Cyhoeddiadau

Mae’r prosiect wedi cyhoeddi ar faterion sy’n ymwneud ag addysg ieithoedd a mentora, y Cwricwlwm i Gymru a methodolegau amlieithog. Mae cyhoeddiadau’n amrywio o erthyglau academaidd a phapurau polisi, i ddarnau ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n dangos perthnasedd eang Mentora ITM ar draws meysydd polisi, academaidd a chyhoeddus.

Agor y drws i’r byd yn ystod y cyfnod clo: Darparu Profiadau Amlieithog ac Amlddiwylliannol i Ddysgwyr yng Nghymru Trwy Fentora

Jenkins, L. 2022. Mae’r erthygl hon yn archwilio effeithiau Covid-19 ar ddysgu ieithoedd yng Nghymru. Yn benodol, mae’n ystyried effaith colli amser dysgu, effaith y pandemig ar baratoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a rôl Prosiect Adfer Ieithoedd Ôl-16 Mentora ITM wrth gefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod clo Covid-19 cyntaf.
Gweld

International Languages in Wales 2021

Machin, T. 2022 This report is based on the findings from the learner survey conducted by schools who are participating in MFL Mentoring, a pan-Wales project funded by Welsh Government to increase the number of learners in Wales taking international languages (IL) for GCSE. The survey sought to gather valuable insights into learner attitudes and intentions towards language learning.
Gweld

Moving Online: A post-16 languages recovery project in an era of Covid-19

Beckley, R. Jenkins, L. Kirkby, R. Owen, G. 2021. Mae'r erthygl hon yn ystyried effaith ymyrraeth 12 wythnos a sefydlwyd gan Fentora ITM i gefnogi dysgwyr ôl-16 yn ystod tonnau cyntaf COVID-19.
Gweld

Multilingual Perspectives: Preparing for Language Learning in the New Curriculum for Wales

Gorrara, C. Jenkins, L. Jepson, E. Machin, T. 2020. Mae'r erthygl hon yn ymchwilio i le dysgu iaith yn y Cwricwlwm newydd i Gymru a gwerth ymgorffori dull amlieithog.
Gweld

Critical Pedagogies in Modern Languages – a Tutorial Collection: Preface

Jenkins, L. 2020. Mae'r rhagair hwn yn crynhoi arsylwadau allweddol o diwtorial dau ddiwrnod o dan arweiniad Coleg y Brenin, Llundain, yn archwilio'r croestoriad rhwng Ieithoedd Modern a'r Dyniaethau Digidol.
Gweld

Modern Languages and Mentoring: Lessons from Digital Learning in Wales

Gorrara, C. Jenkins, L. Mosely, N. 2019 Mae’r erthygl hon yn ystyried y rôl y gall mentora, a mentora ar-lein yn benodol, ei chael wrth fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n astudio ieithoedd modern ar lefel TGAU yng Nghymru.
Gweld

Evaluating Student Mentoring as an Intervention to Support Modern Foreign Language Learning in Secondary Schools in Wales

Black, S. Gorrara, C. 2019 Mae'r erthygl hon yn gwerthuso canlyniadau dau gam cyntaf Mentora ITM fel ymyrraeth polisi, ac fel ymyrraeth bersonol a phroffesiynol.
Gweld

Engaging Welsh Modern Language Learners in Secondary Schools: Mentoring as a Proven Practice

Jenkins, L. 2018 Mae'r erthygl hon yn amlinellu'r cyd-destun ar gyfer dysgu iaith yng Nghymru ac yn ystyried effaith dull mentora, ar-lein ac all-lein, fel rhywbeth i gymell dysgwyr ifanc.
Gweld

Modern Foreign Languages: Mentoring for Change

Jenkins, L. 2018 Mae'r erthygl hon yn archwilio rhai o'r manteision allweddol sy'n deillio o Fentora ITM ac yn rhoi cipolwg ar rywfaint o logisteg y prosiect.
Gweld

Speaking from Wales: Building a Modern Languages Community in the Era of Brexit

Gorrara, C. 2018 Mae'r bennod hon yn archwilio amrywiaeth o fentrau sy'n ceisio atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn dysgu iaith yng Nghymru. Mae'n archwilio'n fanwl i Fentora ITM fel enghraifft o hyn.
Gweld

How Mentoring can improve Modern Languages Uptake in Schools

Gorrara, C. 2016 Mae'r erthygl hon yn archwilio'r rhan y gall mentora ei chwarae o ran newid agweddau negyddol tuag at ddysgu iaith, trwy ddarparu modelau rôl ysbrydoledig i ddysgwyr ifanc mewn ysgolion yng Nghymru.
Gweld