Polisi Amddiffyn a Diogelu Plant

  1. Cwmpas a Nodau

Mae ein tîm prosiect yn llwyr gydnabod ein cyfrifoldebau dros Ddiogelu ac Amddiffyn Plant ac mae’r polisi hwn yn nodi sut byddwn yn gweithio i gyflawni ein cyfrifoldebau.

Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut rydym ni, fel tîm prosiect yn:

  • Sicrhau ein bod yn mynd ati i gefnogi diogelu’r bobl ifanc yn eu hysgolion trwy weithio yn unol â strwythurau diogelu’r ysgolion unigol fel yr amlinellwyd yn Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2015).
  • Sicrhau ein bod yn mynd ati i ystyried a nodi’r risgiau perthnasol a allai ddigwydd o ganlyniad i’r prosiect hwn, a chyn belled ag y bo modd, eu hatal rhag digwydd.
  • Parhau’n wyliadwrus o ran y posibilrwydd o risgiau diogelu ac amddiffyn plant yn y prosiect hwn.
  • Gweithredu’n gyflym mewn perthynas ag unrhyw faterion diogelu neu amddiffyn plant sy’n digwydd o ganlyniad i’r prosiect hwn a gweithio gyda’r ysgol ac awdurdodau statudol perthnasol eraill i’w hasesu a’u rheoli.
  • Bwydo unrhyw ddysgu am ddiogelu o’r prosiect hwn i’r polisi hwn a’i adolygu bob blwyddyn.

Mae’r polisi hwn yn cydnabod bod yr holl blant a phobl ifanc a gefnogir trwy ein Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern (Mentora ITM) wedi’u lleoli yn ein hysgolion partner sydd â pholisïau amddiffyn plant eu hunain, ac y bydd unrhyw faterion diogelu sy’n codi mewn perthynas â phobl ifanc sy’n cael eu mentora fel rhan o’n prosiect yn dod o dan bolisi’r ysgolion unigol hyn.  Mae’r polisi hwn yn llwyr gydnabod awdurdod y polisïau sy’n bodoli yn yr holl ysgolion perthnasol a dim ond yn ceisio ategu’r polisïau hynny mewn perthynas ag anghenion y prosiect a’r gefnogaeth benodol rydym yn ei rhoi i’n mentoriaid gwirfoddol.  Bydd yr holl weithdrefnau a ddisgrifir yn y polisi hwn yn cyd-fynd â gweithdrefnau diogelu’r ysgolion sy’n parhau i fod o’r pwys mwyaf.

 

 

  1. Cysylltiadau allweddol a chysylltiadau mewn argyfwng

Mae’r polisi hwn yn eiddo i Lucy Jenkins, sef arweinydd diogelu Mentora ITM (JenkinsL27@cardiff.ac.uk). Os bydd hi’n absennol neu os bydd argyfwng, dirprwy arweinydd diogelu’r prosiect yw Tallulah Machin (MachinT@cardiff.ac.uk).

Mae gan bob ysgol bolisi amddiffyn plant a fydd yn nodi enw a manylion cyswllt Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL) yr ysgol ar gyfer amddiffyn plant. Bydd y DSL yn penderfynu a oes angen atgyfeirio er mwyn cadw plentyn neu berson ifanc yn ddiogel.

Os nad yw DSL yr ysgol ar gael oherwydd eich bod y tu allan i oriau ysgol a’ch bod yn poeni bod plentyn yn cael ei gam-drin neu y gallai ddod i niwed gallwch ffonio’r heddlu – 999 mewn argyfwng ac 101 ar gyfer pob ymholiad arall.  Gallwch hefyd gysylltu â thîm amddiffyn plant yr awdurdod lleol i atgyfeirio yn yr awdurdod lleol lle rydych chi’n gweithio.

 

  1. Diffiniadau

Mae’n bwysig bod y rhai sy’n ymwneud â’r prosiect hwn – p’un ai fel aelod o dîm y prosiect neu fel mentor gwirfoddol – yn deall diogelu a’r gwahanol fathau o gam-drin plant.

Diffinnir diogelu fel

  • Amddiffyn plant rhag cael eu trin yn wael;
  • Atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant;
  • Sicrhau bod y plant yn tyfu i fyny mewn amgylchiadau sy’n gyson â darparu gofal diogel ac effeithiol; a
  • Chymryd camau i alluogi pob plentyn i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.

 

Cam-drin Plant

Mae cam-drin yn fath o drin plentyn yn wael. Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn trwy beri niwed, neu drwy fethu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol; gan y rhai maent yn eu hadnabod neu, yn fwy anaml, gan eraill (e.e. trwy’r rhyngrwyd).  Gallant gael eu cam-drin gan oedolyn neu oedolion , neu gan blentyn arall neu blant eraill.

 

Mae Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008) yn diffinio pedwar math o gam-drin.  Mae diffiniadau a disgrifiadau manylach o’r pedwar prif fath o gam-drin ar gael yn Atodiad 1.

 

Emosiynol: Trin plentyn yn wael yn emosiynol yn barhaus, fel peri effeithiau andwyol difrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol y plentyn.

 

Esgeulustod: Esgeuluso plentyn yn barhaus neu’n ddifrifol, neu fethu ag amddiffyn plentyn rhag dod i gysylltiad ag unrhyw fath o berygl, gan gynnwys oerni, newyn neu fethiant eithafol i gyflawni agweddau pwysig ar ofal, gan arwain at niwed sylweddol i iechyd neu ddatblygiad y plentyn, gan gynnwys methiant anorganig i ffynnu.

 

Corfforol: Curo, ysgwyd, taflu, gwenwyno neu sgaldio, boddi, mygu neu beri niwed corfforol fel arall i blentyn. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio neu’n cymell salwch mewn plentyn y mae’n gofalu amdano.

 

Rhywiol: Gorfodi neu hudo plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, p’un ai yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio, gan gynnwys:

  • Cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol
  • Gweithgarwch heb gyswllt, fel cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu deunydd pornograffig neu wylio gweithgarwch rhywiol; neu
  • Annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.

