Cerdd Iaith a 'Tango'r Tengo' – mae Cerdd Iaith ar gyfer pawb!

Edrychwch ar flogiau 1 a 2 i gael cyflwyniad i adnoddau Cerdd Iaith y British Council. Bydd y blog yma’n trafod rhagor o agweddau ar yr adnodd hwn.

Felly, dewch i ni fwrw golwg ar y gân ‘Tango’r Tengo’ sy’n rhan annatod o’r adnodd Cerdd Iaith. Nod y gân hon yw cyflwyno’r dysgwyr i’r syniad nad yw cyfieithu gair wrth air bob tro’n bosibl.. Er mwyn eu helpu i ddeall y cysyniad yma rydyn ni’n [EL1] annog y dysgwr i wrando’n ofalus ac i roi cynnig ar wahanol felodïau ac ieithoedd ar yr un pryd. Yn draddodiadol, mae’r Tango yn ddawns emosiynol iawn, felly unwaith eto mae’n bwysig i ddysgwyr ddefnyddio eu cyrff cyfan wrth ddawnsio a chreu symudiadau eu hun sy’n llawn mynegiant.

Elfen bwysig arall ar Cerdd Iaith, a’r elfen bwysicaf efallai, yw bod yr athro’n cael cyfle i roi cynnig ar bethau newydd, a throi cefn ar arferion gwersi pob dydd a gwneud rhywbeth hwyl! Wrth gwrs, bydd hyn yn golygu y bydd pethau’n debygol o fynd o’i le, yn enwedig efallai os nad yw’r athro’n ieithydd, ond does dim ots gan mai’r ffordd orau o ddysgu yw trwy wneud camgymeriadau! Wrth ddysgu iaith, rydyn ni’n dysgu ei bod hi’n iawn i wneud camgymeriadau, boed hynny mewn gwersi iaith neu yn ein bywydau bob dydd.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o wledydd ar draws y byd yn defnyddio hwiangerddi i ddiddanu ac i addysgu plant bach am y byd ac fel mae’r Athro Susan Holland yn esbonio yn ei llyfr The Power of Music:

Erbyn hyn mae casgliad o dystiolaeth sylweddol i awgrymu bod ymgysylltu â cherddoriaeth yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu patrymau prosesu canfyddiadol llafar wrth hwyluso arferion codio ac adnabod synau a phatrymau lleferydd.

Nid yw’r syniad o gynnwys gemau, drama a chaneuon mewn gwersi ieithoedd rhyngwladol yn un newydd. Yr hyn sy’n wahanol yw’r ffaith ein bod yn annog athrawon i ddefnyddio priodoleddau iaith, ei chryfder craidd, a’i cherddoroldeb i helpu dysgwyr i archwilio iaith, eu meddyliau, eu dychymyg a’u cyrff.

 

Fel y mae Dr Jessica Mordsley, a werthusodd brosiect peilot Cerdd Iaith, yn nodi yn ei blog, ‘Pam defnyddio rhythm, odl ac ailadrodd yn ystod gwersi iaith?’:

Mae cerddorion yn cyfleu patrymau iaith yn haws na phobl sydd ddim yn gerddorion, a cheir tebygrwydd rhwng y sgiliau sydd eu hangen ar gerddorion ac ar ieithyddion – er enghraifft, y gallu i adnabod a chreu seiniau penodol ac i rannu patrymau sain (h.y. rhannu’r rhain yn unedau llai o sain) a’r angen i ddatblygu cof a chanfyddiad clywedol soffistigedig.

Mae Dr Mordsley hefyd yn nodi:

Mae gan bob iaith lafar ei ‘mydryddiaeth’ ei hun – sef patrymau nodweddiadol o ran pwyslais, goslef a rhythm. Yn wahanol i’r Saesneg, yn y Gymraeg a’r Sbaeneg mae pwyslais gair fel arfer yn disgyn ar y sillaf olaf ond un (er bod hyn yn dibynnu ar le mae’r gair o fewn y frawddeg). Mae rhai ysgolion cynradd wedi bod yn dysgu Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg ar y cyd… (gan ddefnyddio’r adnoddau Cerdd Iaith) mae hyn yn helpu hyfforddi clustiau’r dysgwyr i glywed rhythmau ac alawon nodweddiadol y dair iaith.

Er enghraifft, y cyfan mae ymarfer cyntaf adnodd Cerdd Iaith yn ei wneud yw cyflwyno geiriau unigol yn Saesneg, Sbaeneg, Cymraeg ac Almaeneg. Mae naws a rhythm cerddorol i bob sillaf bob gair ac felly mae eisoes yn uned fechan o gerddoriaeth. Pan fyddwch chi’n ychwanegu gyfres o ddelweddau y mae’r gair yn eu cynrychioli, rydych chi’n apelio at ddychymyg y plentyn, gan ddefnyddio’r gair a’r hyn y gall ei gyfleu. Pan ofynnwch i’r plentyn greu’r gair neu’r llun hwnnw gyda’i gorff, mae’r dysgwr yn cofio’r hyn a ddysgwyd ac yn mynegi ei hun yn gorfforol.

Mae’n hollbwysig cydnabod fod yr adnodd Cerdd Iaith wedi’i gynllunio i rhoi cymorth i athrawon sydd ddim yn arbenigwyr iaith. Yr unig ofyniad ar athrawon yw eu bod nhw un cam o flaen eu dysgwyr, neu hyd yn oed eu bod nhw’n dysgu’r iaith ar yr un pryd â’u disgyblion wrth iddyn nhw weithio trwy’r ymarferion. Serch hynny, mae’n bwysig nodi nad ydym yn honni bod hudlath yn bodoli ar gyfer dysgu iaith. Mae damcaniaeth 10,000 awr Malcolm Gladwell yr un mor driw i ieithoedd â’r rhan fwyaf o bethau eraill ac mae’r daith i fod yn rhugl mewn iaith newydd yn cymryd misoedd, os nad blynyddoedd o waith caled. Fodd bynnag, mae adnodd Cerdd Iaith wedi’i anelu at athrawon cynradd, ac yn ei hanfod mae’n adnodd i annog hwyl a chreadigrwydd wrth ddysgu iaith. Y gobaith yw y bydd yr ymdeimlad o fwynhad wrth ddysgu iaith yn aros gyda’r dysgwyr wrth iddyn nhw bontio i’r ysgol uwchradd, ac y byddan nhw’n deall fod modd i ieithoedd fod yn greadigol ac yn hwyl i’w dysgu.

Felly, beth am roi cynnig arni gyda’ch dysgwyr, a gweld ble mae’r adnodd Cerdd Iaith yn eich arwain chi?

Sylwer: Datblygodd y British Council yr adnodd Cerdd Iaith gyda chydweithwyr o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Yr Athrofa – Addysg i Gymru ac Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), gyda chymorth Cronfa Datblygu Athrawon Sefydliad Paul Hamlyn. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ei ddefnyddio a byddem wrth ein bodd yn glywed eich barn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni trwy e-bost TeamWales@britishcouncil.org ac edrychwch ar wefan Cerdd Iaith yma.