! Er nad ydw i bob amser yn teimlo’n frwdfrydedd dros ddysgu’r iaith, yr hyn rwy’n ei hoffi’n fawr yw’r mynediad i ddiwylliant arall y mae wedi’i roi i mi gan fy mod yn gallu cyfathrebu â phobl leol.

Ar hyn o bryd rwyf wedi fy lleoli mewn ysgol uwchradd yn Lübeck yng ngogledd yr Almaen. Un o’m hoff dasgau yw pan fyddaf yn mynd â grwpiau bach o fyfyrwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth i ymarfer siarad. Dyma’r cyfle i feithrin perthynas â’r myfyrwyr a thrafod ein gwahanol ddiwylliannau a phrofiadau. Hon, yn fy marn i, yw fy rôl fwyaf gwerthfawr, gan ei bod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr fagu hyder i ffwrdd o’r brif ystafell ddosbarth ac mae ganddynt fwy o ryddid i siarad am yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt.

Mae’n debyg mai un o’m heriau mwyaf yw gwybod beth yw fy rôl. Mae’n tueddu i fod yn wahanol ym mhob dosbarth, gan ddibynnu ar yr hyn mae’r athro am i mi ei wneud. Rwyf wedi darganfod fy mod yn teimlo’n llawer mwy defnyddiol mewn dosbarthiadau lle mae’r myfyrwyr yn wirioneddol frwdfrydig i ddysgu Saesneg gan eu bod yn fwy tebygol o ofyn am help. Fy nghyngor i fyddai siarad â’r athrawon am yr hyn sy’n gweithio’n dda yn eich barn chi (a allai gymryd ychydig o brofi a methu i’w ddarganfod). Mae’r athrawon yn fy ysgol wedi bod yn agored iawn i’m syniadau a’m meddyliau.

Un o’r pethau gorau am weithio fel cynorthwy-ydd iaith yw’r cyswllt â siaradwyr brodorol. Y llynedd bûm yn Universität Regensburg am flwyddyn ac er ei fod yn llawer o hwyl, roeddwn yn ei chael hi’n anodd cwrdd â’r Almaenwyr (gan fy mod mewn swigen Erasmus!). Eleni rwyf wedi fy amgylchynu gan siaradwyr brodorol ac felly yn cael cyfle i siarad yr iaith yn feunyddiol.

Peth gwych arall am fod yn gynorthwy-ydd iaith yw faint o amser rhydd a gewch. Mae hyn wedi golygu fy mod wedi cael digon o amser i deithio. Mae Copenhagen, Hamburg a Berlin yn ychydig o enghreifftiau’n unig o lefydd rwyf wedi ymweld â nhw hyd yn hyn. Rwyf hefyd wedi dechrau gwirfoddoli yn ddiweddar gyda’r Tafel (Banc Bwyd), sy’n ffordd wych arall o gwrdd â phobl a siarad Almaeneg.

Er nad wy’n sicr am fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae byw dramor wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i mi. Erbyn hyn rwy’n teimlo’n gyfforddus iawn yn byw yn yr Almaen a hefyd yn teimlo’n hyderus am roi cynnig ar fyw mewn gwlad arall rywbryd. Rwyf wedi cwrdd â chynifer o bobl wych dros y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi cael effaith wirioneddol arnaf. Bellach mae gennyf ffrindiau ledled Ewrop a rhai hyd yn oed ymhellach i ffwrdd. Dydw i ddim yn siŵr eto pa ran fydd gan ieithoedd i’w chwarae yn fy nyfodol, ond mae’r perthnasoedd rwyf wedi’u meithrin trwy ddysgu/gwybod ail iaith yn hynod bwysig ac rwyf wir yn teimlo fy mod i wedi tyfu fel person.

Iaith