Fel tîm prosiect rydym yn ymrwymo i gynnal y safonau diogelu uchaf a sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau risgiau.

 

  1. Diogelu Cyd-destunol

Yn ogystal â’r uchod, mae Mentora ITM yn cydnabod pwysigrwydd ‘diogelu cyd-destunol’ ac yn deall y gallai plant a phobl ifanc (ac yn enwedig pobl ifanc hŷn) fod mewn perygl, nid yn unig yn eu teuluoedd ond hefyd yng nghyd-destun eu cymunedau a’u grwpiau cyfoedion.  Mae rhagor o wybodaeth am rai pryderon diogelu penodol allweddol y gall plant a phobl ifanc eu profi ynghlwm wrth y polisi hwn yn Atodiad 2.

 

  1. Hyfforddiant, Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth

Fel rhan o’n hymrwymiad i ddiogelu a chynnal safonau diogelu byddwn yn hyfforddi ein staff a’n mentoriaid yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn deall diogelu sylfaenol, yr hyn sy’n ofynnol ganddynt, a sut gallant roi gwybod am bryderon.  Bydd yr hyfforddiant diogelu hwn yn cael ei ddarparu i’r holl fentoriaid sydd newydd gael eu recriwtio (ac aelodau tîm y prosiect) a bydd yn cael ei adnewyddu cyn i bob cylch mentora newydd ddechrau.   Bydd yr hyfforddiant hefyd yn cynnwys prawf i sicrhau bod pawb wedi derbyn a deall prif bwyntiau’r cyflwyniad diogelu.

 

  1. Fetio

Bydd yn ofynnol i’r mentoriaid yn y prosiect hwn gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau nad oes unrhyw beth sy’n hysbys amdanynt a fyddai’n awgrymu eu bod yn peri risg i blant.  Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod na fydd gan bob unigolyn a allai beri risg i blant gofnodion troseddol ac mae’n bwysig bod yn wyliadwrus bob amser.  Fel rhan o’n proses recriwtio, rhaid i fentoriaid gwblhau chwe awr o weithdai byw, lle gellir codi unrhyw bryderon ynghylch agwedd neu ddull mentor, ac os bydd unrhyw bryderon yn dilyn hyn ynghylch eu haddasrwydd i weithio gyda phlant, ni fyddant yn cael symud ymlaen i fod yn fentoriaid.  Gall ymddygiad sy’n peri pryder gynnwys bod yn or-gyfarwydd â phlant a methu â deall ffiniau’r rôl, methu ag ymddwyn mewn modd cyfrifol gyda phlant, neu fethu â chymryd y prosiect neu elfennau diogelu’r prosiect o ddifrif.  Darllenwch yr adran isod ar y safonau ymddygiad rydym yn eu disgwyl yn ein prosiect.

 

  1. Safonau Ymddygiad

Mae cael safonau ymddygiad clir rydym yn eu disgwyl gan ein mentoriaid yn rhan annatod o’n polisi, er mwyn iddynt fod yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt mewn perthynas â diogelu.  Mae ein rhaglen fentora yn seiliedig ar yr egwyddor y gall plant a phobl ifanc elwa’n fawr o berthnasoedd cefnogol ag oedolion a all eu tywys a’u helpu nhw.  Fodd bynnag, rydym yn annog ein holl fentoriaid i feddwl ac ystyried sut gall eu hymddygiad fod yn agored i graffu ac rydym yn cynnig disgwyliadau clir iddynt am ymddygiadau a gweithredoedd nad ydynt yn dderbyniol.  Disgwyliwn i’n mentoriaid fod yn esiampl o arfer gorau mewn perthynas â gweithio gyda phlant a phobl ifanc a pheidio ag ymddwyn yn y ffyrdd canlynol:

  • Bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu yn erbyn unrhyw blentyn (hyd yn oed mewn ffyrdd cynnil fel tynnu sylw at wahaniaethau personol neu gorfforol).
  • Bychanu neu godi cywilydd ar blentyn sy’n ei chael hi’n anodd neu sy’n cael y gwaith yn anodd.
  • Curo, taro neu achosi niwed corfforol i blentyn fel gollyngfa i rwystredigaeth neu fel dull o ddisgyblu.
  • Rhyngweithio â phlant mewn ffordd amhriodol, eu canmol am rywbeth neu dynnu sylw atynt neu geisio eu bychanu neu wneud iddynt deimlo’n anghyfforddus.
  • Cael cysylltiad corfforol o unrhyw fath â phlant, hyd yn oed pan fwriedir i hyn fod mewn ffordd annwyl neu ddoniol.
  • Cael perthynas agos neu rywiol â phlentyn neu ddefnyddio iaith rywiol o’u cwmpas gan gynnwys sylwadau neu sgyrsiau awgrymog.
  • Cael perthynas â mentorai y tu allan i’r prosiect.
  • Ymgysylltu â’r mentoreion ar y cyfryngau cymdeithasol, fel WhatsApp, Snapchat, Instagram neu wasanaeth cyfryngau cymdeithasol arall, gwasanaeth negeseuon neu gêm. Derbyn gwahoddiad i fod yn ffrind neu rannu rhifau personol ag unrhyw un o’r plant yn y prosiect.
  • Tynnu lluniau o’r plant neu rannu lluniau ohonoch chi eich hun.
  • Rhoi anrhegion, breintiau neu wobrau i blentyn er mwyn datblygu perthynas arbennig ag ef.
  • Ymgymryd â dyletswyddau mentora o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

 

 

