Polisi Amddiffyn a Diogelu Plant 

1. Cwmpas a Nodau 

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r prosiect Mentora ITM, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Fentora Blwyddyn 8/9, Gweithdai Cyfoeth Ieithoedd, a Phrosiect Mentora Caru Darllen.  

Nod y prosiect Mentora ITM yw cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dewis Iaith Ryngwladol ar gyfer TGAU trwy fentora neu gynnal gweithdai i grŵp o ddysgwyr.  

Nod y prosiect Mentora Darllen Caru yw cynnal sesiynau mentora gyda grŵp er mwyn gwella lefelau llythrennedd a meithrin mwy o ddiddordeb mewn darllen ymhlith dysgwyr Cyfnod Allweddol 2.  

Mae tîm y Prosiect Mentora ITM, a’r holl staff sy’n gweithio ar brosiectau cysylltiedig fel y Prosiect Mentora Caru Darllen, yn llwyr ymwybodol o’n cyfrifoldebau i Ddiogelu ac Amddiffyn Plant ac mae’r polisi hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithio i gyflawni ein cyfrifoldebau.  

A ninnau’n dîm y prosiect, mae’r polisi hwn yn amlinellu sut byddwn ni’n gweithio i wneud y canlynol: 

1.1 Sicrhau ein bod yn mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi prosesau diogelu i’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn eu hysgolion trwy weithio’n unol â strwythurau diogelu’r ysgolion unigol fel yr amlinellwyd yn y ddogfen Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2022 ).   

1.2 Sicrhau ein bod yn ystyried ac yn nodi’r risgiau perthnasol a allai godi o ganlyniad i’r prosiect hwn, a chyn belled ag y bo modd, eu hatal rhag digwydd. 

1.3 Parhau i fod yn effro i risgiau posibl sy’n ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant  yn y  prosiect yma 

1.4  Gweithredu’n gyflym os bydd unrhyw faterion diogelu neu amddiffyn plant yn codi o ganlyniad i’r prosiect hwn a gweithio gyda’r ysgol ac awdurdodau statudol perthnasol eraill i’w hasesu a’u rheoli.   

1.5  Bwydo unrhyw ddysgu am ddiogelu o’r prosiect hwn i’r polisi hwn a’i adolygu bob blwyddyn. 

Mae’r polisi hwn yn cydnabod bod yr holl blant a phobl ifanc a gefnogir trwy ein Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (Mentora ITM) ac unrhyw raglenni sy’n gysylltiedig â Mentora ITM fel y Prosiect Mentora Caru Darllen, wedi’u lleoli yn ein hysgolion partner sydd â pholisïau diogelu plant eu hunain. Bydd unrhyw faterion diogelu sy’n codi mewn perthynas â’r bobl ifanc sy’n cael eu mentora yn rhan o’n prosiect ni yn dod o dan bolisi’r ysgolion unigol.. Mae’r polisi hwn yn llwyr gydnabod awdurdod y polisïau sy’n bodoli yn yr holl ysgolion perthnasol a dim ond yn ceisio ategu’r polisïau hynny mewn perthynas ag anghenion y prosiect a’r gefnogaeth benodol rydyn ni’n ei rhoi i’n mentoriaid gwirfoddol.  Bydd yr holl weithdrefnau a ddisgrifir yn y polisi hwn yn cyd-fynd â gweithdrefnau diogelu’r ysgolion sy’n parhau i fod o’r pwys mwyaf.    

 

 

2. Cysylltiadau allweddol a chysylltiadau mewn argyfwng 

 Lucy Jenkins yw’r Arweinydd Diogelu ar gyfer Mentora ITM. Hi hefyd yw Cyfarwyddwr y Prosiect Mentora ITM ac unrhyw brosiectau cysylltiedig (JenkinsL27@cardiff.ac.uk). Mewn achos o absenoldeb neu argyfwng, y Dirprwy Arweinwyr Diogelu ar gyfer y prosiect yw Glesni Owen (OwenGH@cardiff.ac.uk) a Becky Beckley (BeckleyR@cardiff.ac.uk). Yn achos y Prosiect Mentora Caru Darllen, y Swyddog Diogelu yw Alexandra Nita (NitaIA@cardiff.ac.uk).  

Mae gan bob ysgol bolisi diogelu plant a fydd yn nodi enw a manylion cyswllt y Person Diogelu Dynodedig (PDD). Y person hwnnw sy’n gyfrifol am ddiogelu plant yn yr ysgol honno. Bydd y PDD yn penderfynu a oes angen atgyfeirio er mwyn cadw plentyn neu berson ifanc yn ddiogel.  

Os nad yw PDD yr ysgol ar gael pan fydd rhywbeth wedi digwydd, mae pawb sy’n ymwneud â’r prosiect yn ymwybodol fod rhaid ffonio’r heddlu ar unwaith – 999 mewn argyfwng a 101 ar gyfer pob ymholiad arall – os ydyn nhw’n poeni bod plentyn yn cael ei gam-drin neu y gallai ddod i niwed.    

Fe’i gwneir yn glir hefyd i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect fod modd iddyn nhw gysylltu â thîm diogelu plant yr awdurdod lleol i wneud atgyfeiriad yn yr awdurdod lleol maen nhw wedi’i leoli ynddo. 

 

3. Diffiniadau  

Mae’n bwysig bod y rhai sy’n ymwneud â’r prosiect hwn – p’un ai fel aelod o dîm y prosiect neu fel mentor gwirfoddol – yn deall beth yw diogelu a gwahanol fathau o gam-drin plant.   

Mae Diogelu yn cael ei ddiffinio fel a ganlyn: 

  • Amddiffyn plant rhag camdriniaeth a chael eu trin yn wael; 
  • Atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant; 
  • Sicrhau bod yr amgylchiadau mae’r plant yn cael eu magu ynddyn nhw’n cynnig darpariaeth ofal ddiogel ac effeithiol; 
  • Cymryd camau i alluogi pob plentyn i gael y cyfleoedd gorau a’r deilliannau gorau mewn bywyd. 

 

Cam-drin Plant 

Cam-drin yw trin plentyn yn wael. Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn trwy beri niwed, neu drwy fethu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin o fewn eu teuluoedd eu hunain neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol; gan bobl maen nhw’n eu hadnabod neu, yn fwy anaml, gan eraill (e.e. trwy’r rhyngrwyd).  Mae’n bosibl iddyn nhw  gael eu cam-drin gan oedolyn neu oedolion, neu gan blentyn arall neu blant eraill.   

 

Mae Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008) yn diffinio pedwar math o gam-drin.  Mae diffiniadau a disgrifiadau manylach o’r pedwar prif fath o gam-drin ar gael yn Atodiad 1.   

 

  • Emosiynol: Trin plentyn yn wael yn emosiynol yn barhaus, sy’n peri effeithiau andwyol difrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol y plentyn.  

 

  • Esgeulustod: Esgeuluso plentyn yn barhaus neu’n ddifrifol, neu fethu ag amddiffyn plentyn rhag dod i gysylltiad ag unrhyw fath o berygl, gan gynnwys oerni, newyn neu fethiant eithafol i gyflawni agweddau pwysig ar ofal, gan arwain at niwed sylweddol i iechyd neu ddatblygiad y plentyn, gan gynnwys diffyg tyfiant corfforol mewn plant sy’n iau na 2 flwydd oed heb reswm meddygol.  

