Arolwg y Dysgwr – Rhoi eich caniatâd 

Mae hon yn ddogfen (document) hawdd ei darllen sy’n esbonio’r Arolwg y Dysgwr gan Mentora Amlieithog (roedd y prosiect hwn yn arfer cael ei alw’n Mentora ITM). Gall y dysgwyr eu hunain ei darllen, neu gall yr athro ei ddarllen i’r dysgwyr CYN iddynt gwblhau’r arolwg. Mae’n esbonio i ddysgwyr sut y byddwn yn defnyddio eu data ac yn eu helpu i benderfynu a ydynt yn hapus i rannu gwybodaeth â ni (rhoi caniatâd).

Os yw’n well gennych, gallwch gael mynediad at hwn fel dogfen Word trwy glicio yma neu fel PDF trwy glicio isod:

Beth yw Mentora Amlieithog?

Mae Mentora Amlieithog yn brosiect ym Mhrifysgol Caerdydd. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu (talu am) y prosiect yma.

Mae’r prosiect yn cefnogi dysgwyr, fel chi, i archwilio (explore) gwahanol ieithoedd a diwylliannau. Rydym yn gwneud hyn drwy drefnu sesiynau yn eich ysgol sy’n cael eu cyflwyno gan fyfyriwr prifysgol.  Rydym hefyd yn gwneud hyn drwy ddysgu mwy am agwedd pobl ifanc tuag at ieithoedd.

Mae deall eich barn a’ch teimladau am ieithoedd rhyngwladol (fel Ffrangeg, Almaeneg, Tsieinëeg Mandarin neu Sbaeneg) yn helpu tîm y prosiect i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn gwella’r prosiect i chi.

Pa gwestiynau fydd yn cael eu gofyn i mi?

Bydd yr arolwg yn gofyn am eich enw, ethnigrwydd[1], rhywedd, ysgol a grŵp blwyddyn. Dyma’ch gwybodaeth bersonol. Os nad ydych am ddweud wrthym beth yw eich rhywedd neu ethnigrwydd, gallwch ddewis ‘mae’n well gen i beidio â dweud’. Mae’r holl gwestiynau eraill am ieithoedd rhyngwladol a phynciau eraill rydych chi’n eu dysgu a’u mwynhau yn yr ysgol.

Mae’r cwestiynau’n fyr. Weithiau byddwch chi’n dewis yr atebion sy’n addas i chi, ac weithiau gallwch chi ysgrifennu’r hyn rydych chi’n ei feddwl yn eich geiriau eich hun. Nid prawf yw hwn, nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir, a does neb yn mynd i wirio’ch sillafu! Rhowch yr atebion sydd fwyaf gwir i chi ar hyn o bryd.

Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda fy atebion?

Bydd tîm y prosiect yn darllen eich atebion ac yn gweld a oes llawer o ddysgwyr yn dweud pethau tebyg am ddysgu ieithoedd.

Bydd Mentora Amlieithog ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol (fel eich enw, rhywedd, ethnigrwydd, ysgol) gyda’ch athro ysgol. Gall Mentora Amlieithog rannu rhai o’r pethau rydych chi wedi dweud yn DDIENW (hynny yw heb rannu eich enw, ysgol neu oedran), gyda sefydliadau (organisations) eraill y maent yn gweithio gyda nhw, yn eu hadroddiadau, neu ar eu gwefan neu gyfryngau cymdeithasol. Ni fydd neb yn gwybod bod yr atebion hyn wedi dod gennych chi.

Pwy sy’n cael gweld beth dw i’n ei ddweud?

Yr unig bobl sy’n cael gweld popeth rydych chi’n ei ddweud yn yr arolwg yw eich athrawon yn yr ysgol a thîm Mentora Amlieithog ym Mhrifysgol Caerdydd.

Efallai y bydd y prosiect yn defnyddio’ch atebion yn eu hadroddiadau, neu ar gyfryngau cymdeithasol – felly gallai mwy o bobl eu gweld, ond ni fyddant byth yn rhannu eich gwybodaeth bersonol – fel eich enw, rhywedd neu ethnigrwydd.

Ydw i’n gallu dweud na/dewis peidio ag ateb y cwestiynau?

Gallwch, gallwch ddweud na. Os nad ydych chi eisiau ateb y cwestiynau, does dim rhaid i chi. Gallwch hefyd newid eich meddwl yn hwyrach. Os felly, dywedwch wrth eich athro fel y gallant anfon e-bost atom: mflmentoring@cardiff.ac.uk.  Bydd Mentora Amlieithog wedyn yn tynnu eich atebion o’u cofnod (record).

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i’n gwefan: https://mflmentoring.co.uk/cy/ni-yw-y-lab-cymraeg/

Gellir dod o hyd i hysbysiad preifatrwydd (privacy notice) llawn yma: https://mflmentoring.co.uk/cy/hysbysiad-preifatrwydd/

Os ydych chi’n deall y ddogfen hon ac rydych chi’n cytuno i ateb y cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ateb ‘Ydw’ i’r cwestiwn cyntaf yn yr arolwg.


[1] grŵp mawr o bobl sy’n rhannu diwylliant, iaith, hanes, set o draddodiadau, ac ati, neu’r ffaith eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau hyn.