  1. Diogelu Ar-lein

Mae Mentora ITM yn hwyluso mentora rhwng mentor a grŵp ar gyfer mentoriaid y prosiect a phlant a phobl ifanc yn yr ysgolion y maent yn gweithio ynddynt.  Mae yna fanteision addysgol sylweddol yn ymwneud â mentora ar-lein, ond rydym yn cydnabod bod hyn hefyd yn cyflwyno haen ychwanegol o risg diogelu.  Mae’r risg ychwanegol o ganlyniad i’r ffaith bod hyn yn caniatáu perthynas ar-lein rhwng y mentor a’r plentyn, a hynny heb oruchwyliaeth uniongyrchol oedolion eraill yn yr ysgol, sy’n arwain at rywfaint mwy o gyfle i rywun drwg orfodi neu niweidio plentyn pe byddai’n bwriadu gwneud hynny. Wedi dweud hynny, mae pob neges yn cael ei recordio ac mae’n bosibl i dîm y prosiect a staff enwebedig o’r ysgol bartner eu gweld.  Mae’r holl sgyrsiau yn digwydd mewn lleoliad grŵp ac yn cael eu hadolygu gan dîm y prosiect, felly ni chynhelir unrhyw sgyrsiau heb oruchwyliaeth staff. Dangoswyd bod cyfathrebu ar-lein hefyd yn cael effaith gynnil ar ymddygiad pobl – ac mewn rhai achosion yn gwneud iddynt fod yn ddiymatal a theimlo eu bod yn gudd neu’n rhydd rhag canlyniadau torri rheolau er enghraifft. Mae’r prosiect yn cydnabod yr haen ychwanegol o risg bosibl a grëir gan y broses hon a bydd yn sicrhau bod mesurau diogelwch ar waith o amgylch y rhyngweithio hwn ar-lein hyn sy’n lleihau unrhyw risg y gall ei chyflwyno.  Mae hyn yn cynnwys y mesurau diogelwch canlynol:

  • Byddwn yn cyfleu’n glir i’n mentoriaid bod y safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddynt, a ddisgrifir uchod yn adran 7, yn berthnasol ar-lein yn ogystal ag all-lein.
  • Byddwn yn sicrhau bod y rhyngweithio ar-lein rhwng mentoriaid a phobl ifanc yn digwydd ar Hwb, llwyfan pwrpasol Llywodraeth Cymru, MS Teams a / neu Google Classroom heb unrhyw gysylltiadau â chyfryngau cymdeithasol ehangach.
  • Byddwn yn sicrhau nad yw’r llwyfan a ddefnyddiwn yn rhannu manylion ehangach, enwau defnyddwyr, cyfrineiriau nac yn nodi manylion y naill barti na’r llall nac yn cysylltu â gwefannau neu wasanaethau eraill ar y rhyngrwyd. Byddwn yn ailadrodd wrth fentoriaid na ddylent rannu’r manylion hyn na chaniatáu i’r plant a’r bobl ifanc eu rhannu.
  • Bydd y prosiect yn agored ynghylch y bydd yn recordio’r holl sgwrsio ar-lein sy’n digwydd rhwng y mentoriaid a’r plant a’r bobl ifanc. Bydd tîm y prosiect yn dewis samplau ar hap ac yn adolygu trawsgrifiadau’r rhyngweithio hyn bob wythnos yn ystod y cylch mentora.

 

  1. Ymateb i Bryderon a Risgiau Diogelu

Fel yr eglurwyd uchod, ymdrinnir â materion diogelu’r prosiect hwn o fewn fframwaith a gweithdrefnau polisi’r ysgol y rhoddir gwybod amdanynt oddi mewn iddynt ac fel yr amlinellir yn Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2015).  Fodd bynnag, mae’n bwysig bod tîm y prosiect yn cael gwybod os bydd unrhyw bryderon yn codi yn yr ysgol a bod y prosiect yn gallu gweithredu ar unrhyw wybodaeth a ddaw i law yn annibynnol.

 

9.1 Pryderon a godir gan fentor am fentorai

Cydnabyddir y gall plentyn y mae mentor yn y prosiect hwn yn ei fentora ddatgelu rhywbeth iddo, neu y gall ddod yn ymwybodol o wybodaeth sy’n ymwneud â phlentyn a’i fod yn teimlo bod angen iddo weithredu ar hynny.  Efallai y bydd rhai plant yn dewis datgelu rhywbeth i fentor oherwydd gall deimlo’n haws mynd ato (gan eu bod yn agosach mewn oedran) ac efallai eu bod yn teimlo’n fwy cydymdeimladol oherwydd eu bod wedi gweithio gyda nhw mewn grwpiau bach.  Mewn rhai rhannau o’r prosiect, er enghraifft wrth gyfathrebu ar-lein, mae’n bosibl y bydd plant yn teimlo bod mentor yn fwy hygyrch oherwydd eu bod wedi cael cyfle i gyfathrebu â’r mentor ar-lein.

Wrth wrando ar blentyn yn datgelu rhywbeth, mae’n bwysig:

  • Gwrando’n ofalus ac yn amyneddgar ar yr hyn mae’n ei ddweud a dangos yn glir eich bod chi’n cymryd y mater o ddifrif.
  • Sicrhau’r plentyn nad ef sydd ar fai.
  • Annog y plentyn i siarad a gadael iddo adrodd ei stori yn ei ffordd ei hun. Peidio ag annog na gofyn cwestiynau arweiniol.
  • Peidio â gofyn i’r plentyn ailadrodd beth mae wedi’i ddweud.
  • Esbonio pa gamau y mae’n rhaid i chi eu cymryd, ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi ac y byddwch chi’n ceisio cael help iddo.

 

Atgyfeirio at yr Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL) yn yr ysgol

Rhaid i fentoriaid ysgrifennu manylion unrhyw wybodaeth a ddatgelir a throsglwyddo’r wybodaeth i’r Arweinydd Diogelu Dynodedig yn yr ysgol cyn gynted â phosibl.

Dylai mentor yn y prosiect hwn hefyd sicrhau ei fod yn adrodd am unrhyw bryderon sydd ganddo am les a diogelwch plentyn i’r DSL yn yr ysgol. Efallai na fydd hyn o ganlyniad i rywbeth y mae plentyn wedi’i ddatgelu’n uniongyrchol ond gallai gael ei sbarduno gan bryderon am ymddygiadau neu weithredoedd plentyn y mae’n gweithio gydag ef.

