Yn dod yn fuan!
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gyfres o ddeunyddiau i helpu ysgolion i hyrwyddo Ieithoedd Rhyngwladol. Mae hyn yn rhan o’r ymgyrch rydyn ni wedi’i lansio sy’n anelu at ledaenu negeseuon cadarnhaol ac ysbrydoledig am Ieithoedd Rhyngwladol – rydyn ni’n gwybod pam mae ieithoedd mor bwysig, nawr mae’n hen bryd lledaenu’r neges honno’n uchel ac yn glir!
Er mwyn ein helpu i wybod beth yw’r ffordd orau i ni eich cefnogi i wneud hyn yn eich ysgol chi, llenwch yr arolwg cyflym isod. Bydd yn ein helpu i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei greu yn diwallu eich anghenion.
Os oes gennych unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym, cysylltwch â Siân Burkitt BurkittS2@Cardiff.ac.uk
ein Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Ac os nad ydych yn dilyn ein hymgyrch yn barod, cymerwch ran nawr a lleisiwch eich barn!