Cwrdd â'n mentor - Samantha!

Amdanaf fi

Hi/Bonjour/Ciao/Shwmae! Samantha ydw i, dw i’n 19 oed ac ar hyn o bryd dw i’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dw i’n dod yn wreiddiol o dref glan môr yng ngogledd Gwlad yr Haf o’r enw Weston-super-Mare, a dw i’n gallu gweld Caerdydd ar draws y dŵr. Mae’n dipyn o gysur pan dw i’n hiraethu am adref a dw i’n mwynhau bod wrth ymyl y môr.

Mae fy ngradd yn golygu fod modd imi gyfuno dau beth dw i wir yn eu mwynhau sef dysgu iaith dw i’n angerddol drosti a phori drwy destunau diddorol dw i ddim wedi’u darllen o’r blaen (dw i wrth fy modd gyda llenyddiaeth ganoloesol!).

Diolch i gyrsiau ‘Ieithoedd i Bawb’ y brifysgol, mae modd imi hefyd fanteisio ar y cyfle i ddysgu Eidaleg fel dechreuwr. Er ei bod hi’n iaith anodd, dw i’n mwynhau dysgu iaith sy’n hollol newydd imi, ac mae dysgu am ddiwylliant nad oes gen i fawr o brofiad ohono (ar wahân i’r bwyd!) yn ddiddorol iawn.

Ffaith ddifyr amdana i yw fy mod i’n DWLU ar gŵn.  Mae gen i gi 12 oed gartref ac roedd fy nheulu wedi achub un arall y llynedd, felly dydyn ni ddim cweit yn siŵr o’i hoed. Yn sicr, mae bod i ffwrdd o fy nghŵn yn un o’r pethau anoddaf am fod yn y brifysgol.

Fy marn i am yr ysgol

Dechreuais i ddysgu Ffrangeg am y tro cyntaf pan ddechreuais i yn fy ysgol uwchradd leol. A dweud y gwir, doedd dim llawer o ddiddordeb gen i yn y pwnc nes i fi ei astudio fel cwrs TGAU. Roedd fy athro TGAU Ffrangeg wedi sbarduno fy niddordeb yn yr iaith, a chefais fy annog a fy nghefnogi yn y gwersi a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Rhoddodd hyn hwb ychwanegol imi weithio’n galetach a mynd ati i ddysgu rhagor yn fy amser fy hun. Yr un athro wnaeth fy annog i ystyried mynd i’r brifysgol ar ôl gadael ysgol uwchradd hefyd.

Ro’n i’n swil ofnadwy yn yr ysgol, ond mae astudio ieithoedd wedi gwella fy hyder a fy wedi fy helpu á phob agwedd o fy mywyd. Hyd yn oed yn y brifysgol, mae ieithoedd wedi rhoi hyder i mi wneud pethau na fyddwn i byth wedi meddwl eu gwneud o’r blaen, fel mynd i *glyweliad ar gyfer dosbarthiadau dawns, a hyd yn oed cyflwyno o flaen fy nosbarth Ffrangeg, a oedd yn *dipyn o gamp i fi!

Ieithoedd a Fi:

Ar hyn o bryd dw i’n gallu siarad Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg ond dw i’n awyddus i ddysgu ieithoedd eraill yn y dyfodol pan fyddai’n cael y cyfle! Pe bai modd imi ddewis siarad unrhyw iaith arall, byddwn i’n dewis siarad Cymraeg gan fod fy mam a’i theulu yn dod o Gastell Nedd yn wreiddiol. Pan symudodd fy mam i Loegr, doedd neb yn gallu siarad yr iaith yn anffodus, felly diflannodd yr iaith o fy nheulu agos, sy’n drist iawn. Hoffwn i ddysgu mwy o Gymraeg a chael cyfle i ailgysylltu â fy ngwreiddiau ieithyddol – mae Cymraeg yn iaith sy’n wahanol iawn i bob iaith arall dw i wedi’i hastudio hyd yn hyn.

