Sut le yw’r byd pan fyddwn yn edrych arno drwy lens ddarllen?

gan Alex Nita

Cymerwch funud fach i edrych o’ch cwmpas – beth allwch chi ei weld? Rwy’n eistedd yn fy swyddfa ac yn gallu gweld fy llyfr nodiadau, pentwr bach o lyfrau plant, amrywiaeth o bosteri ar yr hysbysfwrdd, a chardiau post ag adborth mentoriaid Caru Darllen arnyn nhw. Beth amdanoch chi? Ydych chi’n edrych ar riliau Instagram ar eich ffôn? Oes gyda chi bapur newydd neu gylchgrawn wrth law?… neu efallai eich bod chi’n athro, yn eistedd yn eich ystafell ddosbarth yn marcio llyfrau neu’n syllu ar waith y plant ar y waliau.

Os ydych chi wedi sylwi ar yr holl ddeunydd darllen sydd o’ch cwmpas, sy’n cyfoethogi’ch bywyd bob dydd, y newyddion da yw eich bod chi wedi llwyddo i edrych ar y byd trwy lens ddarllen! A ninnau’n addysgwyr, rydyn ni’n credu’n gryf bod darllen yn bwerus ac rydyn ni’n gwybod bod darllen yn hanfodol i ddatblygiad, lles a llwyddiant plant mewn bywyd1,2,3,4

Ond sut allwn ni fel addysgwyr, rymuso plant i brofi pŵer darllen drostyn nhw eu hunain? Sut allwn ni hybu cymhelliant y plant i ddewis darllen ar eu liwt eu hunain? Yr ateb i’r cwestiwn hwn yw’r lens darllen. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Caru Darllen wedi datblygu a mireinio dull unigryw i gymell plant i ddarllen, trwy annog dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng y dyheadau a’r diddordebau sydd ganddyn nhw yn eu bywydau bob dydd â darllen. Cwmpas y prosiect oedd ‘bachu’ dysgwyr i ddarllen drwy agor eu llygaid i’r ffyrdd y mae darllen eisoes yn cyfoethogi eu bywydau, a thrwy hynny trawsnewid yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddarllenydd.  

Mae’r cynllun mentora Caru Darllen yn trefnu i fyfyrwyr ysbrydoledig weithio fel mentoriaid gyda grwpiau bach o ddarllenwyr anfodlon rhwng 9 ac 11 oed. Gyda’i gilydd, mae’r mentor a’r dysgwyr yn rhannu arferion darllen ac yn meithrin diddordeb ar y cyd mewn darllen, dull sydd wedi profi’n arbennig o effeithiol wrth hybu cymhelliant darllen y dysgwyr5. Mae’r rhaglen unigryw yma’n golygu fod modd i’r darllenydd mwyaf anfodlon hyd yn oed, gael pleser o ddarllen rhywbeth o’i ddewis ei hun (boed hynny’n eiriau cân, cyfarwyddiadau gêm neu hyd yn oed codio cyfrifiadurol). 

Yn fwy diweddar, defnyddiodd Caru Darllen y dystiolaeth o’r prosiect mentora i greu rhaglen ddysgu broffesiynol (gan gynnwys adnoddau ymarferol y mae modd eu golygu, yn y Gymraeg ac yn Saesneg) i gefnogi ymarferwyr addysgu cynradd i weld y byd drwy lens ddarllen yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain. Mae’r adnoddau’n cynnwys cyfoeth o bynciau, sy’n gysylltiedig â phob maes dysgu a phrofiad o fewn Cwricwlwm Cymru, i ddangos sut y mae modd i’r lens ddarllen wneud ystod o bynciau’n ddiddorol ac yn bleserus i bawb.

Mae’r adnoddau’n cynnig dull ymarferol i ddysgwyr, i’w helpu i ddarllen a gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas. Er bod rhai darllenwyr yn hoffi dim byd gwell na chwtsio ar gadair glyd gyda llyfr mawr, mae’n well gan eraill ddarllen eLyfrau neu wrando ar lyfrau llafar. Ac wrth gwrs, mae ’na unigolion sydd ddim eisiau ymgysylltu â llyfrau o gwbl…ac eto mae rhywbeth fel chwilio am rysáit newydd yn gystal cyfle darllen ag unrhyw un arall!

A ninnau’n addysgwyr yng Nghymru, ein dyletswydd ni, heb os nac oni bai, yw rhoi cymorth i blant i feddwl am yr holl ffyrdd y gallen nhw fod yn ddarllenwyr, fel bod modd i’r dysgwyr mwyaf cyndyn hyd yn oed, deimlo bod darllen yn perthyn iddyn nhw hefyd.


Cyfeiriadau:

Iaith