 

  • Corfforol: Taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno neu sgaldio, boddi, mygu neu beri niwed corfforol mewn ffordd arall i blentyn.  Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio neu’n cymell salwch mewn plentyn y mae’n gofalu amdano.  

 

  • Rhywiol: Gorfodi neu gymell plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, p’un ai yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio, gan gynnwys:  
  • Cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol 
  • Gweithgarwch heb gyswllt, fel cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu deunydd pornograffig neu wylio gweithgarwch rhywiol; neu  
  • Annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol. 

A ninnau’n aelodau o dîm y prosiect, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal y safonau diogelu uchaf a sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r risgiau i’r sawl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.   

4. Diogelu Cyd-destunol  

Yn ogystal â’r uchod, mae Mentora ITM a Mentora Caru Darllen yn cydnabod pwysigrwydd ‘diogelu cyd-destunol’ ac yn deall y gallai plant a phobl ifanc (ac yn enwedig pobl ifanc hŷn) fod mewn perygl, nid yn unig yn eu teuluoedd ond hefyd yng nghyd-destun eu cymunedau a’u grwpiau cyfoedion.  Mae rhagor o wybodaeth am rai pryderon diogelu penodol allweddol y gall plant a phobl ifanc eu profi ynghlwm wrth y polisi hwn yn Atodiad 2.   

 

5. Hyfforddiant, Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth 

Yn rhan o’n hymrwymiad i ddiogelu a chynnal safonau diogelu byddwn yn hyfforddi ein staff a’n mentoriaid yn rheolaidd i sicrhau eu bod nhw’n deall diogelu sylfaenol, yr hyn sy’n ofynnol ganddyn nhw, a sut maen nhw’n gallu rhoi gwybod am bryderon. Bydd yr hyfforddiant diogelu hwn yn cael ei ddarparu i’r holl fentoriaid newydd sy’n cael eu recriwtio (ac aelodau tîm y prosiect) a bydd yn cael ei adnewyddu cyn i bob cylch mentora newydd ddechrau (bob mis Hydref).  Bydd pob mentor yn sefyll prawf byr yn ystod yr hyfforddiant i sicrhau bod prif bwyntiau’r cyflwyniad diogelu wedi’u deall. Fydd unrhyw fentor sy’n methu’r prawf hwn ddim yn cael ei leoli mewn ysgol nes iddo basio’r prawf.   

6. Fetio 

Bydd yn ofynnol i’r mentoriaid sy’n rhan o’r prosiect hwn fod yn destun archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau nad oes unrhyw beth sy’n hysbys amdanynt a fyddai’n awgrymu eu bod yn peri risg i blant.  Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod na fydd gan bob unigolyn a allai beri risg i blant gofnodion troseddol ac mae’n bwysig bod yn wyliadwrus bob amser.   

Yn rhan o broses recriwtio’r prosiect, rhaid i fentoriaid gwblhau dau ddiwrnod llawn o hyfforddiant mentora wyneb yn wyneb. Yn ystod y deuddydd hwn, mae modd codi unrhyw bryderon am agwedd neu ddull mentor, ac os oes unrhyw bryderon am eu haddasrwydd i weithio gyda phlant yn dilyn hyn, fyddan nhw ddim yn cael eu derbyn yn fentor.   

Gall ymddygiad sy’n peri pryder gynnwys bod yn or-gyfarwydd â phlant a methu â deall ffiniau’r rôl, methu ag ymddwyn mewn modd cyfrifol gyda phlant, neu fethu â chymryd y prosiect neu elfennau diogelu’r prosiect o ddifrif.  Darllenwch yr adran isod sy’n amlinellu’r safonau ymddygiad y mae tîm y prosiect yn eu disgwyl.      

 

7. Safonau Ymddygiad  

Mae’r safonau ymddygiad clir rydyn ni’n eu disgwyl gan ein staff a’n mentoriaid yn rhan annatod o’n polisi, fel bod pawb sy’n ymwneud â’r prosiect yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw mewn perthynas â diogelu.   

Mae ein rhaglen fentora yn seiliedig ar yr egwyddor y gall plant a phobl ifanc elwa’n fawr o berthnasoedd cefnogol ag oedolion a all eu harwain a’u helpu nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n annog ein holl fentoriaid i feddwl ac ystyried sut gall eu hymddygiad fod yn agored i brosesau craffu ac rydyn ni’n darparu canllawiau clir iddyn nhw am ymddygiadau a gweithredoedd sydd ddim yn dderbyniol.   

Rydyn ni’n disgwyl i’n staff a’n mentoriaid fod yn esiampl o arfer gorau wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc a pheidio ag ymddwyn yn y ffyrdd canlynol: 

  • Bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu yn erbyn unrhyw blentyn (hyd yn oed mewn ffyrdd ysgafn fel tynnu sylw at wahaniaethau personol neu gorfforol). 
  • Bychanu neu godi cywilydd ar blentyn sy’n ei chael hi’n anodd neu sy’n cael y gwaith yn anodd.   
  • Bwrw, taro neu achosi niwed corfforol i blentyn yn ffordd o ryddhau rhwystredigaeth neu fel dull o ddisgyblu. 
  • Rhyngweithio â phlant mewn ffordd amhriodol, eu canmol am rywbeth neu dynnu sylw atyn nhw neu geisio eu bychanu neu wneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus. 
  • Cael cysylltiad corfforol o unrhyw fath â phlant, hyd yn oed pan fwriedir i hyn fod mewn ffordd annwyl neu ddoniol. 
  • Cael perthynas agos neu rywiol â phlentyn neu ddefnyddio iaith rywiol o’u cwmpas gan gynnwys sylwadau neu sgyrsiau awgrymog.  
  • Cael perthynas â dysgwr y tu allan i’r prosiect. 
  • Ymgysylltu â’r dysgwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, fel WhatsApp, Snapchat, Instagram neu wasanaeth cyfryngau cymdeithasol arall, gwasanaeth negeseuon neu gêm. Derbyn gwahoddiad i fod yn ffrind neu rannu rhifau personol ag unrhyw un o’r plant sy’n cymryd rhan yn y prosiect.   
  • Tynnu lluniau o’r plant neu rannu lluniau ohonoch chi eich hun.   
  • Rhoi anrhegion, breintiau neu wobrau i blentyn er mwyn datblygu perthynas arbennig ag ef. 

Ymgymryd â dyletswyddau mentora o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. 

 

8. Diogelu Ar-lein  

Ar-lein, mae Mentora ITM yn hwyluso mentora rhwng y mentor sy’n rhan o’r prosiect a grŵp bach o ddysgwyr (6-12 o blant o dan amgylchiadau arferol)  yn yr ysgolion lle mae’r mentor yn gweithio.  Mae’r prosiect yn dilyn y gweithdrefnau a nodir yn Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu (Llywodraeth Cymru, 2021)  yn ogystal â’r canllawiau yn y ddogfen Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2022).   

