Grantiau
Pobl Communications
Ariannwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC
ym Mhrifysgol Caerdydd - Ebrill 2020
Creu hunaniaeth brand effeithiol a chynnal ymchwil i’r farchnad, a fyddai’n cefnogi esblygiad menter gyfathrebu yn seiliedig ar y methodolegau a gynhyrchwyd trwy Fentora ITM. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ailfeddwl am y Biblinell Ieithoedd yn oes Brexit
Ariannwyd gan AHRC: Languages Acts and
Worldmaking – Medi 2019
Ymchwilio i’r ffactorau sy’n effeithio ar y gostyngiad yn y niferoedd sy’n dysgu iaith yn y DU a hyrwyddo modelau partneriaeth newydd ar gyfer hybu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ieithoedd Corfforol: Darlunio Eich Hunan Amlieithog
Ariannwyd gan ESRC – Mehefin 2019
Defnyddio dulliau ymchwil creadigol i archwilio sut mae dysgwyr yn ystyried eu hunain amlieithog ac yn deall yr effaith ehangach y mae’r prosiect wedi’i chael ar gorff a diwylliant yr ysgol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Sbrint Ysgrifennu Ieithoedd Digidol
Ariannwyd gan AHRC: MEITS – Ionawr 2019
Creu amrywiaeth o adnoddau addysgol agored gan ddangos y defnydd beirniadol a chymhwysol o offer a dulliau digidol ar gyfer athrawon, dysgwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau modern. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Dysgu Ieithoedd yn Agor Drysau i Fydoedd Eraill: Mae’r Cof yn Gweithredu drwy Dechnolegau Digidol
Ariannwyd gan AHRC: Languages Acts and Worldmaking – Tachwedd 2018
Deall perthnasedd Digi-Ieithoedd a methodolegau mentora a weithredir yng Nghymru ar gyfer cymunedau ieithoedd ehangach ac, yn anad dim, mewn gwledydd partner Ewropeaidd. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Gwerthuso EffeithiolrwyddE-fentora fel Adnodd Ieithoedd Digidol ar gyfer Dysgu Ieithoedd Tramor yng Nghymru
Ariannwyd gan AHRC: MEITS – Ionawr 2018
Creu amrywiaeth o adnoddau addysgol agored gan ddangos y defnydd beirniadol a chymhwysol o offer a dulliau digidol ar gyfer athrawon, dysgwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau modern. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.