Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru wedi galw am ddull mwy integredig o ddysgu ac addysgu. Mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn dod â disgyblaethau cyfarwydd ynghyd ac yn mynd ati i hyrwyddo cysylltiadau ystyrlon ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru mae’r pedwar diben sy’n llywio datblygiad y cwricwlwm ac arferion addysgu.
Nod y Pedwar Diben yw creu:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog
- cyfranwyr mentrus, creadigol
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus
- unigolion iach, hyderus
Mae natur holistaidd y pedwar datganiad sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn gofyn i ymarferwyr ddod â dull newydd i’w haddysgu. Mae athrawon yn cael eu hannog i archwilio gwahanol ieithoedd mewn perthynas â’i gilydd er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau dadgodi iaith hanfodol a fydd yn eu helpu i drosglwyddo eu gwybodaeth ar draws sawl iaith. Mae dull amlieithog a lluosieithog y cwricwlwm yn cynnig cyfle cyffrous i danio brwdfrydedd dysgwyr i ddysgu’r ieithoedd a siaredir yn eu hysgolion, eu cymunedau a thu hwnt. Mae’r cwricwlwm hefyd yn cynnig cyfle gwych i ddysgwyr ddatblygu ymdeimlad o berthyn ynghyd a chyfle i ddarganfod eu hunaniaeth eu hunain trwy archwilio a deall y berthynas rhwng eu diwylliannau a’u cymunedau nhw a diwylliannau a chymunedau eraill.
Er y gall newid fod yn gyffrous, gall hefyd fod yn frawychus iawn, ac mae’n hawdd deall sut y gall ymarferwyr teimlo eu bod yn cael eu llethu gan lunio a gweithredu eu cwricwlwm newydd – wel, mae Mentora ITM yma i helpu! Rydym wedi creu cyfres o adnoddau y gellir eu haddasu yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan ein prosiect AM DDIM! Mae’r adnoddau yma ar gyfer grwpiau hŷn ysgolion cynradd a grwpiau iau ysgolion uwchradd er mwyn cefnogi ymarferwyr i gyflwyno eu cwricwlwm Ieithoedd Llythrennedd a Chyfathrebu newydd ac i ddatblygu dysgwyr sy’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. Byddwn yn taflu goleuni ar bob un o’n hadnoddau ar LinkedIn dros y misoedd nesaf, ond os na allwch aros tan hynny ewch i’n gwefan a lawrlwythwch yr holl adnoddau nawr! Os hoffech ragor o wybodaeth am ein hadnoddau, cysylltwch â ni: @mflmentoring.