Er bod budd addysgol mawr a chyfleoedd am fynediad cyfartal i’w cael wrth fentora ar-lein, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod hyn yn cyflwyno haen ychwanegol o risg diogelu. Mae’r risg ychwanegol yn deillio o’r ffaith bod y dull yma o fentora yn hwyluso perthynas ar-lein rhwng y mentor a’r dysgwr/dysgwyr, a hynny heb oruchwyliaeth uniongyrchol oedolion eraill yn yr ysgol. Mae hynny’n arwain at rywfaint mwy o gyfle i unigolyn drwg orfodi neu niweidio plentyn pe byddai’n bwriadu gwneud hynny.  

Mae’r prosiect yn defnyddio MS Teams a/neu Google Classroom y mae modd eu cyrchu a’u monitro drwy lwyfan digidol pwrpasol Llywodraeth Cymru, Hwb. Lle bo angen, mae’r prosiect/au yn defnyddio systemau Google/Microsoft 365 yr ysgol unigol ar gyfer unrhyw sesiynau neu weithdai mentora ar-lein neu gyfunol. Cynhelir sesiynau neu weithdai ar MS Teams a/neu Google Classroom drwy Hwb neu ba bynnag ffordd mae’r ysgol/lleoliad ei hun yn gweithredu Google/Microsoft 365. Mae pob mentor yn derbyn cyfrif Hwb a chyfeiriad e-bost i’w defnyddio drwy gydol eu hamser gyda’r prosiect. Pan fydd mentor yn gadael y prosiect, bydd ei gyfrif Hwb yn cael ei ddileu er mwyn lleihau’r risg bod unrhyw ddysgwr sy’n ymgysylltu â’r prosiect yn gallu cysylltu â mentoriaid drwy gyfeiriad e-bost personol neu brifysgol. Mae’n ofynnol i fentoriaid sy’n ymgysylltu ar-lein gyda dysgwyr trwy MS Teams neu Google Classrooms wneud hynny gan ddefnyddio eu cyfrif Hwb yn unig. 

Serch hynny, yn ogystal â’r uchod, mae pob neges yn cael ei recordio ac mae’n bosibl i dîm y prosiect a staff enwebedig o’r ysgol bartner eu gweld ar MS Teams neu Google Classroom trwy Hwb.  Mae’r holl sgyrsiau yn digwydd mewn grŵp ac yn cael eu hadolygu gan dîm y prosiect, felly nid yw unrhyw sgyrsiau yn cael eu cynnal heb oruchwyliaeth staff.  

Dangoswyd bod cyfathrebu ar-lein hefyd yn cael rhyw faint o effaith ar ymddygiad pobl – ac mewn rhai achosion yn gwneud iddyn nhw deimlo’n llai swil. Mae rhai dysgwyr yn teimlo’n anweledig neu eu bod uwchlaw unrhyw gosb am dorri rheolau er enghraifft.  Mae’r prosiect yn cydnabod bod y broses hon yn ychwanegu haen ychwanegol o risg bosibl a bydd yn sicrhau bod mesurau diogelwch ar waith o amgylch y rhyngweithio yma ar-lein er mwyn lleihau unrhyw risg a all codi.   

Mae hyn yn cynnwys y mesurau diogelwch canlynol: 

8.1 Byddwn yn cyfleu’n glir i’n mentoriaid bod y safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddyn nhw sydd wedi’u disgrifio uchod yn adran 7, yn berthnasol ar-lein yn ogystal  â mewn person.  

8.2 Byddwn yn sicrhau bod y rhyngweithio ar-lein rhwng mentoriaid a dysgwyr yn digwydd trwy Hwb, platfform pwrpasol Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio MS Teams a /neu Google Classroom yn unol â ffordd yr ysgolion unigol o weithredu Google/Microsoft 365 heb unrhyw gysylltiadau â’r cyfryngau cymdeithasol ehangach.  

8.3 Byddwn yn sicrhau nad yw’r llwyfan rydyn ni’n ei ddefnyddio yn rhannu manylion ehangach, enwau defnyddwyr, cyfrineiriau nac yn nodi manylion y naill barti na’r llall nac yn cysylltu â gwefannau neu wasanaethau eraill ar y rhyngrwyd. Byddwn yn ailadrodd wrth fentoriaid na ddylen nhw rannu’r manylion hyn na chaniatáu i’r plant a’r bobl ifanc eu rhannu.   

8.4 Bydd y prosiect yn hollol agored am y ffaith y bydd yn recordio’r holl sgwrsio sy’n digwydd ar-lein rhwng y mentoriaid a’u dysgwyr. Bydd tîm y prosiect yn dewis samplau ar hap ac yn adolygu trawsgrifiadau’r rhyngweithio hyn bob wythnos yn ystod y cylch mentora.  

 

9 Ymateb i Bryderon a Risgiau Diogelu 

Fel yr eglurwyd uchod, ymdrinnir â materion diogelu’r prosiect hwn yn unol a fframwaith a gweithdrefnau polisi’r ysgol sydd wedi derbyn cwyn ac yn unol â’r hyn sydd wedi amlinellu yn y ddogfen Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2022).  Serch hynny, mae’n bwysig bod tîm y prosiect yn cael gwybod os bydd unrhyw bryderon yn codi yn yr ysgol a bod modd i’r prosiect weithredu ar unrhyw wybodaeth a ddaw i law yn annibynnol.   

 

9.1 Pryderon a godir gan fentor am ddysgwr  

Cydnabyddir y gall mentor sy’n gweithio ar y prosiect hwn deimlo bod angen iddo weithredu os bydd dysgwr yn datgelu rhywbeth i’w fentor, neu bod gwybodaeth yn dod i law sy’n ymwneud â phlentyn.  Efallai y bydd rhai plant yn dewis datgelu gwybodaeth sensitif i fentor oherwydd efallai eu bod yn teimlo ei fod yn haws siarad â mentor (gan eu bod yn agosach mewn oedran) ac efallai y bydd rhai dysgwyr yn teimlo cysylltiad agosach â’r mentor oherwydd eu bod od wedi gweithio gyda’r mentor mewn grwpiau bach. Mewn rhai rhannau o’r prosiect, er enghraifft wrth gyfathrebu ar-lein, mae’n bosibl y bydd plant yn teimlo ei fod yn haws siarad â mentor oherwydd eu bod wedi cael cyfle i gyfathrebu â’r mentor ar-lein.    

Wrth wrando ar ddatgeliad gan blentyn, mae mentoriaid ac unrhyw un sy’n rhan o’r prosiect yn cael cyfarwyddyd i weithredu fel a ganlyn:  

  • Gwrando’n ofalus ac yn amyneddgar ar yr hyn mae’r plentyn yn ei ddweud a’i gwneud hi’n glir eich bod chi’n cymryd y mater o ddifri. 
  • Sicrhau’r plentyn nad ef sydd ar fai. 
  • Annog y plentyn i siarad a gadael iddo adrodd ei stori yn ei ffordd ei hun. Peidio ag annog na gofyn cwestiynau arweiniol. 
  • Peidio â gofyn i’r plentyn ailadrodd beth mae wedi’i ddweud. 
  • Esbonio pa gamau y mae’n rhaid i chi eu cymryd, ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi ac y byddwch chi’n rhoi gwybod i PDD yr ysgol.  
  • Os ydych yn ymweld â’r ysgol mewn unrhyw gyd-destun wyneb yn wyneb, sicrhau eich bod chi’n codi unrhyw bryder gyda’r athro cyswllt neu PDD yr ysgol cyn gadael safle’r ysgol. 

