Fideo 1 – Racismo y clasismo

Thema: Materion cymdeithasol

Rydym yn gyffrous iawn i allu rhannu’r adnodd rhyngweithiol arbennig yma gyda chi i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau iaith ar gyfer eich arholiadau TGAU. Mae’r fideo yma am hiliaeth a rhagfarn ar sail dosbarth cymdeithasol yn Ninas Mexico, ac fe fydd yn eich helpu chi i ddatblygu’ch dealltwriaeth o thema materion cymdeithasol y cwrs TGAU iaith.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r daflen baratoi cyn cychwyn y fideo a’r cwis rhyngweithiol. Mae’r gweithgareddau ar y daflen yn sicrhau bod gennych chi’r eirfa allweddol er mwyn gallu cwblhau’r cwis yn hyderus.

Cwblhewch y daflen baratoi yma cyn gwylio’r fideo

Rydych chi bellach yn barod i wylio’r fideo ac i gwblhau’r cwis rhyngweithiol wrth wylio. Nid yw’n bosibl osgoi unrhyw gwestiwn felly mae’n bwysig dyfalbarhau a rhoi mwy nag un cais ar bob cwestiwn os na fyddwch yn llwyddiannus y tro cyntaf! Gwnewch gofnod o unrhywbeth sy’n heriol fel eich bod chi’n medru trafod hyn yn y dosbarth gyda’ch athro/awes.

Cliciwch ar yr eicon yng nghornel dde isaf y sgrin i agor modd sgrin lawn.