Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae caws yn cael ei wneud?

Dw i’n hoff iawn o gaws, ac oherwydd hyn, penderfynais ymchwilio i’r cwestiwn hwn trwy ymweld â llaethdy caws Gruyère yn y Swistir.

Gwneir Gruyère (sy’n cael ei ynganu fel groo-yair) yn nhref Gruyères, ac fel y mwyafrif o drefi a phentrefi yn y Swistir, mae’n syfrdanol o bert gyda bryniau gwyrddlas, tonnog, a sŵn clychau buwch yn canu yn y caeau a mynyddoedd cyfagos.

Grue yw’r gair Ffrangeg am garan ac yr aderyn yma yw arwyddlun y dref, sydd i’w weld ar faneri neu fel addurniadau yng ngerddi’r bobl leol.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae Gruyère newydd gael ei enwi’n gaws gorau’r byd am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Caws y Byd, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, Cymru, gan guro bron i 4000 o gawsiau eraill. Pwy arall sy’n dymuno eu bod ar y panel beirniadu ar gyfer hyn?!

Mae Gruyère i’w gael ym mhob archfarchnad yn y DU. Felly, os ydy hyn i gyd yn tynnu dŵr i’ch dannedd, yna does dim rhaid i chi ddod yr holl ffordd i’r Swistir i’w flasu!

Mae’r llaethdy caws hwn, (‘la fromagerie’ yn Ffrangeg a’ die Käserei’ yn Almaeneg), wedi bod yn gwneud caws ers 1115 gyda llaeth wedi’i gynhyrchu o wartheg o fewn radiws o 12 milltir.

Maent yn cynnig taith hunan-dywys gyda chlustffonau sain mewn sawl iaith, mae ganddynt fwyty lle gallwch flasu’r caws fel rhan o lawer o brydau bwyd rhanbarthol a thraddodiadol blasus, ynghyd â siop anrhegion â stoc dda, a dwywaith y dydd gallwch eu gweld yn llenwi’r mowldiau caws sy’n rhan bwysig o’r cynhyrchiad.

Nawr at y rhifau! I wneud olwyn gaws 35kg mae angen 400l o laeth. Mae gan fuwch (une vache’ yn Ffrangeg, eine Kuh ‘yn Almaeneg) bedwar stumog ac mae’n cynhyrchu 25l o laeth y dydd.

Mae llaethdy Gruyère yn cynhyrchu 48 olwyn gaws y dydd ac yn eu hallforio yn fyd-eang.

Mae’r caws (le fromage’ yn Ffrangeg, der Käse’ yn Almaeneg), yn gaws caled wedi’i wneud o laeth buwch, yn union fel caws ‘Cheddar’ Prydeinig, ond mae gan Gruyère arogl a blas mwy nodedig (cneuog a hufennog) diolch i’r porfeydd glaswelltog mae’r gwartheg yn pori ynddynt.

Unwaith eto, fel caws ‘Cheddar’ Prydeinig, mae yna nifer o fathau o Gruyère sydd wedi aeddfedu dros gyfnodau amser gwahanol.

Po hiraf y maent wedi bod yn eistedd ar y silffoedd, y mwyaf dwfn yw’r blas. Yn y siop anrhegion gallwch flasu a phrynu’r cawsiau gwahanol oed sy’n amrywio o bum mis/ysgafn (‘doux’ yn Ffrangeg, ‘mild’ yn Almaeneg), yr holl ffordd hyd at 24 mis/aeddfed iawn (‘vieux’ yn Ffrangeg, ‘rezent’ yn Almaeneg).

Fe ges i gymaint o hwyl y tro cyntaf, fe es i nôl y penwythnos canlynol pan ddaeth ffrind draw i aros gyda fi.

Y tro hwn fe wnes i wrando ar y daith hunan-dywys yn Almaeneg, a phrynais i ragor o gaws gan fy mod eisoes wedi bwyta pob dim o’r penwythnos blaenorol!

Ar ôl ymweld â’r ŵyl alpaidd yn Lenk im Simmental (hanes yn fy mlog blaenorol) a’r llaethdy caws Gruyère, dw i’n teimlo fy mod i’n deall yn iawn pam fod y Swistir mor angerddol am eu gwartheg gan eu bod yn cynhyrchu’r caws gorau yn y byd!

Geiriau allweddol:

  • garan – aderyn o’r enw ‘crane’ yn Saesneg
  • gynhaliwyd – dathlwyd
  • tynnu dŵr i’ch dannedd – gwneud i chi eisiau bwyta
  • hunan-dywys – taith heb rywun yn eich tywys o gwmpas
  • all-forio – anfon rhywbeth i wlad arall i’w werthu
  • nodedig – unigryw
  • porfeydd – glaswelltiroedd
  • aeddfedu – broses sy’n ychwanegi ddyfnder blas i gaws dros amser