 

Atgyfeirio at y Person Diogelu Dynodedig (PDD) yn yr ysgol 

Rhaid i fentoriaid ysgrifennu manylion unrhyw ddatgeliad a throsglwyddo’r wybodaeth i’r Person Diogelu Dynodedig yn yr ysgol cyn gynted â phosibl.    

Dylai mentor gyda’r prosiect hwn hefyd sicrhau ei fod yn adrodd ar unrhyw bryderon sydd ganddo am les a diogelwch plentyn i PDD yr ysgol. Efallai na fydd hyn o ganlyniad i rywbeth y mae plentyn wedi’i ddatgelu’n uniongyrchol ond gallai gael ei sbarduno gan bryderon am ymddygiadau neu weithredoedd plentyn y mae’n gweithio gydag ef.  

 

Adrodd o fewn y prosiect  

Dylai’r mentoriaid hefyd gwblhau datganiad byr sy’n cynnwys manylion perthnasol yn unig am y pryder diogelu a’i drosglwyddo i dîm y prosiect. Bydd tîm y prosiect yn defnyddio hwn i sicrhau bod yr athro a’r PDD yn ymdrin â’r mater yn yr ysgol. Dylid rhannu gwybodaeth am achos sensitif am ddiogelu gyda’r sawl sy’n gallu gweithredu yn unig. Ni ddylid rhannu cynnwys yr atgyfeiriadau â’r prosiect.  Serch hynny, mae angen rhoi gwybod i dîm y prosiect os yw’r mentor yn atgyfeirio o fewn ysgol/ion er mwyn i’r tîm allu deall y materion sy’n codi i fentoriaid a rhoi cymorth iddyn nhw yn unol â hynny.   

 

Adrodd am bryderon brys y tu allan i oriau ysgol 

Dylai mentoriaid bob amser roi gwybod am eu pryderon diogelu trwy’r strwythurau sydd yn eu lle yn eu hysgolion lle bo hynny’n bosibl.  

Serch hynny, pe bai mentor (neu aelod o dîm y prosiect) yn cael gwybod bod risg uniongyrchol i blentyn yn bodoli y tu allan i oriau ysgol neu’n ymwybodol fod risg o’r fath yn bodoli, dylid atgyfeirio ei bryderon at yr heddlu lleol ar unwaith (fel yn adran 2 uchod). Dylid rhoi gwybod i’r PDD yr am unrhyw atgyfeiriad i’r gwasanaethau brys cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.    

  

9.2 Pryderon a godwyd am weithredoedd neu ymddygiad mentor  

Honiadau o gam-drin neu weithgarwch troseddol 

Gall pryderon am fentoriaid godi gan y plant sy’n cael eu mentora, athrawon sy’n gysylltiedig â’r prosiect neu gan athrawon eraill yn yr ysgol neu gan gyd-fentoriaid. Dylid delio ag unrhyw honiadau difrifol o gam-drin yn unol â gweithdrefnau’r ysgol. Byddai honiad o gam-drin gan y mentor yn cynnwys: 

  • mentor sydd wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio plentyn, neu a allai fod wedi niweidio plentyn;  
  • mentor sydd wedi o bosibl wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn; neu wedi  
  • mentor sydd wedi ymddwyn tuag at blentyn neu blant mewn ffordd sy’n awgrymu bod y mentor, o bosibl, yn peri risg o niwed i blant. 

Dylid rhoi gwybod am unrhyw un o’r achosion uchod i’r PDD a fydd yn ymgysylltu â Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu Lleol.  Dylai arweinydd y prosiect gael gwybod ar unwaith gan staff yr ysgol a’r mentoriaid eu hunain.  Bydd mentor sy’n dymuno parhau i weithio fel mentor er gwaethaf yr honiad, yn ddarostyngedig i asesiad risg a gomisiynir gan arweinwyr statudol.   

Bydd arweinydd y prosiect yn cyfathrebu â’r mentor tra bydd ymchwiliad yn mynd rhagddo i’r honiad, ac yn gofyn i’r PDD roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am gynnydd unrhyw ymchwiliad. Bydd arweinydd y prosiect hefyd yn gwneud ymdrech i nodi’r cymorth sydd ar gael i’r mentor yn ystod ymchwiliad.   

Dylai arweinydd y prosiect hefyd gysylltu â’r PDD i sicrhau bod ymchwiliad i ymddygiad sy’n nodi bod unigolyn yn risg i blentyn yn cael ei gwblhau a bod deilliant i’r ymchwiliad  (hyd yn oed mewn achosion lle nad oes cyhuddiadau troseddol) ac er gwaethaf y ffaith bod mentor yn gwirfoddoli yn yr ysgol.  Os bydd canfyddiadau’r ymchwiliad yn awgrymu y gallai mentor fod yn risg i blant pe bai’n gweithio gyda nhw yn y dyfodol, bydd arweinydd y prosiect yn sicrhau bod atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r DBS.   

Bydd Lucy Jenkins, Cyfarwyddwr y Prosiect, hefyd yn rhoi gwybod ar unwaith i Swyddog Diogelu Arweiniol y Sefydliad Addysg Uwch perthnasol os gwneir honiad yn erbyn myfyriwr o’i sefydliad. Lle y bo’n briodol, cyfrifoldeb sefydliad swyddogol y myfyriwr (y sefydliad lle mae ef/hi/nhw wedi cofrestru fyfyriwr) yw dilyn camau pellach perthnasol mewn perthynas â’r myfyriwr. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am Arweinwyr Diogelu ar gyfer pob sefydliad ar gael isod:  

Sefydliad  Rôl Diogelu  Teitl  Enw  E-bost 
Prifysgol Aberystwyth   Swyddog Diogelu Arweiniol   Dirprwy Is-ganghellor: Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr   Tim Woods  tww@aber.ac.uk 
  Swyddog Adrodd Dynodedig  Rheolwr Cyfadran: Busnes a Gwyddorau Ffisegol  Dave Smith  dhs@aber.ac.uk 
Prifysgol Bangor   Swyddog Diogelu Dynodedig  Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion  Steve Barnard  s.barnard@bangor.ac.uk 
    Cydlynydd Diogelu, Ymddygiad a Chwynion  Ifan James  ifan.james@bangor.ac.uk 
Prifysgol Caerdydd  Swyddog Diogelu Arweiniol   Cofrestrydd Academaidd  Simon Wright  wrights11@caerdydd.ac.uk 
  Prif Swyddog Diogelu – Myfyrwyr  Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr  Ben Lewis  LewisBM1@caerdydd.ac.uk 
Prifysgol Metropolitan Caerdydd   Swyddog Diogelu  Pennaeth Cydymffurfio   Jayne Storey  JLStorey@cardiffmet.ac.uk 
Prifysgol Rhydychen  Swyddog Diogelu  Cyfarwyddwr Gwasanaethau Lles a Chymorth Myfyrwyr  Amh.  director.swss@admin.ox.ac.uk 
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru   Swyddog Diogelu Arweiniol   Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr  Brian Weir  brian.weir@rwcmd.ac.uk 
  Person Diogelu Dynodedig  Rheolwr Cymorth i Fyfyrwyr  Kate Williams  kate.williams@rwcmd.ac.uk 
Prifysgol Abertawe   Swyddog Diogelu Arweiniol   Pennaeth Diogelu  Cheryl Pierce  c.a.pierce@swansea.ac.uk 
  Person Diogelu Dynodedig  Swyddog Hyfforddi ar gyfer Diogelu ac Atal  Stevie Kingshott  s.l.kingshott@swansea.ac.uk 
Prifysgol De Cymru   Swyddog Diogelu Arweiniol   Ysgrifennydd y Brifysgol a chlerc i’r Llywodraethwyr  William Callaway  William.callaway@southwales.ac.uk 
  Prif Swyddog Diogelu  Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol  Catherine Thomas  Catherine.thomas@southwales.ac.uk 
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant   Prif Swyddog Dynodedig     Catharine Bleasdale  c.bleasdale@uwtsd.ac.uk  
  Swyddog Gweithredol  Darlithydd – Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau   Sioned Saer  s.saer@uwtsd.ac.uk  
Prifysgol Wrecsam   Swyddog Diogelu Dynodedig  Dirprwy Is-ganghellor  Yr Athro Claire Taylor  Claire.taylor@glyndwr.ac.uk  
  Swyddog Diogelu Dynodedig  Rheolwr Cyngor ac Arweiniad i Fyfyrwyr  Sally Lambah  Sally.lambah@glyndwr.ac.uk  

