Helo! Fy enw i yw Greta (hi), myfyriwr ail flwyddyn yn astudio Almaeneg ac Ieithyddiaeth yn Rhydychen, a dwi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol.

Yn aml, dyw pobl ddim yn sicr beth yn union ma’ Ieithyddiaeth yn golygu. Mae e’n wyddoniaeth, sy’n ffocysu ar sut ma’ ieithoedd yn gweithio. Mae’n cynnwys sut mae sain yn cael ei gynhyrchu a sut mae’n teithio, sut mae iaith yn gweithio yn yr ymennydd (cynhyrchu a phrosesu), strwythurau gramadegol gwahanol ieithoedd (geiriau a brawddegau) a llawer mwy! Dwi’n dwlu arno fe achos mae’n rhoi’r cyfle i astudio ieithoedd o *safbwynt gwyddonol, sydd mor wahanol i sut mae pobl yn aml yn meddwl am ieithoedd, h.y. o safbwynt *dynoliaeth.

Nôl yn yr ysgol, ro’n i wastad yn gweld astudio ieithoedd o fewn stafell ddosbarth, gyda rhestrau o eiriau ar bapur neu ar sgrin, yn eitha diflas i fod yn onest. Dwi’n meddwl bod hi’n drueni mawr fod rhywbeth mor gyffrous â dysgu iaith a diwylliant newydd yn gallu cael ei gyfyngu i restrau ar bapur! Mae’n gallu bod cymaint mwy cyffrous na hyn, a dwi’n gwybod bod cymaint o wahaniaeth agwedd tuag at ieithoedd yn gallu dibynnu ar yr athro, ac ar ddulliau* dysgu’r athro. Nes i weld ochr arall at ieithoedd wrth ddechrau dysgu tipyn bach o Almaeneg yn *annibynnol. Ro’n i’n mynd i fynd draw i’r Almaen yn yr haf, i gwrdd â fy nghefndryd am y tro cyntaf, ac felly nes i benderfynu dysgu tipyn bach o Almaeneg er mwyn gallu siarad gyda nhw trwy gyfrwng eu mamiaith*.

Dechreuodd fy nhaith ar fy mhenblwydd, pan ges i ddisg dysgu Almaeneg (ap Rocket Languages). Am 20 munud bob bore wrth i fi baratoi i fynd i’r ysgol, yn lle gwrando ar gerddoriaeth, nes i wrando ar y ‘gwersi’ ar yr app. Nes i ddysgu sut mae cael sgyrsiau syml, realistig, defnyddiol, ac roedd e’n gymaint mwy naturiol i ddysgu trwy wrando a siarad yn lle darllen ac ysgrifennu. Ro’n i’n gwrando weithiau ar y bws ac wrth gerdded- rhaid bo fi di edrych bach yn od yn siarad yn uchel o fy hun yn dweud pethau fel ‘Können Sie mir ein Restaurant in der Nähe empfehlen?’ (Gallech chi awgrymu bwyty cyfagos i mi?)! Roedd e’n gymaint o hwyl dysgu yn y ffordd ryngweithiol* ac ysgafn yma, a nath e wir olygu fy mod i wedi dysgu’n gyflym. Rwy’n argymell* hwn yn fawr, wedi’r cyfan, ffurf lafar yw iaith naturiol. Roedd fy nghefndryd yn dwlu fy mod i wedi gwneud ymdrech, a ro’n ni gyd yn chwerthin wrth wrando ar rhai o’r gwersi doniol gyda’n gilydd. Y ffefryn oedd y wers gyda’r teitl ‘die Verlobung’ (y dyweddiad*)…

Swn i byth wedi disgwyl fy mod i nawr yn astudio Almaeneg yn y brifysgol, ond wnaeth fy nhaith dysgu ieithoedd byth ddod i ben. Roedd gallu siarad gyda fy nheulu trwy gyfrwng yr Almaeneg mor gyffrous, a hyd yn oed gallu archebu Strudel* mewn caffi yn fuddugoliaeth bach hefyd!

Nes i fwynhau dysgu Almaeneg gymaint, fy mod i wedi sylweddoli bod diddordeb gena i ddim dim ond yn yr iaith a diwylliant penodol yma, ond hefyd mewn sut mae iaith fel cysyniad ehangach yn gweithio. Dyma sut ddechreuodd fy niddordeb yn ieithyddiaeth. Dyw e ddim yn ffocysu ar unrhyw un iaith benodol, ond ieithoedd ar y cyfan. Wrth gwrs dyw hwn ddim yn rhywbeth sy’n cael ei gynnig yn yr ysgol, felly roedd rhaid i mi edrych mewn iddo fe cyn dechre fe yn y brifysgol. Dwi’n cofio rho’n i ddim cweit yn deall sut fydd e’n gweithio- sut mae modd astudio pob iaith yn y byd ar unwaith? Y peth anhygoel dwi wedi dysgu ers hyn yw bod ieithoedd dynol i gyd yn hynod o debyg.