 

Adrodd o fewn y prosiect

Ar ôl adrodd i’r ysgol am bryderon diogelu sy’n ymwneud ag un o’r plant, dylai’r mentor adrodd am y ffaith ei fod wedi gwneud atgyfeiriad diogelu i dîm y prosiect.  Ni ddylai gynnwys manylion yr atgyfeiriad, dim ond dweud ei fod wedi atgyfeirio datgeliad neu wedi rhoi gwybod i’r DSL am bryderon ynghylch plentyn.  Dim ond y rhai sy’n gallu gweithredu ddylai rannu gwybodaeth am achos sensitif am ddiogelu, felly ni ddylid rhannu cynnwys yr atgyfeiriadau â’r prosiect.  Fodd bynnag, mae angen rhoi gwybod i dîm y prosiect os yw’r mentoriaid yn atgyfeirio o fewn ysgolion er mwyn i’r tîm allu deall y materion sy’n codi i fentoriaid a’u cefnogi yn unol â hynny.

 

Adrodd am bryderon brys y tu allan i oriau ysgol

Dylai mentoriaid bob amser roi gwybod am eu pryderon diogelu trwy’r strwythurau yn eu hysgolion lle bo hynny’n bosibl.  Fodd bynnag, pe bai mentor (neu aelod o dîm y prosiect) yn dod yn ymwybodol o risg uniongyrchol i blentyn y tu allan i oriau ysgol neu’n sylweddoli bod risg o’r fath, dylid atgyfeirio ei bryderon at yr heddlu lleol ar unwaith (fel yn adran 2 uchod).  Efallai yr hoffech chi gysylltu â thîm amddiffyn plant yr awdurdod lleol – bydd gan y tîm wasanaeth brys y tu allan i oriau.  Dylai’r DSL yn yr ysgol fod yn ymwybodol o unrhyw atgyfeiriad i’r gwasanaethau brys cyn gynted â phosibl ar ôl hyn.

 

9.2 Pryderon a godwyd am weithredoedd neu ymddygiad mentor

Honiadau o gam-drin neu weithgarwch troseddol

Gall y plant sy’n cael eu mentora neu athrawon eraill yn yr ysgol neu gyd-fentoriaid godi pryderon am fentoriaid.  Dylid delio ag unrhyw honiadau difrifol o gam-drin o fewn gweithdrefnau’r ysgol. Byddai hyn yn cynnwys pe bai honiad bod mentor wedi:

  • ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio plentyn, neu a allai fod wedi niweidio plentyn;
  • o bosibl wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu’n gysylltiedig â phlentyn; neu wedi
  • ymddwyn tuag at blentyn neu blant mewn ffordd sy’n dangos y gallai ef neu hi beri risg o niwed i blant.

Dylid rhoi gwybod i’r DSL am unrhyw enghreifftiau o’r uchod, a bydd y DSL yn ymgysylltu â Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu Lleol.  Dylid rhoi gwybod i arweinydd y prosiect ar unwaith.  Os yw’r mentor yn dymuno parhau i weithio fel mentor er gwaethaf yr honiad, bydd yn dal i gael cymryd rhan yn y prosiect ar sail asesiad risg a gomisiynir gan arweinwyr statudol.

Bydd arweinydd y prosiect yn cyfathrebu â’r mentor tra bydd honiad yn cael ei ymchwilio ac yn gofyn i’r DSL roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am hynt unrhyw ymchwiliad. Bydd arweinydd y prosiect hefyd yn gwneud ymdrech i nodi’r gefnogaeth sydd ar gael i’r mentor yn ystod ymchwiliad.  Dylai arweinydd y prosiect hefyd gysylltu â’r DSL i sicrhau bod ymchwiliad am ymddygiad sy’n nodi bod unigolyn yn risg i blentyn yn cael ei gwblhau a bod canlyniad iddo (hyd yn oed mewn achosion lle nad oes cyhuddiadau troseddol) ac er gwaethaf y ffaith bod mentor yn gwirfoddoli yn yr ysgol.  Bydd arweinydd y prosiect hefyd yn sicrhau bod canfyddiad perthnasol yn cael ei atgyfeirio i’r DBS os bydd canfyddiadau’r ymchwiliad yn awgrymu y gallai mentor fod yn risg i blant pe bai’n gweithio gyda nhw yn y dyfodol.

 

Pryderon neu gamweddau lefel is o ran safonau ymddygiad disgwyliedig

Bydd arweinydd y prosiect yn delio â phryderon lefel is am fentor, a allai fod yn torri agweddau ar y safonau ymddygiad sy’n ofynnol, ond nad ydynt yn ddigon difrifol i ysgogi ymchwiliad statudol neu ymchwiliad ffurfiol gan yr ysgol, ar y cyd â staff perthnasol o’r ysgol.  Byddai unrhyw gamweddau o ran y cod ymddygiad fel arfer yn arwain at gael gwared â’r unigolyn o’r prosiect ond mae’r polisi hwn yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau lle mae unigolyn wedi ymddwyn yn annoeth, ond heb unrhyw fwriad gwael, ac efallai ei fod wedi cydnabod ei fod wedi gwneud y peth anghywir ac wedi cymryd camau i unioni ei weithredoedd a cheisio cyngor.  Yn yr amgylchiadau hyn, ni fyddai unigolyn o’r fath yn cael ei ystyried yn risg i blant.  Pan godir pryderon lefel is o’r fath am ymddygiad mentor, mae hwn yn fater o ddisgresiwn barn i arweinydd y prosiect ar y cyd â’r ysgol – dylai unrhyw benderfyniad bwyso a mesur diogelu a lles y plant yn yr ysgol a dylai gael ei gofnodi’n glir yn ysgrifenedig gan arweinydd y prosiect.

 

  1. Adolygu’r Polisi hwn

Bydd arweinydd y prosiect yn mynd ar drywydd unrhyw faterion neu bryderon diogelu a godir o ganlyniad i’r prosiect hwn ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol cyn gynted â phosibl a heb unrhyw oedi gormodol.  Bydd arweinydd y prosiect hefyd yn sicrhau, ar ôl i bob cylch mentora gael ei gwblhau, bod tîm y prosiect yn cael cyfle i fyfyrio’n ehangach ar yr hyn a ddysgwyd o unrhyw faterion diogelu a godwyd yn ystod y mentora, gan ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r polisi hwn neu i’r gweithdrefnau a ddisgrifir yn y ddogfen hon.

Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ym mis Mai 2021.

 

 

 

Atodiad 1 – Diffiniadau estynedig o’r pedwar prif fath o gam-drin o ganllawiau Lloegr (Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg 2019)

 

Cam-drin Corfforol

Gall cam-drin corfforol gynnwys curo, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu beri niwed corfforol fel arall i blentyn. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio symptomau salwch, neu’n cymell salwch mewn plentyn yn fwriadol.

 

Cam-drin Emosiynol

Mae cam-drin emosiynol yn golygu trin plentyn yn wael yn emosiynol yn barhaus nes achosi effeithiau difrifol ac andwyol ar ei ddatblygiad emosiynol. Gall gynnwys cyfleu i blentyn ei fod yn ddiwerth neu ddim yn cael ei garu, yn annigonol, neu’n cael ei werthfawrogi dim ond i’r graddau y mae’n diwallu anghenion person arall. Gall gynnwys peidio â rhoi cyfleoedd i’r plentyn fynegi ei farn, ei ddistewi’n fwriadol neu ‘wneud hwyl’ o’r hyn mae’n ei ddweud neu sut mae’n cyfathrebu. Gall gynnwys disgwyliadau amhriodol o ran oedran neu ddatblygiad y plentyn. Gall y rhain gynnwys rhyngweithio sydd y tu hwnt i allu datblygiadol plentyn yn ogystal â goramddiffyn a chyfyngu ar gyfleoedd plentyn i archwilio a dysgu, neu atal y plentyn rhag cymryd rhan mewn rhyngweithio cymdeithasol arferol. Gall gynnwys gweld neu glywed rhywun arall yn cael ei gam-drin. Gall gynnwys bwlio difrifol (gan gynnwys seiberfwlio), gan beri i blant yn aml deimlo’n ofnus neu mewn perygl, neu gamfanteisio ar blant neu eu gwyrdroi. Mae rhywfaint o gam-drin emosiynol yn gysylltiedig â phob math o gam-drin plant, er y gall ddigwydd ar ei ben ei hun.

 

Cam-drin Rhywiol

Mae cam-drin rhywiol yn cynnwys gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, heb fod o reidrwydd yn cynnwys lefel uchel o drais, p’un ai yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio. Gall y gweithgarwch gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys treiddiol (e.e. treisio neu ryw geneuol) neu weithgarwch heb fod yn dreiddiol fel mastyrbio, cusanu neu rwbio a chyffwrdd y tu allan i ddillad. Gallant gynnwys gweithgarwch digyswllt, fel cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu delweddau rhywiol ar-lein, gwylio gweithgarwch rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol, neu feithrin perthynas amhriodol â phlentyn i’w baratoi ar gyfer cam-drin (gan gynnwys trwy’r rhyngrwyd). Nid gwrywod sy’n oedolion yn unig sy’n cam-drin yn rhywiol. Gall menywod hefyd gyflawni gweithredoedd o gam-drin rhywiol, yn ogystal â phlant eraill.

 

Esgeuluso

Esgeulustod yw methiant cyson i fodloni anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o arwain at niwed difrifol i iechyd neu ddatblygiad y plentyn.

Gall esgeuluso ddigwydd yn ystod beichiogrwydd pan mae mam yn camddefnyddio sylweddau. Ar ôl i blentyn gael ei eni, gall esgeulustod olygu bod rhiant neu ofalwr yn methu â:

  • darparu digon o fwyd, dillad a lloches (gan gynnwys gwahardd o’r cartref neu adael)
  • amddiffyn plentyn rhag niwed neu berygl corfforol ac emosiynol
  • sicrhau digon o oruchwyliaeth (gan gynnwys defnyddio rhoddwyr gofal anaddas)
  • sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol briodol.

 

Gall hefyd gynnwys esgeuluso anghenion emosiynol sylfaenol plentyn, neu fethu ag ymateb iddynt.

 

Atodiad 2 – Materion Diogelu Penodol

Mae’n bwysig bod tîm y prosiect a’r mentoriaid yn ymwybodol o ystod o faterion diogelu allweddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ar hyn o bryd, er mwyn iddynt allu nodi’r rhain a gweithredu ar bryderon.  Dylai fod gan bob ysgol wybodaeth am y rhain yn eu polisïau eu hunain ynghyd â gwybodaeth am sut maent yn ymdrin â materion ac yn eu rheoli fel maent yn codi.  Mae rhywfaint o wybodaeth allweddol wedi’i chynnwys yma i alluogi mentoriaid a’r rhai sy’n dod o dan bolisi Mentora ITM i ddeall y materion hyn.  Os oes gan fentor unrhyw bryderon bod unrhyw un o’r materion isod yn effeithio ar y plant y mae’n gweithio gyda nhw, dylai roi gwybod am y materion hyn i’w DSL ar unwaith.

Mae’r wybodaeth isod yn dod o ystod o ffynonellau, gan gynnwys Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg 2019.

 

Cam-drin rhwng cyfoedion

Mae’r prosiect yn ymwybodol bod plant yn gallu cam-drin plant eraill. Cyfeirir at hyn yn gyffredinol fel cam-drin rhwng cyfoedion a gall fod ar sawl ffurf. Gall hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): bwlio (gan gynnwys seiberfwlio); trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol; cam-drin corfforol fel taro, cicio, ysgwyd, brathu, tynnu gwallt, neu achosi niwed corfforol fel arall; secstio a thrais a defodau derbyn/plagio.