 

 

Pryderon neu gamweddau lefel is o ran safonau ymddygiad disgwyliedig 

Bydd arweinydd diogelu’r prosiect a staff perthnasol yr ysgolion unigol yn delio â phryderon llai difrifol am fentor. Efallai nad yw’r mentor yn cydymffurfio â rhai agweddau o’r safonau ymddygiad disgwyliedig, ond dydy ei ymddygiad ddim yn ddigon difrifol i sbarduno ymchwiliad statudol neu ymchwiliad ffurfiol gan yr ysgol.  

Fel arfer byddai peidio â chydymffurfio â safonau’r cod ymddygiad yn arwain at y mentor yn cael ei ryddhau o’i rôl a’i gyfrifoldebau mentora. Mae’r polisi yma, fodd bynnag, yn  cydnabod y gallai fod amgylchiadau lle mae unigolyn wedi ymddwyn yn annoeth, ond heb unrhyw fwriad gwael, ac efallai ei fod wedi cydnabod ei fod wedi gwneud y peth anghywir ac wedi cymryd camau i unioni ei weithredoedd a cheisio cyngor.   

Yn yr amgylchiadau hyn, ni fyddai unigolyn o’r fath yn cael ei ystyried yn risg i blant.  Pan fydd pryderon llai difrifol fel hyn yn codi am ymddygiad mentor, mae’n fater i arweinydd diogelu’r prosiect ar y cyd â’r ysgol i farnu yn ôl eu disgresiwn. Dylai unrhyw benderfyniad a wneir bwyso a mesur diogelwch a lles y plant yn yr ysgol a dylai gael ei gofnodi’n glir yn ysgrifenedig gan arweinydd diogelu’r prosiect.  

 

10. Cadw cofnodion 

Fydd Prifysgol Caerdydd ddim yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at ddibenion yr ymchwiliad.  

11. Adolygu’r Polisi hwn 

Bydd Cyfarwyddwr y Prosiect yn dilyn trywydd unrhyw faterion neu bryderon diogelu sy’n codi o ganlyniad i ymgysylltiad â phrosiect Mentora ITM neu unrhyw brosiectau cysylltiedig ac yn cyflawni unrhyw gamau angenrheidiol cyn gynted â phosibl a heb unrhyw oedi gormodol.  Ar ôl i bob cylch mentora gael ei gwblhau, bydd Arweinydd y Prosiect hefyd yn sicrhau,  bod tîm y prosiect yn cael cyfle i fyfyrio’n ehangach ar yr hyn sydd i’w ddysgu o unrhyw faterion diogelu a godwyd yn ystod y mentora, gan ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r polisi hwn neu i’r gweithdrefnau a ddisgrifir yn y ddogfen hon.    

Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ar 3 Awst 2023.   

 

Atodiad 1 – Diffiniadau estynedig o’r pedwar prif fath o gam-drin o ganllawiau Lloegr (Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg 2022)                                    

Cam-drin Corfforol 

Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu unrhyw ffordd arall o beri niwed corfforol i blentyn. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio symptomau salwch, neu’n cymell salwch plentyn yn fwriadol. Gall hyn gynnwys elfen ar-lein sy’n hwyluso, bygwth a/neu’n annog cam-drin corfforol.  

 

Cam-drin Emosiynol 

Mae cam-drin emosiynol yn golygu trin plentyn yn wael yn emosiynol yn barhaus nes achosi effeithiau difrifol ac andwyol ar ei ddatblygiad emosiynol. Gall gynnwys rhoi neges i blentyn ei fod yn ddiwerth neu fod neb yn ei garu, ei fod yn annigonol, neu ddim yn cael ei werthfawrogi dim ond i’r graddau y mae’n diwallu anghenion person arall. Gall gynnwys peidio â rhoi cyfleoedd i’r plentyn fynegi ei farn, ei ddistewi’n fwriadol neu ‘wneud hwyl ar ben’ yr hyn mae’n ei ddweud neu’r ffordd mae’n cyfathrebu. Gall gynnwys disgwyliadau amhriodol o ran oedran neu ddatblygiad y plentyn. Gall y rhain gynnwys rhyngweithio sydd y tu hwnt i allu datblygiadol plentyn yn ogystal â goramddiffyn a chyfyngu ar gyfleoedd plentyn i archwilio a dysgu, neu atal y plentyn rhag cymryd rhan mewn rhyngweithio cymdeithasol cyffredin. Gall gynnwys gweld neu glywed rhywun arall yn cael ei gam-drin. Gall gynnwys bwlio difrifol (gan gynnwys seiberfwlio), gan beri i blant yn aml deimlo’n ofnus neu mewn perygl, neu gamfanteisio ar blant neu ddylanwadu arnyn nhw mewn ffordd niwedidiol.  Mae rhywfaint o gam-drin emosiynol yn gysylltiedig â phob math o gam-drin plant, er y gall ddigwydd ar ei ben ei hun.  

 

Cam-drin Rhywiol 

Mae cam-drin rhywiol yn cynnwys gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, heb fod o reidrwydd yn cynnwys lefel uchel o drais, p’un ai yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio. Gall cynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithred dreiddiol (e.e. treisio neu ryw geneuol) neu weithgarwch heb fod yn dreiddiol fel mastyrbio, cusanu neu rwbio a chyffwrdd y tu allan i ddillad. Gall cynnwys gweithgarwch digyswllt, fel cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu delweddau rhywiol ar-lein, gwylio gweithgarwch rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol, neu feithrin perthynas amhriodol â phlentyn i’w baratoi ar gyfer cam-drin (gan gynnwys trwy’r rhyngrwyd). Nid dynion sy’n oedolion yn unig sy’n cam-drin yn rhywiol. Gall menywod hefyd gyflawni gweithredoedd o gam-drin rhywiol, yn ogystal â phlant eraill. 

