Polisi Addysg

Mae addysg yn un o’r pwerau datganoledig yng Nghymru, sy’n golygu mai Senedd Cymru sy’n ei rheoli. Fel prosiect o Gymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg trwy Brifysgol Caerdydd, mae Mentora ITM yn dod o dan gyd-destun polisi Cymru gyfan. Mae’r pwyntiau canlynol yn allweddol i ddeall y cyd-destun y mae’r prosiect yn gweithredu ynddo.

Cwricwlwm i Gymru 2022

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i seilio ar bedwar diben allweddol ac mae’n gosod ieithoedd rhyngwladol ochr yn ochr â’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae themâu amlieithrwydd, rhyngddisgyblaeth, creadigrwydd a dinasyddiaeth fyd-eang yn cyd-fynd ag ethos a dull Mentora ITM ac yn cynnig gobaith am agwedd a thrywydd newydd ar gyfer ieithoedd. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Dyfodol Byd-eang 2015-2022

Mae gan strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru dri amcan craidd gyda’r nod o godi proffil ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru a chynyddu’r nifer sy’n dewis eu hastudio. Mae llai nag 1 o bob 5 dysgwr yn astudio iaith ryngwladol ar lefel TGAU, sy’n nodi bron i 20 mlynedd o ddirywiad cyson. Mae Mentora ITM wedi ymrwymo i weithio gyda Dyfodol Byd-eang i wyrdroi’r duedd hon. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod saith nod i wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru. Nod Mentora ITM yw gweithredu’r nodau hyn yn ein sesiynau mentora a’r adnoddau rydym yn eu creu trwy addysgu dysgwyr am ddinasyddiaeth fyd-eang a phwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cymraeg 2050

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050. Fel gwlad ddwyieithog, mae Cymru yn cynnig cyfle perffaith i drafod pwysigrwydd hunaniaeth, gwleidyddiaeth, a diwylliant o fewn iaith. Nod Mentora ITM yw cefnogi’r strategaeth hon trwy annog dysgwyr i weld eu dwyieithrwydd fel rhan o’u hunaniaeth ac yn sbardun i amlieithrwydd. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Rhaglen Cyfnewid DysguRhyngwladol (ILEP) 2022-2026

Mae’r rhaglen hon, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, yn sicrhau y bydd dysgwyr a staff yng Nghymru yn parhau i elwa o raglenni cyfnewid rhyngwladol, yn debyg i’r rhai a gynigiwyd trwy Erasmus + yn y gorffennol. Mae dwyochredd yn ganolog i’r rhaglen, gan ganolbwyntio ar gyfnewid dysgu i mewn ac allan o Gymru. Mae hwn yn ymrwymiad clir i broffil ac agwedd fyd-eang Cymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.