Hwyl Mentora a’i Manteision

Fy enw i yw Maryam, ac ar hyn o bryd dw i yn fy ail flwyddyn yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym maes dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sgiliau darllen plant ag Anhwylder Iaith Datblygiadol (DLD) sy’n ddwyieithog Arabeg-Saesneg. Rwy’n dod yn wreiddiol o’r Iorddonen ac yn siarad Saesneg ac Arabeg yn rhugl. Dysgais i Almaeneg yn rhan o fy ngradd baglor, ac ar hyn o bryd dw i wrthi’n dysgu Cymraeg a Sbaeneg. 

Pan welais i bostiad ynglŷn â chofrestru ar gyfer y prosiect ITM y llynedd, roeddwn i’n hynod gyffrous! Y cyfle i weithio gyda phlant ysgol, agor eu llygaid i hwyl ieithoedd a chael fy nhalu – roedd hi’n gyfle rhy dda i’w golli! Roedd ymweld â’r ysgolion ac ysbrydoli’r dysgwyr gydag adnoddau creadigol y tîm ITM yn gwneud y prosiect yn gymaint hwyl, roedd yn rhaid i mi ddychwelyd am ail flwyddyn. Mae hi hefyd yn grêt gweithio gyda’r tîm ITM – maen nhw’n llawn hwyl, yn ysbrydoledig ac yn gefnogol iawn. Yn ogystal â dychwelyd am ail flwyddyn gyda’r Prosiect Mentora ITM, dw i hefyd wedi ymuno â’u Prosiect Caru Darllen oherwydd fy mod wrth fy modd yn darllen ac mae’n gysylltiedig â’m doethuriaeth.  

Dw i wedi magu sawl sgil, gan gynnwys gorfod addasu fy arddull cyflwyno i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr a dysgu sut i fod yn fwy hyderus wrth gyflwyno o flaen grŵp o fyfyrwyr. Mae’r adnoddau mor greadigol ac maen nhw wedi fy helpu i fod yn fwy creadigol fy hun. Mae’r profiad yn bendant wedi fy ysbrydoli i barhau ar fy nhaith dysgu iaith. 

Yr uchafbwynt mwyaf i fi fel mentor oedd yn ystod ail dymor y prosiect; roeddwn i’n cynnal fy sesiwn olaf gyda’r dysgwyr, ac roedden nhw i gyd yn dweud cymaint roeddwn nhw eisiau i’r sesiynau fod yn barhaol. Roedden nhw wrth eu bodd â phob munud o’r sesiynau ac ddim eisiau iddyn nhw ddod i ben – dywedodd un dysgwr: “Hoffwn i pe bai’r sesiynau yma’n para trwy gydol y flwyddyn”. 

Un darn o gyngor gen i fyddai i beidio â phoeni, mae’r athrawon yn wych ac yn helpu os ydych chi’n cael trafferth gyda grŵp o ddysgwyr. Gallwch ddibynnu ar dîm y prosiect hefyd, oherwydd maen nhw yna i’ch helpu chi – gofynnwch iddyn nhw bob amser os ydych chi’n ansicr am rywbeth, maen nhw’n ateb yn syth! 

Iaith