 

Esgeuluso 

Esgeulustod yw methiant cyson i fodloni anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o arwain at niwed difrifol i iechyd neu ddatblygiad y plentyn. 

Gall esgeuluso ddigwydd yn ystod beichiogrwydd os ydy’r fam yn camddefnyddio sylweddau. Ar ôl i blentyn gael ei eni, gall esgeulustod olygu bod rhiant neu ofalwr yn methu â: 

  • darparu digon o fwyd, dillad a lloches (gan gynnwys anfon o’r cartref neu droi cefn ar y plentyn) 
  • amddiffyn plentyn rhag niwed neu berygl corfforol ac emosiynol 
  • sicrhau digon o oruchwyliaeth (gan gynnwys defnyddio gofalwyr sydd ddim yn addas nac yn ddigonol) 
  • sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol briodol. 

 

Gall hefyd gynnwys esgeuluso neu methu ag ymateb i anghenion emosiynol sylfaenol plentyn. 

 

Atodiad 2 – Materion Diogelu Penodol 

Mae’n bwysig bod tîm y prosiect a’r mentoriaid yn effro i ystod o faterion diogelu allweddol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, er mwyn iddyn nhw allu eu hadnabod a gweithredu ar unrhyw bryderon. Dylai fod gan bob ysgol wybodaeth am y rhain yn eu polisïau eu hunain ynghyd â gwybodaeth am sut maen nhw’n ymdrin â materion ac yn eu rheoli wrth iddyn nhw godi.  Mae rhywfaint o wybodaeth allweddol wedi’i chynnwys yma i alluogi mentoriaid a’r rhai sy’n dod o dan bolisi Mentora ITM i ddeall y materion hyn.  Os ydy mentor yn poeni bod unrhyw un o’r materion isod yn effeithio ar y plant y mae’n gweithio gyda nhw, dylai roi gwybod am y materion hyn i’w PDD ar unwaith.   

Mae’r wybodaeth isod wedi dod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2022) a NSPCC Learning.   

 

Cam-drin rhwng cyfoedion  

Mae’r prosiect yn ymwybodol bod plant yn gallu cam-drin plant eraill. Cyfeirir at hyn yn gyffredinol fel cam-drin rhwng cyfoedion a gall fod ar sawl ffurf. Gall cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): bwlio (gan gynnwys seiberfwlio); trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol; cam-drin corfforol fel taro, cicio, ysgwyd, brathu, tynnu gwallt, neu achosi niwed corfforol fel arall; secstio a thrais a defodau derbyn/plagio. 

Dylid ymdrin â hyn o ddifrif bob amser ac ni ddylid ei fychanu na’i ystyried fel tynnu coes neu’n rhan o dyfu i fyny. Mewn achos o gam-drin gan ddysgwr, neu grŵp o ddysgwyr, y dangosyddion allweddol sy’n nodi bod y broblem yn gam-drin (yn hytrach nag enghraifft unigol o fwlio) yw: 

  • natur a difrifoldeb y digwyddiad(au), 

 

  • p’un a gafodd y dioddefwr ei orfodi gan rym corfforol, ofn, neu gan ddysgwr neu grŵp o ddysgwyr sy’n sylweddol hŷn nag ef neu hi, neu a oedd â grym neu awdurdod drosto ef neu hi, 

 

  • p’un ai oedd y digwyddiad yn cynnwys gweithred a allai fod yn droseddol, ac phe bai’r un digwyddiad (neu anaf) wedi digwydd i aelod o staff neu oedolyn arall, a fyddai wedi cael ei ystyried yn ymosodiad neu’n ddigon difrifol i gymryd camau cyfreithlon. 

 

Trais Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol  

Mae Trais Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol yn un math penodol o gam-drin rhwng cyfoedion. Os yw mentoriaid yn gweld neu’n nodi digwyddiadau niweidiol ac ymddygiad problemus sy’n cynnwys iaith sy’n cael ei hystyried yn ddirmygus, yn ddiraddiol, yn llidiol, yn homoffobig neu’n gas, dylid rhoi gwybod i’r PDD ar unwaith er mwyn i’r ysgol weithredu.  Dylai hyn gynnwys asesiad o risg ac anghenion y dioddefwr, y troseddwr a phlant eraill a allai fod mewn perygl.  

Gall trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol ddigwydd rhwng dau blentyn o unrhyw oedran a rhyw. Gall hefyd ddigwydd trwy grŵp o blant yn ymosod yn rhywiol neu’n aflonyddu’n rhywiol ar un plentyn neu grŵp o blant. Mae’n debygol y bydd y profiad yn peri straen a thrallod i’r plant sy’n dioddef trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol.  Mae trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn bodoli ar gontinwwm a gallant orgyffwrdd, gallant ddigwydd ar-lein ac all-lein (corfforol a llafar) ac nid ydynt byth yn dderbyniol. Mae’n bwysig bod pob dioddefwr yn cael ei gymryd o ddifrif ac yn cael cynnig cymorth priodol. Mae tystiolaeth yn dangos bod merched, plant ag AAAA a phlant LGBTQIA+ yn agored i fwy o berygl.  

Mae’n ddefnyddiol i fod yn effro i bwysigrwydd:  

  • gwneud yn glir nad yw trais rhywiol nac aflonyddu rhywiol yn dderbyniol, na fydd byth yn cael ei oddef ac nad yw’n rhan anochel o dyfu i fyny;  
  • peidio â goddef na diystyru trais rhywiol neu aflonyddu rhywiol yn “tynnu coes”, “rhan o dyfu i fyny”, “dim ond hwyl yw e” neu “dim ond bechgyn yn ymddwyn fel bechgyn yw e”; ac  
  • ymddygiadau heriol (a allai fod yn droseddol eu natur), fel gafael pen-ôl, bronnau, ac organau cenhedlu, fflicio bronglwm, a chodi sgertiau. Mae perygl y bydd diystyru neu oddef ymddygiadau o’r fath yn eu normaleiddio.  

 

Trais Rhywiol  

Mae’n bwysig bod staff ysgolion a cholegau yn ymwybodol o drais rhywiol a’r ffaith bod cam-drin ymysg cyfoedion yn gallu digwydd ac yn digwydd.. Wrth gyfeirio at drais rhywiol rydyn ni’n cyfeirio at droseddau trais rhywiol o dan Ddeddf  Troseddau Rhywiol 2003 fel y disgrifir isod:  

Trais Rhywiol: Mae person (A) yn cyflawni trosedd o drais rhywiol os: yw’n treiddio gwain, anws neu geg person arall (B) yn fwriadol gyda’i bidyn, pan dyw B ddim yn cydsynio i’r treiddiad a dyw A ddim yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.  

Ymosodiad trwy Dreiddio: Mae person (A) yn cyflawni trosedd os yw: ef/hi yn treiddio gwain neu anws person arall (B) yn fwriadol gyda rhan o’i gorff / chorff neu unrhyw beth arall, os yw’r treiddiad yn rhywiol, a dyw B ddim yn cydsynio i’r treiddiad a dyw A ddim yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio. 

Ymosodiad Rhywiol: Mae person (A) yn cyflawni trosedd o ymosodiad rhywiol: os yw ef / hi’n cyffwrdd â pherson arall (B) yn fwriadol, bod y cyffwrdd yn rhywiol, dyw B ddim yn cydsynio i’r cyffwrdd a dyw A ddim yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.  

