Caru Darllen

Mae Prosiect Mentora Caru Darllen yn gynllun peilot sy’n manteisio ar waith llwyddiannus Mentora ITM er mwyn ysbrydoli dysgwyr ysgolion cynradd i weld gwerth darllen, sylweddoli pa mor bwerus yw hi a chael eu hysbrydoli gan hynny.

Trosolwg

Mae Mentora Caru Darllen yn paru myfyrwyr prifysgol sydd â diddordeb mawr mewn darllen a gweithio gyda phobl ifanc, ag ysgolion cynradd lleol i ysbrydoli dysgwyr 9-11 oed i feithrin cariad at ddarllen! Mae mentoriaid Caru Darllen yn gwneud hyn trwy gynnal sesiynau wyneb-yn-wyneb difyr, sy’n dangos sut mae darllen ym fwy na darllen y geiriau yn unig – mae’n ymwneud â chyfathrebu, iaith y corff, creadigrwydd a llawer, llawer mwy.

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Brifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor.

Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn cael ei ariannu tan fis Mawrth 2024 a’i nod yw meithrin cariad dysgwyr at ddarllen yn Saesneg. Gyda thystiolaeth bod y dull yn un llwyddiannus, rydym yn gobeithio ehangu’r cynllun, nid yn unig i weithio gyda mwy o ysgolion, ond hefyd i gynnwys darllen trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd dyfodol y prosiect yn ddibynol ar sicrhau cyllid ychwanegol.

Cenhadaeth a Gweledigaeth

Mae ymchwil yn dangos bod pandemig Covid-19 wedi effeithio ar lefelau llythrennedd dysgwyr. Mae ymchwil hefyd yn dangos, os gallwn ysbrydoli cymhelliant cynhenid ar gyfer darllen, bydd cyrhaeddiad y dysgwyr ar draws sgiliau llythrennedd allweddol, gan gynnwys darllen, yn gwella!

Felly, ein cenhadaeth a’n gweledigaeth yw:

  • meithrin cariad at ddarllen ymhlith dysgwyr
  • archwilio amrywiaeth o ddeunyddiau darllen gwahanol fel ffordd o ddatblygu sgiliau llythrennedd a darllen
  • darganfod sut mae darllen yn ein cysylltu â’r byd o’n cwmpas
  • amlygu sut mae darllen a llythrennedd yn cefnogi gyrfaoedd a lles
  • sicrhau bod cariad at ddarllen yn hygyrch ac yn apelio at bob dysgwr ym mhob cyd-destun
  • archwilio perthnasedd darllen i fywydau a dyheadau ein dysgwyr
  • cynyddu dealltwriaeth a brwdfrydedd dros Addysg Uwch fel un o nifer o lwybrau posib yn y dyfodol

Llinell Amser y Prosiect

Ceisiadau ar gyfer mentoriaid ac ysgolion partner yn cau

Dysgwyr yn cwblhau holiaduron a mentoriaid yn cwblhau gwiriadau DBS

Athrawon yn dewis dysgwyr a fydd yn cael eu mentora ac yn casglu slipiau caniatâd oddi wrth rieni/gwarcheidwaid/gofalwyr

Mentoriaid yn cael eu hyfforddi!

Bydd pob ysgol yn derbyn 2 fentor a fydd yn dod i’w hysgol i redeg y 6 sesiwn mentora

Adborth a chymryd rhan yn y gwerthusiad

Cadwch lygaid am wybodaeth a chyllid pellach!!

Gwnewch gais i fod yn fentor prosiect!

Os hoffech chi danio diddordeb dysgwyr i ddarllen gyda chynllun ‘caru darllen’ yna dewch i ymuno â ni trwy lenwi’r ffurflen gais i ymuno â’r prosiect fel mentor yn Medi 2023. Cofiwch, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru yn un o’n prifysgolion partner (Caerdydd neu Fangor) ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 i gymryd rhan.

Gwneud Cais

Gwnewch gais i fod yn ysgol bartner!

Os hoffech gael mentoriaid i ddod i’ch ysgol gynradd i helpu ysbrydoli’ch dysgwyr, yna dewch i ymuno â ni trwy lenwi’r ffurflen gais i fod yn ysgol bartner. Mae hyn yn ein helpu i ddeall cyd-destun eich ysgol ac yn sicrhau ein bod yn cefnogi ein hysgolion yn y ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon yn ôl gyda chi ynghyd ag unrhyw fewnwelediadau diddorol sy’n codi o’r rhain.

Dim ond lle ar gyfer 10 ysgol sydd gennym ni, felly mae’n hollbwysig eich bod chi’n cwblhau eich cais cyn gynted â phosib!

Gwneud Cais