Amdanom ni

Mae Mentora ITM yn ysbrydoli twf mewn Ieithoedd Rhyngwladol ledled Cymru ac yn cefnogi amlieithrwydd yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi ieithoedd wrth wraidd eu polisïau addysg ac wedi ariannu’r prosiect yma tan 2025.

Prosiect Cenhadaeth a Gweledigaeth

Dechreuodd Mentora ITM yn 2015 i gefnogi strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy’n astudio ieithoedd yng Nghymru. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, trwy ehangu ein gwasanaethau a mireinio ein cenhadaeth a’n gweledigaeth.

Gan ddefnyddio methodolegau mentora, rydym yn ceisio gwella cymhelliant a gwytnwch ar gyfer dysgu iaith ar lefel TGAU a thu hwnt. Mae ein gwasanaethau a’n hadnoddau yn annog meddylfryd amlieithog, byd-eang sy’n agored i bawb waeth beth fo cefndir economaidd-gymdeithasol y dysgwr na pha mor rhugl yw yn y dosbarth iaith. Anogir ein dysgwyr i fod yn chwilfrydig ac i herio eu safbwyntiau a’u rhagdybiaethau trwy astudio’r byd trwy gyfrwng iaith a diwylliant.

Diben

Annog barn bod cael eich dylanwadu gan eraill yn rhywbeth anochel a hardd, naturiol ac iach, rhywbeth sy’n ychwanegu, nid tynnu.

Nod

Ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr trwy dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa, lles a symudedd sydd ar gael i’r rheini sydd â sgiliau rhyngddiwylliannol.

Canlyniad

Ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr trwy dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa, lles a symudedd sydd ar gael i’r rheini sydd â sgiliau rhyngddiwylliannol.

Diben

Annog barn bod cael eich dylanwadu gan eraill yn rhywbeth anochel a hardd, naturiol ac iach, rhywbeth sy’n ychwanegu, nid tynnu.

Nod

Ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr trwy dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa, lles a symudedd sydd ar gael i’r rheini sydd â sgiliau rhyngddiwylliannol.

Canlyniad

Cenhedlaeth o ddysgwyr gyda meddylfryd byd-eang yn barod i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd.

Ein Gwasanaethau

Mae ein tîm yn darparu tri gwasanaeth allweddol i gefnogi’r nifer sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion a hyrwyddo dyheadau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar edrych ar le’r dysgwr mewn byd lle mae pawb a phopeth yn gysylltiedig â’i gilydd, gan ei annog i werthfawrogi a chroesawu ieithoedd a diwylliannau eraill. Rydym yn defnyddio dull trawsgwricwlaidd ac yn ceisio helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau hanfodol ar draws yr holl ddysgu. Ein nod yw datgelu pŵer cyfathrebu rhyngddiwylliannol i’r dysgwyr fel offeryn gydol oes y gellir ei drosglwyddo i holl ddimensiynau bywyd. Rydym yn grymuso dysgwyr i ystyried eu hunain yn ddinasyddion amlieithog Cymru a’r byd.

Mentora Blwyddyn 8/9

Mae ein gwasanaeth craidd yn cynnwys hyfforddi myfyrwyr prifysgol i fentora dysgwyr 12-14 oed wrth iddynt ddewis eu pynciau TGAU. Cynhelir sesiynau mentora naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein yn dibynnu ar anghenion yr ysgol. Mae mentoriaid yn cynnal chwe sesiwn bob tymor yr hydref a’r gwanwyn gyda grwpiau bach o ddisgyblion yn cael eu mentora er mwyn sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Mae pob sesiwn yn canolbwyntio ar thema wahanol i helpu dysgwyr i weld natur amlddisgyblaethol dysgu iaith. Mae’r themâu yn archwilio pob iaith a diwylliant ar draws y byd yn hytrach na hyrwyddo un iaith yn benodol. Mae hyn yn sicrhau, waeth beth yw proffil iaith neu ruglder dysgwr, fod rhywbeth i’w ysbrydoli a’i ysgogi.

Adnoddau Dysgu

Mae ein hadnoddau yn cefnogi uchelgais y Cwricwlwm i Gymru i bob dysgwr fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Trwy ddefnyddio iaith fel y cyfrwng i archwilio’r byd o’n cwmpas, mae ein hadnoddau’n cefnogi dysgwyr 11-18 oed i ddatblygu’r sgiliau rhyngddiwylliannol sy’n ofynnol i ffynnu yn yr 21ain ganrif. Rydym hefyd yn cefnogi sgiliau llythrennedd a chymhwysedd digidol sy’n gonglfeini pwysig i’r cwricwlwm. Nod ein hadnoddau yw tynnu sylw at natur amlieithog ein cymunedau lleol a byd-eang trwy roi rhyddid i ddysgwyr archwilio’n annibynnol a datblygu cariad gydol oes at ddysgu iaith.

Ymgynghori

Mae cyflwyno ein rhaglen ers 2015 wedi caniatáu i ni ddatblygu a mireinio ein dull o ysbrydoli cariad at ieithoedd. Mae amrywiaeth o sefydliadau wedi ceisio ein harbenigedd, gan gynnwys yr Adran Addysg yn Lloegr, mewn ymdrech i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn dysgu ieithoedd yn Lloegr.

O ystyried y diddordeb hwn, rydym yn datblygu ein darpariaeth ymgynghori, ac mae croeso i sefydliadau sydd â diddordeb yn ein gwasanaethau gysylltu â ni. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: deunyddiau trwyddedu sy’n gysylltiedig â chyflwyno prosiect mentora; ymgynghoriaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau; cyflwyno hyfforddiant neu ddylunio; cyflwyno rhaglenni pwrpasol a’u rhoi ar waith.