Datgloi Sgiliau a Chysylltiadau Newydd: Beth o’n i’n ei feddwl o’r Penwythnos Hyfforddi Mentoriaid ITM?🚀

Gan Milan James

Yn ddiweddar, fe ges i’r fraint o fynd i hyfforddiant dau ddiwrnod gyda Mentora ITM 🎉, a oedd yn brofiad cyfoethog a bythgofiadwy. O’r eiliad cyrhaeddais i, roedd egni positif yn y ’stafell. Roedd cwrdd â grŵp amrywiol o bobl a oedd yn rhannu brwdfrydedd a meddylfryd tebyg, yn ysbrydoledig, gan greu ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch ymhlith y myfyrwyr. Roedd pawb yn awyddus i ddysgu, rhannu a chymryd rhan, gan wneud yr hyfforddiant yn hwyliog a gwerth chweil.

Roedd yr hyfforddiant ei hun yn hynod o drefnus 🤯ac yn llawn cynnwys defnyddiol. Roedd pob sesiwn yn llawn gwybodaeth berthnasol, ond ddim gormod o wybodaeth chwaith. Roedd y gweithgareddau torri’r iâ’n uchafbwynt—o’n nhw wedi cael eu cynllunio i annog cyfathrebu agored a gwaith tîm, felly o’dd pawb wedi gallu bondio’n gyflym o’r dechrau.    Roedd y gweithgareddau yma’n atgyfnerthu pa mor bwysig yw meithrin perthynas ag eraill hefyd, sgil hollbwysig rydw i wedi’i datblygu trwy Fentora ITM. Mae’r gallu i gysylltu ag eraill, creu amgylchedd cefnogol, ac annog cyfranogiad bellach yn nodweddion craidd dw i’n eu gwerthfawrogi ac yn eu cymhwyso mewn sefyllfaoedd personol a phroffesiynol.

Roedd yr hyfforddiant yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau hanfodol, gyda ffocws cryf ar reoli ystafell ddosbarth, cydgysylltu, a deall deinameg ddiwylliannol. Un o’r sgiliau allweddol dw i wedi’i wella yw fy ngallu i reoli a threfnu grŵp, gan sicrhau bod gwahanol anghenion yn cael eu diwallu tra’n cynnal awyrgylch dysgu cynhyrchiol a chynhwysol. Roedd y sesiynau ar brosesau diogelu yn arbennig o ddiddorol, gan bwysleisio pwysigrwydd creu amgylchedd diogel a chefnogol i fyfyrwyr. Dysgais i fwy am brotocolau diogelu a sut i adnabod risgiau posibl, gan sicrhau fod modd i fi gyfrannu at greu gofod diogel a chroesawgar ar gyfer dysgu.

Rhywbeth arwyddocaol arall dysgais i oedd y cysylltiad cryf sy’n bodoli rhwng iaith a diwylliant. Roedd hon yn thema ganolog drwy gydol yr hyfforddiant. Dysgais sut mae iaith yn mynd y tu hwnt i gyfathrebu, a’i bod yn pontio â dealltwriaeth a hunaniaeth ddiwylliannol. Nid yn unig ydy deall hyn wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ieithyddol ond hefyd fy ngallu i feithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn cyd-destunau addysgol, sy’n hanfodol ar gyfer addysgu iaith yn effeithiol.

I grynhoi, fe wnaeth yr hyfforddiant Mentora ITM fy helpu i dyfu mewn meysydd allweddol fel meithrin perthynas, rheoli ystafell ddosbarth, diogelu, ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Mae wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth werthfawr i fi, a dw i’n gyffrous i’w defnyddio yn fy nyfodol.

Iaith