Dylid ymdrin â hyn o ddifrif bob amser ac ni ddylid ei fychanu na’i ystyried fel tynnu coes neu’n rhan o dyfu i fyny.   Mewn achos o gam-drin gan ddisgybl, neu grŵp o ddisgyblion, y dangosyddion allweddol sy’n nodi bod y broblem yn gam-drin (yn hytrach nag enghraifft neilltuol o fwlio) yw:

  • natur a difrifoldeb y digwyddiad(au),

 

  • p’un a gafodd y dioddefwr ei orfodi gan rym corfforol, ofn, neu gan ddisgybl neu grŵp o ddisgyblion sy’n sylweddol hŷn nag ef neu hi, neu a oedd â grym neu awdurdod drosto ef neu hi,

 

  • p’un ai oedd y digwyddiad yn cynnwys gweithred a allai fod yn droseddol, ac a fyddai pe bai’r un digwyddiad (neu anaf) wedi digwydd i aelod o staff neu oedolyn arall, wedi cael ei ystyried yn ymosodiad neu fel arall yn gyfreithadwy.

 

Trais Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol

Mae Trais Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol yn un math penodol o gam-drin rhwng cyfoedion. Os yw mentoriaid yn gweld neu’n nodi digwyddiadau niweidiol ac ymddygiad problemus sy’n cynnwys iaith sy’n cael ei hystyried yn ddirmygus, yn ddiraddiol, yn llidiol, yn homoffobig neu’n gas, dylid rhoi gwybod i’r DSL ar unwaith er mwyn i’r ysgol weithredu.  Dylai hyn gynnwys asesiad o risg ac anghenion y dioddefwr, y tramgwyddwr a phlant eraill a allai fod mewn perygl.  Dylai’r asesiad risg ac anghenion ystyried:

Gall trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol ddigwydd rhwng dau blentyn o unrhyw oedran a rhyw. Gall hefyd ddigwydd trwy grŵp o blant yn ymosod yn rhywiol neu’n aflonyddu’n rhywiol ar un plentyn neu grŵp o blant. Mae’n debygol y bydd y profiad yn peri straen a thrallod i’r plant sy’n dioddef trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol.  Mae trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn bodoli ar gontinwwm a gallant orgyffwrdd, gallant ddigwydd ar-lein ac all-lein (corfforol a llafar) ac nid ydynt byth yn dderbyniol. Mae’n bwysig bod pob dioddefwr yn cael ei gymryd o ddifrif ac yn cael cynnig cefnogaeth briodol. Mae tystiolaeth yn dangos bod merched, plant ag AAAA a phlant LGBT mewn mwy o berygl.

Mae’n ddefnyddiol bod yn ymwybodol o bwysigrwydd:

  • gwneud yn glir nad yw trais rhywiol nac aflonyddu rhywiol yn dderbyniol, na fydd byth yn cael ei oddef ac nad yw’n rhan anochel o dyfu i fyny;
  • peidio â goddef na diystyru trais rhywiol neu aflonyddu rhywiol fel “tynnu coes”, “rhan o dyfu i fyny”, “dim ond hwyl” neu “fechgyn yn bod yn fechgyn”; ac
  • ymddygiadau heriol (a allai fod yn droseddol eu natur), fel gafael pen-ôl, bronnau, ac organau cenhedlu, fflicio bras, a chodi sgertiau. Mae perygl y bydd diystyru neu oddef ymddygiadau o’r fath yn eu normaleiddio.

 

Trais Rhywiol

Mae’n bwysig bod staff ysgolion a cholegau yn ymwybodol o drais rhywiol a’r ffaith y gall plant gam-drin eu cyfoedion fel hyn, a’u bod yn gwneud hynny. Wrth gyfeirio at drais rhywiol rydym yn cyfeirio at droseddau trais rhywiol o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 fel y disgrifir isod:

Trais Rhywiol: Mae person (A) yn cyflawni trosedd o drais rhywiol os: yw’n treiddio gwain, anws neu geg person arall (B) yn fwriadol gyda’i bidyn, ac nad yw B yn cydsynio i’r treiddiad ac nad yw A yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.

Ymosodiad trwy Dreiddio: Mae person (A) yn cyflawni trosedd os yw: ef/hi yn treiddio gwain neu anws person arall (B) yn fwriadol gyda rhan o’i gorff / chorff neu unrhyw beth arall, os yw’r treiddiad yn rhywiol, ac nad yw B yn cydsynio i’r treiddiad ac nad yw A yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.

Ymosodiad Rhywiol: Mae person (A) yn cyflawni trosedd o ymosodiad rhywiol: os yw ef / hi’n cyffwrdd â pherson arall (B) yn fwriadol, bod y cyffwrdd yn rhywiol, nad yw B yn cydsynio i’r cyffwrdd ac nad yw A yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.

 

Cydsyniad

Mae cydsyniad yn ymwneud â’r rhyddid a’r gallu i ddewis. Gellir cydsynio i weithgarwch rhywiol ar gyfer un math o weithgarwch rhywiol ond nid un arall, e.e. cydsynio i ryw gweiniol ond dim rhyw rhefrol neu dreiddio ag amodau, fel gwisgo condom. Gellir tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod gweithgarwch rhywiol a phob tro mae gweithgarwch yn digwydd. Mae rhywun yn cydsynio i dreiddio gweiniol, rhefrol neu’r geg dim ond os yw ef / hi’n cytuno trwy ddewis i’r treiddiad hwnnw a bod ganddo/ganddi’r rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw.

 

Aflonyddu Rhywiol

Wrth gyfeirio at aflonyddu rhywiol rydym yn golygu ‘ymddygiad digroeso o natur rywiol’ a all ddigwydd ar-lein ac all-lein. Pan gyfeiriwn at aflonyddu rhywiol, rydym yn gwneud hynny yng nghyd-destun plentyn yn aflonyddu’n rhywiol ar blentyn. Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o: darfu ar urddas plentyn, a / neu wneud iddo deimlo’n ofnus, yn ddiraddedig neu’n llawn cywilydd a/neu greu amgylchedd gelyniaethus, sarhaus neu rywiol. Ni fwriedir i hon fod yn rhestr gynhwysfawr, ond gall aflonyddu rhywiol gynnwys:

