Uwchradd

Mae Mentora ITM yn darparu adnoddau addysgu amlieithog rhad ac am ddim i ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog, cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Caiff athrawon eu hannog i lawrlwytho’r adnoddau a’u haddasu i fod yn addas ar gyfer cyd-destun eu hysgolion eu hunain a’r ieithoedd sy’n cael eu siarad yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.

Mae’r adnoddau’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddeall a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ieithoedd drwy roi amrywiaeth o wybodaeth iddyn nhw am ddiwylliant, pobl a hanes Cymru ond hefyd am y byd yn gyffredinol.

Iaith