Myfyrwyr Prifysgol

Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau’r broses ymgeisio (sy’n cynnwys gwiriad GDG gorfodol) byddan nhw’n cael eu gwahodd i Benwythnos Hyfforddi Mentoriaid yn un o’r Prifysgolion partner. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi’r holl adnoddau a’r sgiliau sydd eu hangen ar y myfyrwyr i fod yn fentor llwyddiannus. Bydd y prosiect yn talu am holl gostau teithio, llety a chynhaliaeth y penwythnos.

Mae Mentora ITM yn gosod mentoriaid gydag ysgolion uwchradd i gyflwyno sesiynau mentora a/neu weithdai difyr i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 7-9. Nod y sesiynau mentora yw hyrwyddo amlieithrwydd ac annog dysgwyr i astudio TGAU Ieithoedd Rhyngwladol.

  • Bwrsariaeth
  • Datblygiad proffesiynol
  • Profiad gwaith mewn ystafell ddosbarth
  • Cwrdd â phobl o’r un anian â chi
  • Sgiliau trosglwyddadwy

Wyt ti’n astudio unrhyw radd mewn prifysgol yng Nghymru?

Oes gen ti ddiddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau?

Wyt ti eisiau datblygu sgiliau proffesiynol?

Ymunwch â’n tîm o fentoriaid gwych!

Iaith