  • sylwadau rhywiol, fel: adrodd straeon rhywiol, gwneud sylwadau anweddus, gwneud sylwadau rhywiol am ddillad ac ymddangosiad a galw enwau rhywiol ar rywun;
  • gwawdio neu “jôcs” rhywiol;
  • ymddygiad corfforol, fel: brwsio yn erbyn rhywun yn fwriadol, ymyrryd â dillad rhywun (dylai ysgolion a cholegau fod yn ystyried pryd mae unrhyw un o’r rhain yn croesi’r llinell i drais rhywiol – mae’n bwysig siarad â’r dioddefwr ac ystyried ei brofiad) a dangos lluniau, ffotograffau neu ddarluniau o natur rywiol; ac
  • aflonyddu rhywiol ar-lein. Gall hyn fod yn unigol, neu’n rhan o batrwm ehangach o aflonyddu rhywiol a / neu drais rhywiol. Gallai hyn gynnwys:
  • rhannu delweddau a fideos rhywiol heb ganiatâd;
  • bwlio rhywiol ar-lein;
  • sylwadau a negeseuon rhywiol digroeso, gan gynnwys, ar gyfryngau cymdeithasol;
  • camfanteisio’n rhywiol; gorfodaeth a bygythiadau; a
  • thynnu llun/fideo o dan ddillad rhywun (up skirting)

 

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Diffinnir Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant fel hyn:

math o gam-drin plant yn rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn cymryd mantais ar anghydbwysedd mewn pŵer i orfodi, twyllo neu ddylanwadu ar blentyn neu unigolyn ifanc o dan 18 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol (a) yn gyfnewid am rywbeth mae’r dioddefwr ei angen neu ei eisiau, a/neu (b) am y fantais ariannol neu statws uwch y cyflawnwr neu’r hwylusydd. Gellid fod wedi camfanteisio’n rhywiol ar y dioddefwr hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y gweithgarwch rhywiol yn gydsyniol. Nid yw camfanteisio’n rhywiol ar blant bob amser yn golygu cyswllt corfforol; gall ddigwydd hefyd drwy ddefnyddio technoleg.

 

Mae camfanteisio ar blant yn fath o gam-drin plant sy’n cynnwys plant a phobl ifanc yn derbyn rhywbeth yn gyfnewid am weithgarwch rhywiol. Fel pob math o gam-drin plant yn rhywiol, mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn:

  • gallu effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc (bachgen neu ferch) o dan 18 oed, gan gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed a all gydsynio’n gyfreithiol i gael rhyw;
  • gallu bod yn gam-drin hyd yn oed os yw’r gweithgarwch rhywiol yn ymddangos yn gydsyniol;
  • gallu cynnwys cyswllt (gweithredoedd treiddiol ac anhreiddiol) a gweithgarwch rhywiol digyffwrdd;
  • gallu digwydd yn bersonol neu drwy dechnoleg, neu gyfuniad o’r ddau;
  • gallu cynnwys dulliau cydymffurfio sy’n seiliedig ar rym a / neu ddenu a gall gynnwys trais neu fygythiadau o drais;
  • gallu digwydd heb yn wybod i’r plentyn neu’r person ifanc ar unwaith (e.e. trwy eraill yn copïo fideos neu ddelweddau y maent wedi’u creu a’u postio ar gyfryngau cymdeithasol);
  • gallu cael eu cyflawni gan unigolion neu grwpiau, gwrywod neu fenywod, a phlant neu oedolion. Gall y cam-drin ddigwydd unwaith yn unig neu fod yn gyfres o ddigwyddiadau dros amser, a gall amrywio o gam-drin drwy fachu ar gyfle, i gam-drin cymhleth, wedi’i drefnu; ac
  • mae rhyw fath o anghydbwysedd pŵer o blaid y rhai sy’n cam-drin yn nodwedd o hyn. Er y gallai oedran fod yr amlycaf, gall yr anghydbwysedd pŵer hwn hefyd fod oherwydd ystod o ffactorau eraill gan gynnwys rhywedd, hunaniaeth rywiol, gallu gwybyddol, cryfder corfforol, statws, a mynediad at adnoddau economaidd neu adnoddau eraill.

Mae dangosyddion allweddol camfanteisio’n rhywiol ar blant yn cynnwys:

  • Mynd ar goll am gyfnod neu ddod adref yn hwyr yn rheolaidd
  • Colli’r ysgol neu addysg yn rheolaidd neu ddim yn cymryd rhan mewn addysg
  • Ymddangos gydag eiddo newydd neu anrhegion heb esboniad
  • Ymwneud â phobl ifanc eraill sy’n gysylltiedig â chamfanteisio
  • Cael cariadon hŷn
  • Cael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
  • Dioddef newid mewn hwyliau neu newidiadau o ran eu lles emosiynol
  • Camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
  • Arddangos ymddygiad rhywiol amhriodol

Nid yw llawer o blant sy’n profi camfanteisio rhywiol yn gweld eu hunain fel dioddefwyr.

 

 

Camfanteisio ar Blant yn Droseddol: Llinellau Cyffuriau

Mae camfanteisio ar blant yn droseddol yn fath o niwed sy’n digwydd dros ardal helaeth, ac mae’n nodweddiadol i weithgaredd troseddol llinellau cyffuriau: mae rhwydweithiau cyffuriau neu gangiau yn meithrin perthynas amhriodol â phlant a phobl ifanc ac yn camfanteisio arnynt i gludo cyffuriau ac arian o ardaloedd trefol i ardaloedd maestrefol a gwledig, marchnadoedd, a threfi glan môr. Un o’r pethau allweddol sy’n helpu i ganfod a yw rhywun o bosibl yn ymwneud â llinellau cyffuriau yw achosion o fynd ar goll, pan fydd y dioddefwr o bosibl wedi’i fasnachu.  Fel mathau eraill o gam-drin a chamfanteisio, mae camfanteisio llinellau cyffuriau yn:

  • gallu effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc (bachgen neu ferch) o dan 18 oed;
  • gallu effeithio ar unrhyw oedolyn bregus dros 18 oed;
  • gallu bod yn gamfanteisio hyd yn oed os yw’r gweithgarwch yn ymddangos yn gydsyniol;
  • gallu cynnwys dulliau cydymffurfio sy’n seiliedig ar rym a / neu ddenu ac yn aml mae’n cynnwys trais neu fygythiadau o drais;
  • gallu cael ei gyflawni gan unigolion neu grwpiau, gwrywod neu fenywod, a phobl ifanc neu oedolion; ac
  • mae rhyw fath o anghydbwysedd pŵer o blaid y rhai sy’n camfanteisio yn nodwedd. Er mai oedran yw’r anghydbwysedd pŵer amlycaf, gall hefyd fod oherwydd ystod o ffactorau eraill gan gynnwys rhywedd, gallu gwybyddol, cryfder corfforol, statws, a mynediad at adnoddau economaidd neu adnoddau eraill.