 

Cydsyniad 

Mae cydsyniad yn ymwneud â’r rhyddid a’r gallu i ddewis. Gellir cydsynio i un math o weithgarwch rhywiol ond nid un arall, e.e. cydsynio i ryw gweiniol ond dim rhyw rhefrol neu dreiddio ag amodau, fel gwisgo condom. Gellir tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod gweithgarwch rhywiol a phob tro mae gweithgarwch yn digwydd. Mae unigolyn dim ond yn cydsynio i dreiddio gweiniol, rhefrol neu’r geg os yw’n cytuno gwneud hynny o ddewis a bod ganddo/ganddi’r rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. 

 

Aflonyddu Rhywiol  

Wrth gyfeirio at aflonyddu rhywiol rydym yn golygu ‘ymddygiad digroeso o natur rywiol’ a all ddigwydd ar-lein ac all-lein. Pan gyfeiriwn at aflonyddu rhywiol, rydyn ni’n gwneud hynny yng nghyd-destun plentyn yn aflonyddu’n rhywiol ar blentyn arall. Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o: darfu ar urddas plentyn, a / neu wneud iddo deimlo’n ofnus, yn ddiraddedig neu’n llawn cywilydd a/neu greu amgylchedd gelyniaethus, sarhaus neu rywiol. Gall aflonyddu rhywiol gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:  

  • sylwadau rhywiol, fel: adrodd straeon rhywiol, gwneud sylwadau anweddus, gwneud sylwadau rhywiol am ddillad ac ymddangosiad a galw enwau rhywiol ar rywun;  
  • gwawdio neu “jôcs” rhywiol;  
  • ymddygiad corfforol, fel: brwsio yn erbyn rhywun yn fwriadol, ymyrryd â dillad rhywun (dylai ysgolion a cholegau fod yn ystyried pryd mae unrhyw un o’r rhain yn croesi’r llinell i drais rhywiol – mae’n bwysig siarad â’r dioddefwr ac ystyried ei brofiad) a dangos lluniau, ffotograffau neu ddarluniau o natur rywiol; ac  
  • aflonyddu rhywiol ar-lein. Gall hyn fod yn ddigwyddiad ynysig sydd ddim yn digwydd eto, neu’n rhan o batrwm ehangach o aflonyddu rhywiol a / neu drais rhywiol.  Gallai gynnwys:  
  • rhannu delweddau a fideos rhywiol heb gydsyniad;  
  • bwlio rhywiol ar-lein;  
  • sylwadau a negeseuon rhywiol digroeso, gan gynnwys, ar gyfryngau cymdeithasol;  
  • camfanteisio’n rhywiol; gorfodaeth a bygythiadau; a  
  • thynnu llun/fideo o dan ddillad rhywun (up skirting) 

 

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant 

Yn y ddogfen Definition of child sexual exploitation  (Llywodraeth EM, 2016) caiff camfanteisio’n rhywiol ar blant ei ddiffinio fel a ganlyn:   

“math o gam-drin plant yn rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn cymryd mantais ar anghydbwysedd mewn pŵer i orfodi, twyllo neu ddylanwadu ar blentyn neu unigolyn ifanc o dan 18 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol (a) yn gyfnewid am rywbeth mae’r dioddefwr ei angen neu ei eisiau, a/neu (b) am y fantais ariannol neu statws uwch y troseddwr neu’r hwylusydd. Gellid fod wedi camfanteisio’n rhywiol ar y dioddefwr hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y gweithgarwch rhywiol yn gydsyniol. Dydy camfanteisio’n rhywiol ar blentyn ddim bob amser yn golygu cyswllt corfforol; gall ddigwydd hefyd drwy ddefnyddio technoleg.” 

 

Mae camfanteisio ar blant yn fath o gam-drin plant sy’n cynnwys plant a phobl ifanc yn cyfnewid gweithgarwch rhywiol am rywbeth arall. Fel pob math o gam-drin plant yn rhywiol, mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn:  

  • gallu effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc (bachgen neu ferch) o dan 18 oed, gan gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed a all gydsynio’n gyfreithiol i gael rhyw;  
  • gallu bod yn gam-drin hyd yn oed os yw’r gweithgarwch rhywiol yn ymddangos yn gydsyniol;  
  • gallu cynnwys cyswllt (gweithredoedd treiddiol ac anhreiddiol) a gweithgarwch rhywiol digyffwrdd;  
  • gallu digwydd mewn person neu drwy dechnoleg, neu gyfuniad o’r ddau;  
  • gallu cynnwys dulliau cydymffurfio sy’n seiliedig ar rym a/neu ddenu a gall gynnwys trais neu fygythiadau o drais;  
  • gallu digwydd heb yn wybod i’r plentyn neu’r person ifanc ar unwaith (e.e. trwy eraill yn copïo fideos neu ddelweddau maen nhw wedi’u creu a’u postio ar gyfryngau cymdeithasol);  
  • gallu cael eu cyflawni gan unigolion neu grwpiau, dynion neu fenywod, a phlant neu oedolion. Gall y cam-drin ddigwydd unwaith yn unig neu fod yn gyfres o ddigwyddiadau dros amser, a gall amrywio o fanteisio ar gyfle i gam-drin sydd ddim wedi’i  gynllunio o flaen llaw, i gam-drin cymhleth a gynlluniwyd; ac  
  • mae rhyw fath o anghydbwysedd pŵer o blaid y rhai sy’n cam-drin yn nodwedd o hyn. Er y gallai oedran fod yr anghydbwysedd pŵer amlycaf, gall hefyd fod oherwydd ystod o ffactorau eraill gan gynnwys rhywedd, hunaniaeth rywiol, gallu gwybyddol, cryfder corfforol, statws, a mynediad at adnoddau economaidd neu adnoddau eraill. 

 

Mae dangosyddion allweddol camfanteisio’n rhywiol ar blant yn cynnwys: 

  • Mynd ar goll am gyfnod neu ddod adref yn hwyr yn rheolaidd 
  • Colli’r ysgol neu addysg yn rheolaidd neu ddim yn cymryd rhan mewn addysg 
  • Ymddangos gydag eiddo newydd neu anrhegion heb esboniad 
  • Ymwneud â phobl ifanc eraill sy’n gysylltiedig â chamfanteisio 
  • Canlyn cariadon sy’n hŷn 
  • Cael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol  
  • Dioddef newid mewn hwyliau neu newidiadau o ran eu lles emosiynol 
  • Camddefnyddio cyffuriau neu alcohol 
  • Arddangos ymddygiad rhywiol amhriodol 

Dyw llawer o blant sy’n profi camfanteisio rhywiol ddim yn gweld eu hunain yn ddioddefwyr.  