Dw i’n meddwl mai dawnsio wnaeth fy nghyflwyno i ieithoedd am y tro cyntaf. Dw i wedi bod yn dawnsio ballet ers pan o’n i tua 2 oed a dw i’n meddwl bod dysgu Ffrangeg, sef iaith y ddawns ballet, wedi fy helpu i ddatblygu fel dawnswraig.

Hyd yn oed nawr, a minnau’n aelod o dîm ballet uwch Caerdydd, mae Ffrangeg yn fy helpu ym mhob gwers – mae’r iaith yn fy helpu os nad ydw i’n gallu cofio’r symudiad cywir (sy’n digwydd cryn dipyn!).

Mae astudio Ffrangeg hefyd wedi fy ngalluogi i ymuno â thîm pêl-rwyd ieithoedd modern y brifysgol, sydd wedi bod yn wych ar gyfer cadw’n heini ac mae’r merched eraill wedi bod mor gefnogol a chadarnhaol.

Ro’n i wir yn edrych ymlaen at ddod i’r brifysgol a chael y cyfle i astudio Eidaleg yn ogystal â fy ngradd. Dw i ddim erioed wedi bod i’r Eidal, ond dw i wrth fy modd â’r bwyd ac yn meddwl bod yr iaith yn swnio mor ddiddorol. Dyma fi’n achub ar y cyfle yn syth felly i gofrestru am wersi Eidaleg ar gyfer dechreuwyr trwy’r rhaglen Ieithoedd i Bawb. Dw i ‘di cwblhau 3 uned erbyn hyn a dw i dal wrth fy modd yn dysgu’r iaith!

Fy Mywyd fel Myfyrwraig: 

Ro’n i’n nerfus am fynd i’r brifysgol. Do’n i erioed wedi symud tŷ o’r blaen, a fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i astudio safon uwch heb sôn am radd baglor!  Felly do’n i wir ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Ond ers dod i’r brifysgol, mae rhaid dweud fy mod i wedi cael amser gorau fy mywyd. Mae wedi bod yn wych symud allan o fy nghartref teuluol a bod yn annibynnol, a dw i ‘di gwneud ffrindiau o *bob cwr o’r byd, nid dim ond y DU.

Dw i wrth fy modd yn astudio fy ngradd, er ro’n i’n poeni ar y cychwyn a fyddwn i’n ei mwynhau ai peidio oherwydd roedd ‘na ambell *fodiwl ro’n i’n ansicr ynglŷn â’i ddewis, ond diolch byth dw i wedi mwynhau pob un, er mai Llenyddiaeth Ganoloesol yw fy hoff fodiwl hyd yma.

Mae ochr gymdeithasol y brifysgol hefyd wedi bod yn anhygoel! Mae nosweithiau’r clwb gwisg ffansi wedi bod llawn hwyl a sbri – hyd yma dw i wedi gwisgo fel pinafal ac aelod o Abba yn ogystal â chystadlu i ennill gwobr am y crys mwyaf hyll ar noson allan!

Yn wreiddiol, roeddwn i wedi dewis astudio Ffrangeg a Saesneg oherwydd dw i wir yn mwynhau’r ddau bwnc yma, ac er eu bod nhw’n anodd ar brydiau, dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd a llenyddiaeth. Yn ogystal â hynny, wrth i mi ymgeisio i wahanol brifysgolion, roedd y syniad o dreulio amser y tu allan i’r DU ar flwyddyn dramor wir wedi dechrau apelio’n fawr. Dw i mor gyffrous am fy mlwyddyn dramor ac mae gen i gymaint o opsiynau i ddewis ohonyn nhw!

Dw i wir yn gobeithio y bydd modd imi ddefnyddio fy sgiliau iaith i deithio a gweithio tramor yn y dyfodol. Dyna fy nod yn y pen draw!

*tipyn o gamp – y teimlad o gyflawni rhywbeth

*clyweliad – lle rydych yn perfformio rhywbeth ymarferol (dawns, cân ac ati) i ennill eich lle mewn grŵp

*bob cwr o’r byd – bob rhan o’r byd

*modiwlau – dosbarthiadau rydych chi’n eu dewis yn y brifysgol