Ar ôl 4 blynedd (!) yn fentor, mae’n bleser cael Firial yn aelod swyddogol o’r tîm ers mis Mehefin 2024! Mae hi bellach yn swyddog prosiect, ac yn gyfrifol am leoliadau mentoriaid yn ardaloedd Partneriaeth a Chanolbarth Cymru.
Yn ogystal â gweithio gyda thîm arbennig, fy hoff beth am weithio gyda’r prosiect yw’r gallu bod yn greadigol. Dw i’n hoffi meddwl am syniadau mentora, syniadau am adnoddau a ffyrdd i ddatblygu’r hyfforddiant. Mae cymaint o waith meddwl a pharatoi yn mynd i mewn i bopeth mae’r tîm yn ei wneud ac mae hynny’n gyrru fy mrwdfrydedd i ddysgu a chreu. Dw i hefyd wrth fy modd yn cwrdd â myfyrwyr – mae eu profiadau a’u straeon yn f’ysbrydoli. Mae’r prosiect yma wir yn dangos sut rydyn ni’n debyg ac yn wahanol ar yr un pryd. Dyma’r lle perffaith i mi ddysgu wrth eraill!
Firial