Ôl-16
Rhwng 2020 a 2021, roedd Mentora ITM wedi cynnal digwyddiadau wedi’u teilwra er mwyn rhoi cymorth i ddysgwyr ôl-16 yn ystod y cyfnod clo, ac er mwyn rhoi blas ar astudio ieithoedd yn y brifysgol. Rhedodd y prosiect am dri chylch, gan gynnig 22 wythnos o ddigwyddiadau a dwy ŵyl iaith. Er nad yw’r digwyddiadau yma’n rhedeg bellach, cafodd nifer ohonyn nhw eu recordio ac mae modd dod o hyd iddyn nhw drwy ddilyn y dolenni isod. Mae’r dolenni ar gael yn Saesneg hefyd.