Amdanaf fi: Beth

Awdur: Beth Mumford
Cyhoeddwyd: 20 Medi 2021

Ymunais â Mentora ITM fel mentor iaith am y tro cyntaf yn 2019 pan oeddwn fy ail flwyddyn yn astudio BA Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn brofiad gwych ac roeddwn i wedi mwynhau cymaint nes i mi ymgeisio eto i gymryd rhan pan ddychwelais o fy mlwyddyn dramor yn 2021. Er fy mod i yn fy mlwyddyn olaf ar y pryd, fe wnes i hefyd fanteisio ar gyfleoedd ychwanegol, gan gynnwys mentora mewn ysgol ychwanegol a hefyd astudio dwy uned Achrediad Mentora Lefel 4 a ddarparwyd gan y prosiect.

A minnau wedi cwblhau fy nghwrs israddedig, mae fy rôl mentora bellach wedi bod i ben. Serch hynny, dydw i ddim wedi rhoi’r gorau i weithio gyda’r prosiect. Fe ges i gyfle i gwblhau cyfnod o brofiad gwaith â’r prosiect diolch i’r Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru (RWIF) cyn imi hyd yn oed gyflwyno fy asesiadau prifysgol terfynol! Cefais y cyfle i edrych i’r posibilrwydd fasnacheiddio’r prosiect yn ogystal ag ymchwilio i’r llwybrau gorau i wneud hynny. Er mwyn gallu gweithio gyda’r prosiect a’r tîm anhygoel am gyfnod hirach, ymgymerais â chyfrifoldebau ychwanegol fel Gweinyddwraig Prosiect Myfyrwyr, yn cefnogi prosesau’r prosiect ac yn datblygu adnoddau. Gan fy mod i wedi mwynhau’r profiad cymaint, gan gynnwys y cyfrifoldebau amrywiol a niferus oedd gen i yn ystod fy amser yn gweithio ar y prosiect, manteisiais ar y cyfle i ymuno â thîm y prosiect fel Cydlynydd Prosiect Addysg a Mentora.

Fel plentyn, rydw i’n cofio sawl myfyriwr Ffrangeg a Sbaeneg yn cael gwahoddiad i aros gyda ni fel teulu yn ystod gwyliau’r haf a chredaf fod y profiadau yma wedi fy annog i fagu edmygedd cryf o siaradwyr ieithoedd eraill. Astudiais TGAU Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol a chefais fy ysbrydoli hefyd gan fy athro Almaeneg gyda’i ffordd unigryw o addysgu, sef mewn modd cyfannol a oedd yn debyg iawn i sut mae’r prosiect a’r Cwricwlwm i Gymru yn hyrwyddo ieithoedd. Hyd heddiw, rwy’n dal i gofio ei gwersi – treuliodd un wers yn coginio bwyd Almaeneg o ryseitiau wedi’u hysgrifennu’n gyfan gwbl yn Almaeneg! Dymunaf ysbrydoli eraill fel hyn, i ddeall nad yw ieithoedd yn gyfyngedig i’r ystafell ddosbarth nac ychwaith i restrau geirfa, ond yn hytrach eu bod ym mhobman a bod modd eu teilwra’n llwyr i’ch diddordebau a’ch hobïau eich hun.

Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at fanteisio ar bopeth rydw i wedi ei ddysgu yn ystod y cyfnod mentora a fy mhrofiad gwaith er mwyn cefnogi ein hysgolion, dysgwyr a’n mentoriaid yn y flwyddyn ysgol newydd hon. Rydw i’n gobeithio helpu dysgwyr i ddod o hyd i’r gwerth a’r cyfoeth ychwanegol mewn bywyd a ddaw o ddysgu ieithoedd a’u helpu i fwynhau’r broses o ddysgu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ruglder. Mae ieithoedd wedi cael effaith mor gadarnhaol a dwys ar fy mywyd, a gobeithiaf yn fy rôl gyda’r prosiect y gallaf ysbrydoli eraill!

Dilynwch @bethlm2066 ar Twitter.