Roedd hwn yn ffaith annisgwyl iawn i mi- dwi’n cofio wastad clywed sut mae ieithoedd, a diwylliant, yn wahanol ac amrywiol ar draws y byd. Ond y gwir yw bod llawer mwy yn gyffredin gan holl ieithoedd a diwylliannau’r byd na beth sy’n wahanol. Yn nhermau sain, dim ond hyn a hyn o seiniau posibl mae’r geg yn gallu cynhyrchu, ac maen nhw’n cael eu cynhyrchu’r un ffordd o amgylch y byd. Mae hyd yn oed strwythurau gramadegol yn dilyn rheolau penodol, wrth fod yn hierarchaidd*. Wrth deithio ar draws y byd, rydym ni’n aml yn dod ar draws arferion diwylliant* sydd ddim yn wahanol yn sylfaenol i’n rhai ni; cerddoriaeth, perfformiad, straeon, cerddi, coginio a bwyd, dathliadau cariad, adrodd hanes a llawer mwy. Er bod yr arferion penodol yn amrywio, mae’r cysyniadau sylfaenol yn debyg iawn. Mae cael hunaniaeth a diwylliant cyfoethog yn beth dynol, sy’n perthyn i ni gyd. I mi, mae’n hynod gyffrous i ddysgu mwy o ieithoedd wrth wneud cysylltiadau a chydnabod y tebygrwydd rhyngddynt. Mae’r modd i wneud cysylltiadau rhwng bywydau sy’n ymddangos, ar y cychwyn, i fod mor wahanol i’n rhai ni, ar ochr arall y byd, yn beth hollol anhygoel!

Dyma lun o daith i Siapan, pan nes i allu profi diwylliant newydd a dod i nabod ffrindiau oes.

Mae dysgu am ieithoedd wedi trawsnewid y ffordd dwi’n gweld y byd o’m cwmpas, a’r ffordd dwi’n meddwl; dyw e bendant ddim yn rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i ystafell ddosbarth neu i draethawd. Mae wedi golygu fy mod i’n gallu ehangu fy meddwl i ddeall gwahanol strwythurau a chysyniadau, diwylliannau a safbwyntiau. Mae’n daith barhaus, gan fod wastad mwy i’w ddysgu, am Almaeneg, am ieithoedd eraill dwi’n dysgu fel Japaneg a Groeg Hynafol, hyd yn oed am fy mamiaith, y Gymraeg! Dyma lun o daith i Siapan, pan nes i allu profi diwylliant newydd a dod i nabod ffrindiau oes. Taith gyffrous a lliwgar yw dysgu iaith (sydd weithia’n daith lythrennol), sydd wedi agor nid yn unig y ffordd dwi’n meddwl, ond hefyd drysau i fy nyfodol.

Dwi wedi blino o’r cysyniad rhwystredig bod iaith dim ond yn arwain at swydd fel athro neu fel cyfieithydd. Er bod y rhain yn yrfaoedd gwych i’w cael, mae’n hollol anghywir mai dyma’r unig yrfaoedd sy’n dilyn astudiaeth o ieithoedd- mae pob math o gyfleoedd eang ac amrywiol i’w cael. Mae ieithoedd yn ganolog ac yn berthnasol i wleidyddiaeth, busnes, iechyd, technoleg, y gyfraith, athroniaeth, newid hinsawdd a llawer mwy. Yn y dyfodol, dwi’n edrych ymlaen at weithio ar ymchwil ieithyddol yn natblygiad AI. Mae hwn yn faes enfawr sy’n tyfu, ac mae iaith yn chwarae rôl fawr ynddi. Y rheswm dros yr holl amrywiaeth eang yma o beth sy’n bosibl gwneud gydag ieithoedd yw oherwydd bod ieithoedd yn cwmpasu popeth sy’n ein gwneud ni’n ddynol; ein ffordd o feddwl a chyfathrebu, a’n hunaniaeth. Mae dysgu am hyn yn daith na fydd byth yn dod i ben!

  • safbwynt – y ffordd mae person yn edrych ar sefyllfa
  • dynoliaeth – dysgu am ddiwylliant dynol fel llenyddiaeth, hanes, celf, cerddoriaeth ac athroniaeth
  • dull – y ffordd o wneud rhywbeth
  • annibynnol – ar fy mhen fy hun
  • mamiaith – yr iaith rydych chi’n tyfu i fyny yn ei siarad o blentyndod
  • ryngweithiol – cyfathrebu rhwng pobl neu lif gwybodaeth rhwng dyfais a pherson
  • argymell – awgrymu
  • dyweddiad – cytundeb i briodi
  • Strudel – pwdin wedi’i wneud o grwst tenau wedi’i lenwi â ffrwythau
  • hierarchaidd – pobl/pethau wedi’u trefnu mewn trefn yn seiliedig ar eu pwysigrwydd
  • arferion diwylliant – ymddygiadau neu werthoedd a rennir o fewn cymuned