Afrikaans: Mor gyfoethog ac amrywiol â thirwedd De Affrica

Mae diwylliant Afrikaans mor gyfoethog ac amrywiol â thirwedd De Affrica. Ym 1652, mudodd bobl o’r Iseldiroedd i ran fwyaf deheuol Affrica, gan ymsefydlu yno. Mae’r iaith Afrikaans yn tarddu o’u hiaith nhw.

Doedd yr Iseldireg pur ddim yn gallu gwrthsefyll dylanwad yr ieithoedd lleol eraill yn ogystal ag ieithoedd y caethweision a ddaeth i Capetown. Dyna pam fod yr iaith a’r diwylliant wedi datblygu’n un sydd mor gyfoethog ac amrywiol, gydag agweddau wedi’u benthyca, eu hetifeddu a’u creu o’r Khoisan, a’r caethweision o lefydd fel y Dwyrain Pell, Portiwgal, Indonesia, Madagascar, Mozambique ac Angola.

Y ‘Great Trek’ yw un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes Affrica, sef ymfudiad yr ymsefydlwyr Affricanaidd cynnar. Teithiodd yr ymfudwyr mewn wagen o Benrhyn Gobaith Da i gorneli pellennig De Affrica o 1836 ymlaen. Roedd hon yn gamp aruthrol a oedd yn dangos dygnwch cymunedau mawr wrth iddyn nhw groesi tirweddau garw i greu gwladfa newydd. Gallwch ymweld â Chofeb Voortrekker yn Pretoria i weld cofeb barhaol sydd wedi’i neilltuo i ddiwylliant a hanes y bobl Afrikaner a’r Groot Trek.

Daeth yr iaith yn offeryn gwleidyddol ac ym mis Mehefin 1976, arweiniodd at un o drobwyntiau yn y frwydr yn erbyn apartheid. Bwriwch olwg ar yr arddangosfa barhaol sydd wedi’i neilltuo i’r digwyddiad hwn ar wefan Amgueddfa Apartheid Johannesburg. Mae’n brofiad emosiynol, sy’n dangos sut y gall y pethau hynny sy’n clymu pobl ynghyd, fel iaith, gael eu defnyddio hefyd i wahanu cymunedau.

Heddiw, mae’r gymuned Afrikaans yn gweithio’n galed i sicrhau cymuned gynhwysol, i gofleidio holl wreiddiau ieithyddol yr iaith gynhenid ​​hon yn ogystal ag ymfalchio yn ei rôl yn y gymuned ehangach yn Ne Affrica.

Rysáit

Mae pobl Afrikaan yn ymfalchïo yn eu sgiliau pobi rhagorol, ac mae’n debyg na fyddwch chi’n cael dim byd mwy Afrikaans na koeksister. Yn llythrennol, mae koeksister yn golygu “chwaer glymog”, sy’n ddisgrifiad eithaf cywir. Mae’n ddantaith melys sydd wedi’i ffrio â surop ac mae’n fyrbryd perffaith i fynd gyda’ch paned (neu ar unrhyw adeg mewn gwirionedd!).

SUROP

250ml o ddŵr (1 cwpan)

625ml o siwgr gwyn (2 1/2 cwpan)

12 1/2ml o sudd lemwn (2 ½ llwy de)

5ml o rin fanila (1 llwy de)

TOES

375ml o flawd cacen (1 1/2 cwpan)

22ml o bowdr pobi (4 1/2 llwy de)

1ml o halen (1/4 lwy de)

20g o fenyn neu fargarîn

150ml o laeth neu laeth soia blas fanila (mae defnyddio llaeth soia blas fanila yn rhoi blas ychwanegol, 5/8 cwpan)

750ml o olew canola (3 cwpan)

CYFARWYDDIADAU

Rhowch y dŵr a’r siwgr mewn sosban a’u cynhesu dros wres isel nes i’r cymysgedd ferwi. Cymysgwch yn aml nes bydd y siwgr wedi toddi. Berwch am 7 munud.

Tynnwch y sosban o’r stôf ac ychwanegwch y sudd lemwn a’r rhin fanila. Rhowch y sosban yn yr oergell.

Cymysgwch y blawd, halen a phowdr pobi yn drylwyr mewn powlen gymysgu. Torrwch y menyn neu’r margarîn yn ddarnau bach a’u hychwanegu at y cymysgedd blawd. Ychwanegwch y llaeth. Cymysgwch yn dda nes i’r cynhwysion ffurfio toes.

Rholiwch y toes allan i drwch o tua 5 mm (+ neu – 1/4 modfedd). Torrwch y toes yn stribedi tenau (+ neu – 10mm neu 1/2 modfedd). Cymerwch 3 stribed a thynnwch ben y stribedi at ei gilydd. Plethwch y stribedi i’r hyd rydych chi’n ei ddymuno ac yna tynnwch waelod y 3 stribed at ei gilydd.

Cynheswch yr olew mewn sosban nes ei fod yn weddol boeth. Rhowch tua 3 koeksisters (neu gymaint ag y gallwch chi ffitio) ar y tro yn yr olew a’u ffrio ar y ddwy ochr nes eu bod yn troi lliw euraidd. Ar ôl tynnu’r koeksisters o’r olew, rhowch nhw’n syth yn y surop o’r oergell. Mae’n bwysig cadw’r surop yn oer, felly cofiwch ei roi yn syth nôl yn yr oergell ar ôl ei ddefnyddio.

Tynnwch y koeksisters o’r surop a gadewch i weddillion y surop ddiferu. Rhowch nhw yn yr oergell i oeri cyn eu mwynhau!