Gwobrau
Mae tîm Mentora ITM wedi cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i hyrwyddo amlieithrwydd yng Nghymru a thu hwnt.
Gwobr Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2019
Yn 2019, roedd Prifysgol Caerdydd wedi cydnabod chwe phrosiect yn seiliedig ar yr arloesedd, yr effaith, a’r gwerth ychwanegol a oedd yn deillio o’u gwaith. Enillodd Mentora ITM yn y categori Arloesedd Addysg a chafodd gydnabyddiaeth am y cyfraniad sylweddol a wnaeth yn ystod ei oes. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
“Mae’r cynllun mentora wedi amlygu’r sgiliau, y cyfleoedd
symudedd a’r manteision llesiant sydd ar gael i’r rheini sydd â sgiliau iaith. Mae’n helpu i godi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd modern Addysg Uwch ac ysgolion uwchradd partner.”
Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr, Consortiwm Canolbarth y De

Cwpan Coffa ThrelfordSefydliad Siartredig yr Ieithyddion 2017
Bob blwyddyn dyfernir Cwpan Coffa Threlford CIOL i fenter neu unigolyn am feithrin astudio ieithoedd. Yn 2017, cyflwynwyd Cwpan Coffa Threlford i Fentora ITM ym mhresenoldeb Noddwr Brenhinol CIOL, Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Michael o Gaint. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
“Mae’r prosiect hwn yn cael effaith amlwg ar y nifer sy’n cymryd cyrsiau ieithoedd yn ysgolion Cymru, yn ogystal â bod o fudd i ddatblygiad personol y myfyrwyr dan sylw, a dyma’r union fath o fenter y mae’r wobr yn ceisio ei chydnabod.”
Yr Athro Chris Pountain, Cadeirydd Bwrdd IoLET