Camfanteisio ar Blant yn Droseddol: Llinellau Cyffuriau  

Mae camfanteisio ar blant yn droseddol yn fath o niwed sy’n digwydd dros ardal helaeth, ac mae’n nodweddiadol i weithgaredd troseddol llinellau cyffuriau: mae rhwydweithiau cyffuriau neu gangiau yn meithrin perthynas amhriodol â phlant a phobl ifanc ac yn camfanteisio arnyn nhw i gludo cyffuriau ac arian o ardaloedd trefol i ardaloedd maestrefol a gwledig, marchnadoedd, a threfi glan môr. Un o’r pethau allweddol sy’n helpu i ganfod a yw rhywun o bosibl yn ymwneud â llinellau cyffuriau yw achosion o fynd ar goll, sef y cyfnod pan fydd y dioddefwr o bosibl wedi’i fasnachu.  Fel mathau eraill o gam-drin a chamfanteisio, mae camfanteisio llinellau cyffuriau yn:  

  • gallu effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc (bachgen neu ferch) o dan 18 oed;  
  • gallu effeithio ar unrhyw oedolyn agored i niwed dros 18 oed;  
  • gallu bod yn gamfanteisio hyd yn oed os yw’r gweithgarwch yn ymddangos yn gydsyniol;  
  • gallu cynnwys dulliau cydymffurfio sy’n seiliedig ar rym a / neu ddenu ac yn aml mae’n cynnwys trais neu fygythiadau o drais;  
  • gallu cael ei gyflawni gan unigolion neu grwpiau, dynion neu fenywod, a phobl ifanc neu oedolion; ac  
  • mae rhyw fath o anghydbwysedd pŵer o blaid y rhai sy’n camfanteisio yn nodwedd gyffredin. Er mai oedran yw’r anghydbwysedd pŵer amlycaf, gall hefyd fod oherwydd ystod o ffactorau eraill gan gynnwys rhywedd, gallu gwybyddol, cryfder corfforol, statws, a mynediad at adnoddau economaidd neu adnoddau eraill. 

Os bydd mentor yn credu bod perygl y bydd grŵp neu gang cyffuriau yn camfanteisio ar blentyn yn droseddol, dylai roi gwybod am hynny ar unwaith.   

 

Cam-drin Domestig  

Diffiniad traws-lywodraethol trais a cham-drin domestig yw: Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth reolgar, orfodol neu fygythiol rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd yn neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu, waeth beth fo’u rhywedd neu rywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i gamdriniaeth:  

  • seicolegol;  
  • corfforol;  
  • rhywiol;  
  • ariannol; ac  
  • emosiynol 

Gall dod i gysylltiad â cham-drin domestig a / neu drais domestig gael effaith emosiynol a seicolegol ddifrifol, hirhoedlog ar blant. Mewn rhai achosion, gall plentyn feio’i hun am y cam-drin neu efallai ei fod wedi gorfod gadael cartref y teulu o ganlyniad i hynny. Gall cam-drin domestig sy’n effeithio ar bobl ifanc hefyd ddigwydd yn eu perthnasoedd personol, yn ogystal ag yng nghyd-destun eu bywyd cartref. 

Trais ‘ar sail anrhydedd’ ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) 

Mae’r hyn a elwir yn trais ‘ar sail anrhydedd’, yn cwmpasu troseddau a gyflawnwyd i amddiffyn neu warchod anrhydedd teulu, gan gynnwys FGM, priodas dan orfod ac arferion fel gwasgu bronnau’n fflat. Mae pob un o’r rhain  yn fath o gam-drin. Mae cam-drin a gyflawnir yng nghyd-destun cadw “anrhydedd” yn aml yn cynnwys rhwydwaith ehangach o bwysau gan deulu neu gymuned a gall gynnwys nifer o droseddwyr. Mae pob math o drais ar sail anrhydedd yn gam-drin (waeth beth yw’r cymhelliant) a dylid ei drin a’i uwchgyfeirio felly.  

 

Mae FGM yn cynnwys yr holl weithdrefnau sy’n cynnwys cael gwared ar organau cenhedlu allanol benywod yn rhannol neu’n llwyr neu beri anaf arall i organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol. Mae’r oedran y mae merched yn mynd drwy FGM yn amrywio yn ôl y gymuned; fodd bynnag, credir bod mwyafrif yr achosion o FGM yn digwydd pan fydd merch rhwng 5 ac 8 oed. Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU ac yn cael ei ystyried yn fath o gam-drin plant. 

 

Dylid bod yn effro i nifer o ffactorau sy’n awgrymu bod plentyn mewn perygl o FGM neu fod FGM ar fin digwydd neu eisoes wedi digwydd.  Gallai unrhyw ferch a aned i fenyw sydd wedi dioddef FGM; unrhyw ferch sydd â chwaer sydd eisoes wedi dioddef FGM ac unrhyw ferch sydd wedi’i thynnu allan o wersi Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd, fod mewn perygl oherwydd dyw ei rhieni hi ddim eisiau iddi ddysgu am ei chorff. Efallai y bydd merch yn cael problemau wrinol, mislif neu broblemau gyda’i stumog yn aml; gall fod yn absennol am gyfnodau hir neu dro ar ôl tro o’r ysgol neu’r coleg, neu gall gyfaddef bod ‘gweithdrefn arbennig’ neu achlysur arbennig yn mynd i ddigwydd er mwyn iddi ‘ddod yn fenyw’.  

 

Os oes gan fentor reswm i amau bod FGM wedi digwydd neu ar fin digwydd, dylai ofyn am gyngor gan y PDD ar unwaith.  

 

Priodas dan Orfod 

Mae gorfodi rhywun i briodi yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. Mae priodas dan orfod yn golygu bod un partner neu’r ddau bartner ddim wedi cydsynio i’r briodas neu ddim wedi cael y rhyddid i fynegi ei (d)dymuniad i beidio â phriodi. Mae’r trefniant hefyd yn defnyddio trais, bygythiadau neu unrhyw fath arall o orfodaeth i beri i berson ymrwymo i briodas. Gall bygythiadau fod yn gorfforol neu’n emosiynol ac yn seicolegol. Gall diffyg cydsyniad llawn a diffyg rhyddid i gydsynio olygu bod unigolyn ddim yn cydsynio neu ddim yn gallu cydsynio (os oes gan yr unigolyn hwnnw anableddau dysgu, er enghraifft). Serch hynny, mae rhai cymunedau’n defnyddio crefydd a diwylliant fel ffordd i orfodi person i briodi.  

Radicaleiddio  

Mae radicaleiddio yn cyfeirio at y broses lle mae person yn dod i gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth, fodd bynnag nid oes un ffordd benodol i adnabod unigolyn sy’n debygol o fod yn agored i ideoleg eithafol.  

Prevent – mae gan bob ysgol ddyletswydd erbyn hyn o dan ddeddf gwrthderfysgaeth a diogelwch 2015 i ‘atal’ pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Gelwir y ddyletswydd hon yn ddyletswydd Prevent ac mae’n crynhoi’r gofynion ar ysgolion i asesu’r risg y bydd plentyn yn cael ei ddenu i derfysgaeth trwy ddangos dealltwriaeth o’r risgiau sy’n effeithio ar blant a sut i adnabod plant o’r fath, gan hyfforddi staff i allu adnabod y plant yma ac amddiffyn plant rhag dod i gysylltiad â deunydd terfysgol ac eithafol wrth fynd ar y rhyngrwyd. Dylai mentoriaid fod yn effro i unrhyw ddisgybl sy’n cefnogi barn eithafwyr neu’n ymddangos fel ei fod yn defnyddio deunydd eithafol.