Prosiect peilot yw Mentora Amlieithog mewn Ysgolion Cynradd sydd wedi’i fodelu ar y prosiect Mentora ITM a fydd yn cael ei gyflwyno dros flwyddyn academaidd 2024-25.
Mae’r prosiect yn creu partneriaeth rhwng myfyrwyr prifysgol sy’n gallu siarad mwy nag un iaith ac ysgolion cynradd yng Nghaerdydd i annog dysgwyr 9-11 oed i feithrin brwdfrydedd a chymhelliant dros ddysgu iaith. Mae’r mentoriaid yn gwneud hyn drwy gynnal gweithdai a sesiynau wyneb yn wyneb am iaith, diwylliant a hunaniaeth.
Datblygiad cyffrous o’r Cwricwlwm i Gymru newydd yw bod Ieithoedd Rhyngwladol yn cael eu cyflwyno’n gynharach ar lefel ysgol gynradd. Mae’r prosiect hwn yn gobeithio cynnig cymorth y mae mawr ei angen i’r sector cynradd wrth i’r sector ddechrau ar y gwaith o ddatblygu eu darpariaeth gyffrous ym maes ieithoedd. Gan gadw hyn mewn cof, cenhadaeth a gweledigaeth y prosiect yw:
- annog dysgwyr i fod yn chwilfrydig am bob iaith a diwylliant
- herio safbwyntiau a rhagdybiaethau am eraill
- hyrwyddo ymdeimlad o gymuned fyd-eang
- dathlu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol
- dangos sut mae ieithoedd yn cefnogi lles a thwf personol
Ariennir y prosiect gan Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (sydd wedi’i weinyddu gan Brifysgol De Cymru) ac mae’n cael ei gynnal ar draws pedwar Sefydliad Uwch yng Nghymru: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Os hoffech gymryd rhan neu ddysgu mwy, cysylltwch ag Ana Carrasco ar carrascoa@cardiff.ac.uk.