Taith y Prosiect

Sefydlwyd Mentora ITM yn 2015, ac mae’r prosiect wedi dod yn bell ers hynny trwy sefydlu partneriaethau amrywiol ac arloesi mewn cyd-destunau newydd. Mae taith y prosiect wedi llunio ein dull ac wedi annog ein tîm i ddod o hyd i atebion creadigol i’r problemau yn y sector ieithoedd rhyngwladol.

Prosiect Ôl-16

Rhwng 2020 a 2021, roedd Mentora ITM wedi cynnal digwyddiadau wedi’u teilwra er mwyn rhoi cymorth i ddysgwyr ôl-16 yn ystod y cyfnod clo, ac er mwyn rhoi blas ar astudio ieithoedd yn y brifysgol. Rhedodd y prosiect am dri chylch, gan gynnig 22 wythnos o ddigwyddiadau a dwy ŵyl iaith. Yn ystod yr amser hwn, gwelodd y prosiect dros 700 o achosion o ymgysylltu gan 50 coleg a chweched dosbarth. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Language Horizons

Arweiniodd llwyddiant Mentora ITM at chwaer-brosiect, sef Language Horizons, rhwng 2018 a 2020. Roedd Language Horizons wedi’i anelu at ysgolion yn Lloegr, a chafodd gyllid gan yr Adran Addysg, Lloegr, i fod yn bartner gyda Phrifysgol Sheffield, Prifysgol Sheffield Hallam, Prifysgol Warwick, a Phrifysgol Coventry. Profodd y prosiect lwyddiant ysgubol yn ei ddwy flynedd gyda dros 50% o’r mentoreion yn dewis astudio ieithoedd ar lefel TGAU. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Castilla y León

Rhwng 2018 a 2020, bu Mentora ITM yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth ranbarthol Castilla y León i ddarparu mentora ar-lein ac wyneb yn wyneb â dysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd yn Valladolid, Sbaen. Cefnogodd mentoriaid o Gymru ddysgwyr i ystyried llwybr addysg ddwyieithog, sef Sbaeneg-Saesneg. Roedd y prosiect yn ddull o gydweithio â myfyrwyr a oedd yn ymwneud â modiwl israddedig blwyddyn olaf ar addysgu a dysgu. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mentora Ffiseg

Helpodd methodolegau a dulliau Mentora ITM i sefydlu Mentora Ffiseg yn 2018. . Mae Mentora Ffiseg yn gweithio gyda dysgwyr, 13-16 oed, i godi proffil ffiseg a chynyddu’r nifer sy’n dewis astudio’r pwnc ar lefel Safon Uwch, yn enwedig ymhlith menywod ifanc. Mae llwyddiant Mentora Ffiseg yn dangos pa mor effeithiol oedd dull mentora, yn seiliedig ar gymhelliant ac ysbrydoliaeth yn hytrach na chyrhaeddiad, ar draws gwahanol ddisgyblaethau a grwpiau oedran. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Digi-Ieithoedd

Yn 2017, cychwynnodd Mentora ITM raglen fentora ar-lein i gyrraedd ysgolion a oedd ymhellach i ffwrdd oddi wrth brifysgol bartner. Canfu’r gwerthusiad allanol fod mentora ar-lein yr un mor effeithiol â mentora wyneb yn wyneb. Helpodd y gwaith hwn i sefydlu mentora ar-lein fel un ffordd y gall ysgolion ymgysylltu â’r prosiect, gan sicrhau bod modd cyrraedd pob ysgol yng Nghymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.