Ysgolion

Opsiynau mentora

Rydyn ni’n cynnig tri opsiwn mentora hyblyg:

Mae’r Mentor yn gweithio gyda grŵp o ddysgwyr Blwyddyn 8 neu 9 (tua 8-10) ac yn cyflwyno hyd at chwe sesiwn fentora bob tymor. Mae dau gylch mentora – un yn nhymor yr Hydref ac un yn nhymor y Gwanwyn. Mae’r opsiwn yma ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Mae’r Mentor yn ymweld â’r ysgol i gyflwyno uchafswm o bum gweithdy gyda phum dosbarth gwahanol bob tymor. Mae dau gylch mentora – un yn nhymor yr Hydref ac un yn nhymor y Gwanwyn. Mae’r opsiwn yma’n gweithio’n dda pan na fydd hi’n bosib rhyddhau’r dysgwyr i sesiynau mentora yn ystod amser gwersi.

Mae pob mentor yn gweithio gyda grŵp o ddysgwyr Blwyddyn 8 neu 9 (tua 8-10) ac yn cyflwyno hyd at chwe sesiwn fentora bob tymor. Bydd y mentor hefyd yn cyflwyno dau weithdy Cysylltu Ieithoedd i ddau ddosbarth gwahanol bob tymor. Mae dau gylch mentora – un yn nhymor yr Hydref ac un yn nhymor y Gwanwyn.

Ydych chi'n ysgol uwchradd yng Nghymru?

Eisiau cynyddu nifer eich dysgwyr sy’n ymddiddori mewn ieithoedd rhyngwladol?

Awyddus i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n dewis ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU?

Awyddus i ddatblygu arferion amlieithog yn unol â’r CiG?

Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi!

Iaith