Telerau ac Amodau
- Cyflwyniad
Mae’r wefan www.mflmentoring.co.uk (y Wefan) yn eiddo i Brifysgol Caerdydd (ni/ein) ac mae’n cael ei gweithredu ganddi.
Trwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r Wefan.
- Pwrpas y Wefan
Bwriad y Wefan yw darparu gwybodaeth am Brosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern (Mentora ITM) a rhannu’r Cynnwys sydd wedi cael ei wneud gan y prosiect ac ar ei gyfer.
Mae’r Cynnwys yn cael ei ddarparu ar ein Gwefan at ddibenion addysgol yn unig ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer cyd-destun dysgu iaith yng Nghymru. Er ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr wybodaeth ar y Wefan yn gyfredol, ni allwn sicrhau bod Cynnwys yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.
- Hawliau Eiddo Deallusol
Mae’r Wefan, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) testun, cynnwys, postiadau, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, ffotograffau, enwau, logos, nodau masnach, a deunydd arall (Cynnwys) yn cael eu diogelu gan hawlfreintiau, cronfeydd data, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.
Ni sy’n dal yr holl hawliau eiddo deallusol ar y Cynnwys rydym yn ei greu. Ni ddylai eraill ddefnyddio’r Cynnwys hwn heb nodi o ble y daeth a heb ein cydnabod ni. Ni ddylid dyblygu nac atgynhyrchu’r Cynnwys yn rhannol nac yn gyfan gwbl heb gael ein caniatâd ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys defnyddio logo Mentora ITM.
- Firysau a Maleiswedd
Nid ydym yn gyfrifol am feirysau a geir drwy ddefnyddio’r Wefan ac nid ydym yn gwarantu nad oes chwilod na feirysau ar y Wefan. Rhaid i chi beidio â chyflwyno feirysau i’n Gwefan.
- Cysylltu â’n Gwefan
Gallwch gysylltu ag unrhyw dudalen ar ein Gwefan, cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
- Hygyrchedd y Wefan
Lle bo’n bosibl, rydym wedi ceisio sicrhau bod y Wefan ar gael i bawb drwy ddilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.1 (WCAG 2.1). Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am hygyrchedd y Wefan, cysylltwch â Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr Prosiect, JenkinsL27@cardiff.ac.uk.
- Dolenni Trydydd Parti
Os yw’r Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, fe’u darperir er gwybodaeth yn unig. Nid yw’r dolenni trydydd parti hyn yn cael eu hadolygu gennym ni ac nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo nac yn ardystio eu cynnwys. Nid oes gennym reolaeth dros eu cynnwys ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.
- Hysbysiad Preifatrwydd
Os byddwch yn cysylltu â ni, bydd eich data yn cael ei gadw yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd.
- Atal neu Dynnu’r Wefan yn ôl
Er bod modd defnyddio ein Gwefan a’i Chynnwys yn rhad ac am ddim, rydym yn cadw’r hawl i atal neu dynnu mynediad i’r Wefan a’i Chynnwys yn ôl heb rybudd ymlaen llaw. Gall hyn fod am resymau gweithredol neu fusnes.
- Anghydfodau Cyfreithiol
Mae’r telerau ac amodau hyn, eu pwnc a’u ffurfiad yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, fel y’u rhoddir ar waith yng Nghymru. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghymru awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r telerau hyn neu sy’n gysylltiedig â hwy.
- Diweddarwyd ddiwethaf
Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r telerau ac amodau bob hyn a hyn, felly argymhellwn eich bod yn adolygu’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 31 Mai 2021.
- Manylion Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y telerau ac amodau hyn, cysylltwch â Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr Prosiect, Jenkinsl27@cardiff.ac.uk.