Wyt ti wastad wedi eisiau gwneud gwahaniaeth, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dechreuodd y daith honno i fi yn ôl yn 2018, pan wnes i gais i fod yn fentor ITM yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Cefais fy nenu at y rhaglen oherwydd fy mod i mor angerddol dros hyrwyddo ieithoedd, diwylliannau a’r byd academaidd. Does dim modd rhoi pris ar yr hyn dw i wedi’i ddysgu dros y pedair blynedd diwethaf wrth i mi fod yn rhan o’r prosiect hwn.
Ro’n i’n gwybod bod y prosiect yma’n berffaith i mi o ddiwrnod cyntaf yr hyfforddiant. Mae’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu gan y prosiect bob amser wedi creu argraff arna’ i, o’r croeso cynnes i’r bwyd blasus, heb sôn am y tîm anhygoel sy’n gwneud y profiad cyfan yn fythgofiadwy.
Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn fentor, fe es i i Ysgol St Martin yng Nghaerffili, a chael cyfle i weithio gyda grŵp mawr o ddysgwyr oedd wedi ymgysylltu’n frwdfrydig â’r prosiect. Ro’n i wedi mwynhau trafod ieithoedd a diwylliannau gwahanol yn y sesiynau, ac roedd dysgwr gwahanol yn dechrau bob sesiwn gyda chyfarchion a chyflwyniad byr mewn iaith a ddewiswyd. Edrychon ni ar y cysylltiad sy’n bodoli rhwng iaith a hunaniaeth, diwylliant, pynciau ysgol gwahanol, cyfieithu, perfformio a’n taith bywyd ni ein hun, trwy greu posteri, perfformiadau a chwarae gemau.
Pan darodd y pandemig yn 2020, cafodd y rhaglen hyfforddi mentoriaid ei gyflwyno’n rhithiol. Er nad oedd modd i ni bellach gwrdd mewn person a rhannu bwyd blasus gyda’n gilydd, cefais fy synnu ar yr ochr orau gan ansawdd yr hyfforddiant rhithiol dros Zoom a oedd yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau rhyngweithiol a hyd yn oed sawl egwyl coffi a oedd yn gyfle i gymdeithasu â’n gilydd!
Eleni, ro’n i wrth fy modd yn dychwelyd i fentora wyneb yn wyneb wrth i mi astudio ar gyfer fy ngradd meistr. Ro’n i hefyd yn ddigon ffodus i allu cynorthwyo gyda’r hyfforddiant, sydd wedi fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’r prosiect yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, fel gwrando gweithredol a sgiliau arwain a menter. Cefais fy lleoli yn Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac ro’n i’n falch iawn o weld mai fy hen brifathro oedd pennaeth yr ysgol. Byddai bob amser yn sefyll y tu allan i’r ysgol yn gynnar yn y bore i gyfarch yr holl ddysgwyr â gwên ar ddechrau diwrnod newydd. Fel dw i wedi nodi eisoes ar drydar, mae’r ysgol yn un wych, gydag athrawon a dysgwyr ardderchog. Roedd y cyfnod treuliais i yn yr ysgol yma’n ffordd hyfryd o ddod â’r daith fentora i ben.
Dw i’n hynod ddiolchgar am y profiad hwn, sydd wedi dylanwadu ar fy mywyd personol a phroffesiynol. Mae bod yn fentor gyda Mentora ITM wedi fy helpu i dyfu’n unigolyn ac wedi pennu cyfeiriad fy mywyd. Bydda’ i wastad yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Tîm Mentora ITM. Diolch am eich caredigrwydd, cymhelliant, anogaeth a gwaith caled. Mae pob un ohonoch wedi fy ysbrydoli ac yn parhau i wneud hynny.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r athrawon bendigedig, y dysgwyr brwdfrydig, a’r holl fentoriaid gwych dw i wedi bod yn ffodus i’w cyfarfod ar hyd y ffordd. Mae pob un ohonyn nhw wedi fy ysbrydoli ac wedi fy helpu i fod yn fentor ac yn berson gwell.