Os bydd mentor yn credu bod perygl y bydd grŵp neu gang cyffuriau yn camfanteisio ar blentyn yn droseddol, dylai roi gwybod am hynny ar unwaith.

 

Cam-drin Domestig

Diffiniad traws-lywodraethol trais a cham-drin domestig yw: Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth reolgar, orfodol neu fygythiol rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd yn neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu, waeth beth fo’u rhywedd neu rywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • seicolegol;
  • corfforol;
  • rhywiol;
  • ariannol; ac
  • emosiynol

Gall dod i gysylltiad â cham-drin domestig a / neu drais domestig gael effaith emosiynol a seicolegol ddifrifol, hirhoedlog ar blant. Mewn rhai achosion, gall plentyn feio’i hun am y cam-drin neu efallai ei fod wedi gorfod gadael cartref y teulu o ganlyniad i hynny.  Gall cam-drin domestig sy’n effeithio ar bobl ifanc hefyd ddigwydd yn eu perthnasoedd personol, yn ogystal ag yng nghyd-destun eu bywyd cartref.

  

Trais ‘ar sail anrhydedd’ ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)

Mae trais ‘ar sail anrhydedd’, fel y mae’n cael ei alw, yn cwmpasu troseddau a gyflawnwyd i amddiffyn neu warchod anrhydedd teulu, gan gynnwys FGM, priodas dan orfod ac arferion fel gwasgu bronnau’n fflat, ac mae pob un ohonynt yn fath o gam-drin. Mae cam-drin a gyflawnir yng nghyd-destun cadw “anrhydedd” yn aml yn cynnwys rhwydwaith ehangach o bwysau gan deulu neu gymuned a gall gynnwys nifer o dramgwyddwyr. Mae pob math o drais ar sail anrhydedd yn gam-drin (waeth beth yw’r cymhelliant) a dylid ei drin a’i uwchgyfeirio felly.

 

Mae FGM yn cynnwys yr holl weithdrefnau sy’n cynnwys cael gwared ar organau cenhedlu allanol benywod yn rhannol neu’n llwyr neu beri anaf arall i organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol. Mae’r oedran y mae merched yn mynd drwy FGM yn amrywio yn ôl y gymuned; fodd bynnag, credir bod mwyafrif yr achosion o FGM yn digwydd pan fydd merch rhwng 5 ac 8 oed. Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU ac yn cael ei ystyried yn fath o gam-drin plant.

 

Mae yna nifer o ffactorau i fod yn ymwybodol ohonynt a all nodi bod plentyn mewn perygl o FGM neu fod FGM ar fin digwydd neu eisoes wedi digwydd.  Gallai unrhyw ferch a aned i fenyw sydd wedi dioddef FGM; unrhyw ferch sydd â chwaer sydd eisoes wedi dioddef FGM; unrhyw ferch sydd wedi’i thynnu allan o wersi Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd, fod mewn perygl o ganlyniad i’w rhieni yn dymuno nad yw’n dysgu am ei chorff. Efallai y bydd merch yn cael problemau wrinol, mislif neu stumog yn aml; gall fod yn absennol am gyfnodau hir neu dro ar ôl tro o’r ysgol neu’r coleg, neu gall gyfaddef bod ‘gweithdrefn arbennig’ neu achlysur arbennig yn mynd i ddigwydd er mwyn iddi ‘ddod yn fenyw’.

 

Os oes gan fentor reswm i amau bod FGM wedi digwydd neu ar fin digwydd, dylai ofyn am gyngor gan y DSL ar unwaith.

 

Priodas dan Orfod

Mae gorfodi rhywun i briodi yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. Mae priodas dan orfod yn un yr ymrwymir iddi heb gydsyniad llawn a rhydd un neu’r ddau barti a lle defnyddir trais, bygythiadau neu unrhyw fath arall o orfodaeth i beri i berson ymrwymo i briodas. Gall bygythiadau fod yn gorfforol neu’n emosiynol ac yn seicolegol. Gall diffyg cydsyniad llawn a rhydd fod pan nad yw person yn cydsynio neu lle na all gydsynio (os oes ganddo anableddau dysgu, er enghraifft). Serch hynny, mae rhai cymunedau’n defnyddio crefydd a diwylliant fel ffordd i orfodi person i briodi.

 

 

Radicaleiddio

Mae radicaleiddio yn cyfeirio at y broses lle mae person yn dod i gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth, ond nid oes un ffordd benodol i adnabod unigolyn sy’n debygol o fod yn agored i ideoleg eithafol.

Prevent – mae gan bob ysgol ddyletswydd erbyn hyn o dan ddeddf gwrthderfysgaeth a diogelwch 2015 i ‘atal’ pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Gelwir y ddyletswydd hon yn ddyletswydd Prevent ac mae’n crynhoi’r gofynion ar ysgolion i asesu’r risg y bydd plentyn yn cael ei ddenu i derfysgaeth trwy ddangos dealltwriaeth o’r risgiau sy’n effeithio ar blant a sut i adnabod plant o’r fath, hyfforddi staff i allu adnabod plant o’r fath ac i amddiffyn plant rhag dod i gysylltiad â deunydd terfysgol ac eithafol wrth fynd ar y rhyngrwyd. Dylai mentoriaid fod yn effro i unrhyw ddisgybl sy’n cefnogi barn eithafwyr neu’n ymddangos fel ei fod yn defnyddio deunydd eithafol.